Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Ymchwil o Fangor yn cynorthwyo llyfr newydd gan yr Amgueddfa Victoria ac Albert

Catrin gyda'r defnydd Cross Twiggs yng Nghastell Penrhyn.Catrin gyda'r defnydd  efo'r patrwm 'Cross Twigs' yng Nghastell Penrhyn.Mae myfyrwraig ymchwil ym Mhrifysgol Bangor wedi cadarnhau amheuon fod cynllun patrwm gan Morris a’r Cwmni, mewn gwirionedd, yn hŷn nag a dybiwyd o’r blaen. Gan weithio mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae Catrin Wager o Fethesda yn arwain ar Brosiect Penrhyn, MRes a gyllidir gan KESS ym Mhrifysgol Bangor sy’n golygu catalogio Papurau Castell y Penrhyn a gedwir yn Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol.  Dechreuodd Catrin ar y dasg anferth o recordio a chatalogio cynnwys 77 o flychau yn Ionawr 2012.

Derbyniwyd papurau Castell Penrhyn gan Lywodraeth Cymru, yn lle Tollau Marwolaeth, yn 2010. Bu Catrin yn archwilio pob dogfen yn fanwl, gan recordio’r wybodaeth a geir ynddynt er mwyn creu catalog helaeth o’r deunydd yn y pen draw.

Gofynnodd Clare Turgoose, Rheolwr y Tŷ a’r Casgliadau yng Nghastell Penrhyn, i Catrin edrych am unrhyw ddogfennau a oedd yn ymwneud â phryniannau o Morris a’r Cwmni. Chwe wythnos yn unig ar ôl iddi gychwyn ar yr ymchwil, cafodd Catrin hyd i restri cynnwys a derbynebau yn ymwneud ag ymweliad Tywysog Cymru â’r Castell ym 1894. Talodd yr Arglwydd a’r Fonesig Penrhyn ar y pryd yn ddrud am waith ailwampio ar yr eiddo, yn cynnwys yr ystafell a ddefnyddid gan y Brenin yn ystod ei arhosiad. Cafwyd hyd i dderbynebau gwerth £845 i William Morris a’r Cwmni, a arweiniodd at y cadarnhad hwn.

Dywedodd Claire wrth Catrin fod Amgueddfa Victoria ac Albert yn bwriadu cyhoeddi llyfr newydd ar William Morris, ac i’r awdur fod mewn cysylltiad, am ei bod yn ceisio cael hyd i dystiolaeth a fyddai’n gymorth i ddyddio patrwm y ‘Cross Twiggs’. Darllenodd Catrin yn ofalus trwy’r derbynebau a sylwi ar sôn am y patrwm – darganfyddiad a fyddai’n profi bod y ‘Cross Twiggs’, mewn gwirionedd, yn bodoli bum mlynedd yn gynt nag yr oedd arbenigwyr wedi credu o’r blaen.

Bu Linda Parry, awdur William Morris Textiles (1983), yn gweithio yn Amgueddfa Victoria ac Albert am 30 mlynedd cyn ymddeol yn 2005.

Wedi cynhyrfu ynglŷn â chanfyddiadau Catrin, eglurodd Linda:

“Hyd yma, mae’r hyn a ddarganfu Catrin wedi bod yn ddefnyddiol iawn.  Rai blynyddoedd yn ôl, bûm yn ymwneud â churadur a oedd wedi gweithio yng Nghastell Penrhyn. Roedd hi’n gwybod am fy llyfr, sy’n cynnwys catalog o’r cyfan o gynlluniau ailadroddus William Morris ar gyfer tecstilau, ac yn gallu dweud bod y dyddiad cynllunio yr oeddwn wedi’i amcangyfrif ar gyfer y “Cross Twiggs” bum mlynedd yn rhy hwyr, am iddo gael ei ddefnyddio ar ddodrefn y gwely ar gyfer ymweliad brenhinol â Chastell y Penrhyn ym 1894. Yn awr, rwyf wrthi’n diwygio’r llyfr, sydd i’w gyhoeddi yn 2013 gan Amgueddfa Victoria ac Albert.”

“Mae’r anfonebau gwreiddiol yng nghyswllt nifer o bapurau wal Morris a thecstilau eraill yn awgrymu y gall yr ymchwil hon ddarganfod y ffaith fod Morris a’r Cwmni â chyswllt llawer agosach â Chastell Penrhyn nag a dybiwyd gynt.”

William Morris oedd dylunydd unigol mwyaf dylanwadol y 19eg ganrif.  Yn ystod y cyfnod hwn, tyfodd Morris a’r Cwmni’n fusnes addurno ffyniannus a ffasiynol, a oedd yn enwog am ei bapurau wal a’i decstilau. Mae cynlluniau William Morris yn boblogaidd dros ben ac yn dal i fod ar gael heddiw.

Gan deimlo wrth ei bodd ynglŷn â’r darganfyddiad, medd Catrin:

“Er y gwyddwn fy mod yn debygol, yn ystod y project hwn, o ddarganfod tystiolaeth wirioneddol ddiddorol ynglŷn â materion lleol, megis Chwarel Penrhyn a’r Streic Fawr, nid oeddwn fyth wedi dychmygu y gallai fy ngwaith helpu arbenigwr penigamp megis Linda Parry, ac mae bod yn gysylltiedig ag Amgueddfa Victoria ac Albert yn wir anrhydedd, yn enwedig mor gynnar â hyn yn fy ymchwil. Mae hyn ynddo’i hun yn dangos posibiliadau’r project, ac yn rhan o’r rheswm fy mod yn cadw blog o’m darganfyddiadau newydd – www.prosiectpenrhyn.wordpress.com.”  

Cyllidir ysgoloriaeth ymchwil Catrin dan Raglen Ysgoloriaeth Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth (KESS). Mae KESS yn rhaglen Gydgyfeirio Ewropeaidd o bwys dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Gan gael budd o Gronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd (ESF), mae KESS yn cefnogi projectau ymchwil cydweithredol (Meistri Ymchwil a PhD), gyda phartneriaid allanol, wedi’u lleoli yn Ardal Gydgyfeirio Cymru (Gorllewin Cymru a’r Cymoedd). Mae elfennau’r Meistri Ymchwil a PhD wedi’u cyfuno â rhaglen hyfforddi mewn medrau uchel eu safon, gan arwain ar Gymhwyster Ôl-radd mewn Datblygu Sgiliau. Bydd KESS yn parhau tan 2014, ac yn darparu + o leoedd PhD a Meistr.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2012

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas
    • Hafan
    • Gwybodaeth am yr adran
      • Staff
      • Bangor a’r ardal
      • Cysylltu â ni
    • Israddedigion
      • Proffiliau Myfyrwyr
      • Astudio tramor
    • Cyrsiau Ôl-raddedigion Trwy Ddysgu
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedigion
    • Archebu Prospectws
    • Ymchwil
      • Ymchwil Moeseg
    • Newyddion a Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
      • Cynhadleddau
    • Fideos
    • Cysylltu â ni
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor