Ymchwil Cymhwysol mewn Troseddeg: ennill interniaeth myfyriwr israddedig am y bedwaredd flwyddyn
Bydd myfyriwr troseddeg Catherine Suddaby yn cefnogi grŵp ymchwil dan arweiniad yr Athro Stefan Machura yn astudio canfyddiadau o drosedd ymhlith myfyrwyr a swyddogion yr heddlu, ar ôl sicrhau interniaeth â thâl drwy Brifysgol Bangor.
Mae'r project yn rhan ganolog o'r modiwl ôl-radd 'Ymchwil Cymhwysol mewn Troseddeg'. Dros gyfnod o 150 awr, bydd Catherine sy'n fyfyriwr trydedd flwyddyn ar y cwrs Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, yn cymryd rhan mewn samplu a dadansoddi data yn ystadegol, yn ogystal ag ysgrifennu adroddiad ymchwil. Bydd yr adroddiad yn sail i erthygl a gyflwynir i gyfnodolyn academaidd.
Dyma'r bedwaredd flwyddyn yn olynol y mae'r Athro Machura wedi sicrhau interniaeth â thâl drwy gynllun interniaeth israddedigion y brifysgol. Mae projectau ymchwil blaenorol y mae interniaid wedi cyfrannu atynt wedi canolbwyntio ar y defnydd o'r Gymraeg; ymddiriedaeth mewn sefydliadau ac, yn arbennig, yr heddlu; a gyrru dan ddylanwad. Mae'r interniaeth yn rhoi golwg unigryw i israddedigion ar ddefnyddio ymchwil empirig.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2017