« Mehefin 2021 »
Su | Ll | Ma | Me | I | G | Sa |
---|---|---|---|---|---|---|
1 | 2 | 3 | 4 | 5 | ||
6 | 7 | 8 | 9 | 10 | 11 | 12 |
13 | 14 | 15 | 16 | 17 | 18 | 19 |
20 | 21 | 22 | 23 | 24 | 25 | 26 |
27 | 28 | 29 | 30 |
Ymddygiad Iach mewn unigolion a systemau: Beth sy'n gyrru ymddygiad a sut allwn ni ei harneisio?
Mae'r ALPHAcademy yn hapus i gyhoeddi y byddwn yn cynnal gweithdy'am ddim i fynychu'ar yr 28ed o Fehefin 2021 ac yn croesawu pawb sy'n dymuno cymryd rhan.
- Lleoliad:
- Online
- Amser:
- Dydd Llun 28 Mehefin 2021, 10:00–16:00
- Cyswllt:
- Sarah Custy
Teitl y gweithdy:
Ymddygiad Iach mewn unigolion a systemau:
Beth sy'n gyrru ymddygiad a sut allwn ni ei harneisio?
Dan arweiniad Prof John Parkinson
Dydd Llun 28ed o Fehefin 10:00 -16:00
Cofrestrwch yma:
https://www.bangor.ac.uk/cy/alphacademy/gweithdai
Crynodeb: Nid yw gweithredoedd da bob amser yn cyd-fynd â’n bwriadau gorau. Bydd y gweithdy hwn yn rhoi cyflwyniad i newid ymddygiad ac yn ystyried beth sy'n dylanwadu ar ymddygiad a pham weithiau nad yw gosod nodau yn arwain at gamau priodol. Trafodir enghreifftiau ac astudiaethau achos, a byddwn hefyd yn ystyried ymddygiad o fewn system a sut y gall dulliau sy’n seiliedig ar systemau gefnogi newid ar raddfa fwy.
Amserlen Gweithdy:
10:00 - 10:15
Cyflwyniadau - cwrdd â staff yr ALPHAcademy, a rhagarweiniad i'r diwrnod.
10:15 - 12:00
Ceir llawer o wahanol fathau o newid ymddygiad - mae rhai yn dibynnu ar berswâd a newid agweddau, eraill ar osod nodau a bwriad ymwybodol. Bydd y sesiynau yn y bore yn trafod mathau o newid ymddygiad, modelau dadansoddol a rhai o'r heriau sy'n codi. Yn y sesiwn hon, byddwn hefyd yn cyflwyno proses ddeuol o newid ymddygiad, gan drafod sut y gellir defnyddio'r ddamcaniaeth hon mewn ymarfer. Trwy gyfuniad o brif ddarlithoedd, sesiynau holi ac ateb a thrafodaethau grwpiau bach, byddwn yn rhannu ein profiadau o gymhwyso newid ymddygiad i ymarfer.
12:00 - 13:00 Egwyl cinio
13:00 - 14:30
Bydd sesiwn gyntaf y prynhawn yn defnyddio nifer o astudiaethau achos i drafod y pwyntiau a godwyd yn sesiwn y bore. Bydd y casgliad o gyflwyniadau o gyd-destunau penodol yn tynnu sylw at amrywiaeth o heriau sy'n ein hwynebu wrth reoli newid ymddygiad. Yna bydd cyfle i rannu eich profiadau mewn grwpiau bach, a thrafod dulliau o reoli'r heriau.
14:30 - 15:30
Bydd ail sesiwn y prynhawn yn dechrau gyda chyflwyniad i feddwl trwy systemau, a'r cyfle i ofyn cwestiynau.
15:30 - 16:00
Adborth a thrafodaeth yn y grŵp ehangach i roi’r gweithdy mewn cyd-destun i bawb sy’n bresennol.
Os hoffech chi gofrestru am le yn y gweithdy, dilynwch y linc isod a llenwch y ffurflen gofrestru.