Ymweliad Myfyrwyr â Berlin
Bu criw o fyfyrwyr Gwyddorau Cymdeithas ar daith gyffrous i Berlin yn ystod wythnos gyntaf gwyliau'r Pasg ym mis Ebrill. Aeth trideg o fyfyrwyr a thri aelod staff i brifddinas yr Almaen ar y daith dramor gyntaf i'w threfnu ar y cyd rhwng yr Ysgol a'r Gymdeithas Gwyddorau Cymdeithas ers rhai blynyddoedd. Roedd y syniad i gynnal y daith yn gysylltiedig yn wreiddiol â dathliadau pen-blwydd yr Ysgol yn 50 y llynedd. Berlin oedd dewis cyntaf y myfyrwyr oherwydd ei hatyniadau hanesyddol, diwylliannol a chymdeithasol.
Arhosodd y parti am bedair noson yn Hostel A & O Friedrichshain, un o'r hostelau mwyaf yn Berlin, a leolir yn ardal liwgar a ffasiynol dwyreiniol y ddinas gyda nifer o fwytai a bariau gerllaw sy'n boblogaidd gyda myfyrwyr lleol. Roedd yr hostel yn ganolfan ddelfrydol i grwydro'r ddinas, yn agos i’r metro a dim ond ychydig orsafoedd o Alexanderplatz.
Roedd y diwrnod cyntaf yn ddiwrnod rhydd i'r myfyrwyr ymgynefino â'r ddinas. Aeth rhai o'r myfyrwyr i ymweld â sw enwog Berlin ac aeth eraill i ganol y dref gan gerdded heibio Oriel yr Ochr Ddwyreiniol ar eu ffordd yno. Mae Oriel yr Ochr Ddwyreiniol yn rhan 1,316 metr o hyd o wal Berlin sydd wrth ymyl yr afon Spree ac sydd erbyn heddiw yn gofadail ryngwladol i ryddid. Roedd y gwaith celf a orchuddia'r wal â negeseuon radical a gwrth ryfel yn arbennig o drawiadol. Hefyd mae nifer o artistiaid stryd yn perfformio yn Oriel yr Ochr Ddwyreiniol yn amrywio o'r arbrofol a rhyfedd at gerddorion dawnus.
Dechreuodd yr ail ddiwrnod gyda thaith dywys o Gofadail yr Holocost sydd yn agos at Borth Brandenburg yng nghanol Berlin. Cynlluniwyd y gofadail gan y pensaer Peter Eiseman a'i hagor yn 2005. Yn ystod y daith dywys dysgodd y myfyrwyr fod cynllun Eiseman o fwriad yn annog yr ymwelydd i ddehongli’r gofadail yn eu ffordd eu hunain. Yn dilyn cerdded drwy'r gofadail, hwylusodd ein tywysydd drafodaeth ynghylch sut oedd y myfyrwyr wedi dehongli'r profiad. I rai roedd y cae tonnog o slabiau concrit yn cynrychioli cerrig beddi ac i eraill, môr enfawr yn cynrychioli dioddefaint yr Iddewon a lofruddiwyd yn ystod Teyrnasiad Braw'r Natsïaid 1933-45.
Gyda'r hwyr gwnaethom fwynhau taith dywys o gwmpas adeilad Bundestag (senedd) yr Almaen, y Reichstag. Cafodd y Reichstag ei thrawsnewid gan y pensaer Syr Norman Foster ac mae'r Bundestag wedi ymgynnull yno ers i'r Almaen ail-uno yn 1990. Dechreuodd y daith drwy ddangos y tyllau bwledi yn y waliau a wnaed gan luoedd Rwsia wrth iddynt ddod i mewn i Berlin yn 1945. Aeth y daith â ni ar hyd y coridor lle mae swyddfa Angela Merkel, Canghellor yr Almaen, ac ymlaen i siambr y senedd. Gorffennodd gydag ymweliad â'r gromen â'i golygfeydd anhygoel 360 gradd o Berlin liw nos.
Dechreuodd y trydydd diwrnod gyda thaith metro i Alexanderplatz i fynd i fyny'r lifft i ben Tŵr Teledu Berlin. Y Tŵr Teledu yw'r adeilad talaf yn Berlin, yn 368 metr. Mae'r llwyfan archwilio yn 203 o fetrau o uchder ac mae'n bosib mwynhau golygfeydd panoramig o Berlin ar ddiwrnod braf a chael diod yn y bar ar yr un pryd.
Yn y prynhawn gwnaethom ymweld â'r Amgueddfa Iddewig sydd wedi'i chynllunio ar ffurf Seren Dafydd dad-luniedig gan y pensaer Daniel Libeskind. Mae'r amgueddfa yn olrhain hanes yr Iddewon yn yr Almaen o hanes cynnar hyd heddiw. Rhannodd y myfyrwyr yn ddwy daith dywys, un ar hanes yr Iddewon yn ystod y Weriniaeth Weimar a'r llall ar Deyrnasiad Braw'r Natsïaid. Yn dilyn y teithiau cawsom gyfle i grwydro drwy'r amgueddfa ar ein pwysau'n hunain ac ystyried dwyster ac erchyllter profiadau'r Iddewon yn ystod y cyfnodau duaf yn hanes yr Almaen.
Bu'r daith i Berlin yn ei chyfanrwydd yn llwyddiant ysgubol i bawb ohonom a ymwelodd â'r ddinas. Yn eu hadroddiad yn gwerthuso'r daith i'r Gymdeithas Gwyddorau Cymdeithas, dyma oedd gan dri o aelodau'r Gymdeithas, Sian Robinson, Elle Rogerson ac Ellie Rose i'w ddweud:
"Tra bod y daith i Berlin yn gyfle i ymlacio o straen aseiniadau ac arholiadau, roedd hefyd yn hynod o addysgol ac yn ysgogi meddwl. Mae Berlin yn ddinas hardd ac artistig a bu'r daith ei hun yn gyfle rhagorol i ymwneud â'r Gymdeithas Gwyddorau Cymdeithasol a dod i nabod pobl eraill sy'n astudio cyrsiau tebyg. Mae llawer ohonom yn bendant yn profi hiraeth am Berlin; ni ellid byth ail-greu’r atgofion a ffurfiwyd na'r profiadau a gawsom.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2017