Penodi’r Athro Peter Huxley i Fwrdd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Mae Peter Huxley, Athro Ymchwil Iechyd Meddwl yn y Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas, wedi cael ei benodi’n aelod o fwrdd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Bydd yr Athro Huxley yn cynrychioli’r Grŵp Uwch Arweinwyr Ymchwil, gan gyfrannu llawer o flynyddoedd o brofiad ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl.
Dyma fydd cylch gorchwyl Bwrdd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
- Cynghori Is-adran Llywodraeth Cymru ar Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar strategaeth a pholisi ar Ymchwil a Datblygiad, yn enwedig yng nghyswllt gweithredu.
- Adolygu cynnydd wrth ochr dangosyddion a thargedau allweddol cenedlaethol, sialensiau a datrysiadau. Adrodd ar gynnydd ac allbynnau ar draws mentrau a gyllidir gan Ymchwil Iechyd a Gofal, a’u hadolygu.
- Ystyried papurau a chynlluniau a gyflwynir i’r Bwrdd ar amrywiaeth o faterion strategol a gweithrediadol, a rhoi sylwadau arnynt.
- Nodi materion ymarferol ac ymdrin â hwy, yn cynnwys rhwystrau rhag gweithio ar draws mentrau sy’n effeithio ar y modd y gwireddir amcanion ar draws Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
- Nodi ac annog arferion sy’n gwella’r broses o weithio’n ategol ar draws isadeiledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Cewch fwy o fanylion ar: http://www.healthandcareresearch.gov.wales/
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2015