Ysbrydolwyd gan 2001 Cystadleuaeth i Fyfyrwyr Prifysgol Bangor
Gwahoddir myfyrwyr Prifysgol Bangor i gyflwyno cynigion ar gyfer y darn gorau o waith creadigol y gellir ei daflunio naill ai'n weledol neu'n sonig, ac a ysbrydolwyd gan 2001: A Space Odyssey (1968) gan Stanley Kubrick. Mae'n agored i unrhyw gynnyrch digidol gwreiddiol yn cynnwys ffilmiau byr, gemau, cerddoriaeth, animeiddio, ffotograffiaeth, rhithrealiti (ond heb ei gyfyngu i'r rhain chwaith).
Caiff cynigion a roddir ar y rhestr fer eu harddangos yn y Bocs Gwyn yn Pontio yn ystod y digwyddiad 2001: Tu hwnt i 50, a gynhelir ar 16 Mehefin 2018. Bydd yr enillydd yn derbyn £200 mewn tocynnau Amazon. Bydd yr ail orau'n derbyn copi wedi'i lofnodi o The Making of Stanley Kubrick’s 2001: A Space Odyssey (Taschen) gan Piers Bizony.
Anfonwch eich cynigion at: n.abrams@bangor.ac.uk
Anfonwch unrhyw ymholiadau at: Yr Athro Nathan Abrams, n.abrams@bangor.ac.uk
Dyddiad cau: 1 Mehefin 2018.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2018