Archif Newyddion: Rhagfyr 2014

Athro o Brifysgol Bangor yn siarad â Grŵp Diddordeb Senedd Ewrop ar Iechyd Meddwl, Lles ac Anhwylderau Ymenyddol

Rhoddodd yr Athro Peter Huxley o'r Gaolfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Chymdeithas ym Mhrifysgol Bangor arweiniad arbenigol i'r gwaith o ddatblygu mynegai cynhwysiant cymdeithasol iechyd meddwl (gan yr "Economist Intelligence Unit") sy'n cymharu'r polisïau a'r arferion cynhwysiant iechyd meddwl mewn 38 o wledydd yn Ewrop.

 

Dyddiad cyhoeddi: 22 Rhagfyr 2014

Llawer yn dod i Farchnad Nadolig y Myfyrwyr

Agorodd Neuadd PJ ei drysau i  dros 1,000 o gwsmeriaid o bob rhan o’r Brifysgol, yn ogystal â’r gymuned ehangach, ar gyfer ei phumed Ffair Nadolig flynyddol i’w chynnal gan y Myfyrwyr. Manteisiodd ymwelwyr ar y cyfle i brynu cynhyrchion unigryw o waith llaw, yn ogystal ag anrhegion munud olaf ac eitemau i lenwi’r hosan Nadolig. Roedd llawer o’r eitemau ar thema Gymreig neu ryngwladol, ac roedd nifer o stondinau wedi gwerthu eu holl stoc o fewn ychydig oriau.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014

Yr Athro John Witcombe o Brifysgol Bangor yn ennill gwobr o fri

Nos Fawrth, derbyniodd yr Athro John Witcombe, Cymrawd-Athro yn yr Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, wobr Amaethwr Datblygu y Flwyddyn ar gyfer 2014 gan y Gymdeithas Amaeth Drofannol.  

 

Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014

Prifysgol Bangor yn cael ei chydnabod am ei hymchwil sydd gyda'r orau yn y byd

Mae ymchwil Prifysgol Bangor yn cael effaith o bwys ledled y byd yn ôl asesiad cenedlaethol o ansawdd ymchwil (REF) a gyhoeddwyd heddiw.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2014

Gofal Iechyd Darbodus - Bangor yn ymchwilio i ffyrdd o gynorthwyo Llywodraeth Cymru

Ymwelodd dirprwyaeth o Lywodraeth Cymru â Phrifysgol Bangor i ymweld â Chanolfan Newid Ymddygiad Cymru  (WCBC) a thrafod agenda Gofal Iechyd Darbodus y llywodraeth. Mae Canolfan Newid Ymddygiad Cymru ar hyn o bryd yn ysgrifennu pennod ar gyfer yr e-lyfr Gofal Iechyd Darbodus (prudenthealthcare.org.uk) er mwyn cynorthwyo i ledaenu gwybodaeth am wyddor newid ymddygiad ym maes gofal iechyd darbodus.

 

Dyddiad cyhoeddi: 17 Rhagfyr 2014

Cyn fyfyriwr Gwyddorau Biolegol yn ysgrifennu llyfr poblogaidd

Hanes dychrynllyd bod ar fwrdd cwch bysgota a suddodd yn nyfroedd yr Antartica a geir gan gyn fyfyriwr Prifysgol Bangor yn ei lyfr poblogaidd, Last Man Off.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2014

Tyfu tomatos blasus iawn yn yr awyr agored yng Nghymru a'r DU

O’r flwyddyn nesaf ymlaen bydd garddwyr Prydain yn medru tyfu tomatos sy’n medru gwrthsefyll malltod, yn dilyn gwaith ar y cyd gyda Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2014

Y Gymdeithas Ecolegol Brydeinig yn gwobrwyo darlithydd o Brifysgol Bangor

A lecturer at Bangor University’s School of Environment, Natural Resources and Geography has been awarded the prestigious British Ecological Society’s Founders’ Prize for 2014.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2014

Gallai dealltwriaeth newydd o wenwyn nadredd esgor ar feddyginiaethau gwrthwenwyn mwy effeithiol

Gallai ymchwil newydd, sydd yn gwrthbrofi'r ddamcaniaeth bod gwenwyn wedi esblygu unwaith yn unig mewn ymlusgiaid, arwain hefyd at driniaethau meddygol newydd i wrthweithio effaith brathiadau gan nadredd.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2014

Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymweld i glywed am 25 mlynedd o ymchwil

Bu Dr Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymweld â Phrifysgol Bangor yn ddiweddar i gyflwyno darlith ar y cyfleoedd ar gyfer rheolaeth integredig ar ein hadnoddau naturiol i gynulleidfa wadd o staff a myfyrwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Rhagfyr 2014

Mae treillio’n gwneud lledod yn denau

Nid yn unig y mae treillio gwely’r môr yn codi rhai o’r pysgod sy’n byw yno; mae hefyd yn gwneud rhai o’r rheiny sy’n goroesi yn deneuach ac yn llai iach trwy eu gorfodi i ddefnyddio mwy o egni i gael hyd i fwyd llai maethlon.

Dyma gasgliad papur a gyhoeddwyd mewn papur newydd a gyhoeddwyd yn y Proceedings of the Royal Society of London B, ar sail gwaith a gyflawnwyd gan Dr Andrew Frederick Johnson tra oedd yn astudio ar gyfer ei PhD ym Mhrifysgol Bangor. “Roeddem eisoes yn gwybod bod rhai rhywogaethau o bysgod gwely’r môr yn deneuach mewn mannau a dreillir nag mewn mannau eraill, ar sail gwaith cynharach gan Dr Jan Geert Hiddink (2011, Journal of Applied Ecology), ond hyd yma, cymerwyd mai’r rheswm oedd eu bod yn methu â chael hyd i ddigon o fwyd ac yn newynu trwy hynny.”

Dyddiad cyhoeddi: 11 Rhagfyr 2014

Nodweddion gwrywaidd yn cefnogi theori "ymennydd gwrywaidd eithafol" anhwylder sbectrwm awtistaidd

Mae ymchwil diweddar gan Brifysgol Bangor wedi datgelu agwedd newydd ar theori hirsefydlog ym maes anhwylder sbectrwm awtistaidd (ASA).

Mae'r theori "ymennydd gwrywaidd eithafol" a gynigiwyd gan Simon Baron-Cohen, yn damcaniaethu bod ASA yn ganlyniad i lefelau testosteron dyrchafedig cyn-geni. Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y cyfnodolyn Clinical Psychological Science, ymchwiliodd Naomi Scott a chydweithwyr yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor i oblygiadau posib hynny ar ymddangosiad corfforol a gysylltir ag ASA.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2014

Prifysgol Bangor yn dod â chyllid ymchwil Ewropeaidd sylweddol i ogledd Cymru

Codwyd cyllid ymchwil gwerth bron i £10 miliwn gan ymchwilwyr Prifysgol Bangor o raglen cyllid ymchwil yr Undeb Ewropeaidd gan Brifysgol Bangor, ac mae'r brifysgol yn disgwyl gwella'r canlyniadau hyn yn rhaglen ymchwil ac arloesi newydd Ewrop.

Llwyddwyd i ariannu pedwar deg dau o brif brojectau ymchwil Ewrop-gyfan dan arweiniad academyddion Prifysgol Bangor, yn wyneb cystadleuaeth gref yn FP7, sef  seithfed Raglen Fframwaith Ymchwil y Comisiwn Ewropeaidd a gynhaliwyd o 2007 tan 2013.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2014

Y deyrnas unedig ar drothwy cynnydd sylweddol mewn lefelau clefyd yr ysgyfaint ymysg oedolion ifanc - oherwydd ysmygu spliff trwm?

Mae’r DU angen bod yn barod am gynnydd sylweddol yn y nifer o oedolion ifanc sy’n cael eu heffeithio gan ffurf ddifrifol o glefyd yr ysgyfaint oherwydd eu defnydd rheolaidd o ganabis a thybaco – dyma fydd arbenigwyr yr ysgyfaint yn ei ddweud wrth Gyfarfod y Gaeaf y Gymdeithas Thorasig Brydeinig dydd Mercher 3 Rhagfyr.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2014

Draenogod y môr o’r Antartig yn dangos eu bod yn gallu ymaddasu i asideiddio’r cefnfor

Mae astudiaeth o ddraenogod môr o Benrhyn yr Antartig wedi dangos eu bod yn gallu ymaddasu i newidiadau mewn amodau, fel cynnydd yn nhymheredd y môr ac asideiddio.  Gan ysgrifennu yn y cyfnodolyn Journal of Animal Ecology, mae'r awduron yn mynd ati i ateb cwestiynau pwysig a sylfaenol ynghylch sut y bydd bywyd yn y cefnfor yn ymateb i newidiadau a ragwelir yn ystod y degawdau i ddod.    

Er gwaethaf tystiolaeth o asideiddio cynyddol yng nghefnforoedd y byd, mae cwestiynau'n parhau ynghylch a fydd rhywogaethau môr yn gallu addasu i'r newidiadau hyn mewn amodau.  Mae'r astudiaeth hon, dan arweiniad gwyddonwyr o'r British Antarctic Survey a Phrifysgol Bangor, yn un o'r rhai hiraf a gynhaliwyd erioed.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2014

Dull ‘Plane Easy’ yn gwneud golff yn hawdd

Er gwaethaf manteision ymarfer corff ysgafn i gymedrol a rheolaidd i iechyd, mae lefelau gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion yng Nghymru’n dal i fod yn isel.  Mae’n bosib i golff lenwi’r bwlch hwnnw ac arwain at nifer o fanteision; fodd bynnag, mae’r niferoedd sy’n chwarae golff wedi bod yn gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r hyfforddwr golff, Matthew Wharton (o The Golf Performance Studio ym Mangor), un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, yn ceisio mynd i’r afael â hyn gyda’i ddull chwarae golff “Plane Easy”.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2014

Dwyieithrwydd a heneiddio

Mae llawer o bobl hŷn yn cadw'n heini'n feddyliol ac yn mwynhau gwneud croeseiriau a gemau i 'hyfforddi'r ymennydd' yn ystod eu hamser hamdden. Ond hyd yma, mae'r wyddoniaeth am eu heffeithiolrwydd yn rhannol ac amhendant.  

Maes arall nad ydym yn ei ddeall yn iawn ac sydd hefyd wedi arwain at wahanol ganlyniadau, yw'r cwestiwn a yw bod yn ddwyieithog yn ffactor amddiffynnol mewn cyflyrau cysylltiedig ag oed fel clefyd Alzheimer.    

Arweiniwyd astudiaeth ar raddfa fechan am siaradwyr Cymraeg/Saesneg gan y Cyngor Economaidd ac Ymchwil Gymdeithasol, dan arweiniad yr Athro Linda Clare yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor. Ar ddechrau'r astudiaeth hon nid oedd unrhyw dystiolaeth ar gael am effeithiau dwyieithrwydd mewn siaradwyr Cymraeg hŷn. Mae'r astudiaeth wedi ei chwblhau erbyn hyn ac ni chafwyd tystiolaeth bod Clefyd Alzheimer yn datblygu'n hwyrach mewn siaradwyr dwyieithog Cymraeg/Saesneg. Roedd y canfyddiad hwn yn debyg i'r hyn a welwyd ym Montreal, Canada sef nad oedd bod yn ddwyieithog yn fantais mewn pobl ddwyieithog nad ydynt yn fewnfudwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Rhagfyr 2014

Diwrnod Gwenwyn yn mynd o nerth i nerth

Yn ddiweddar, cynhaliodd Cymdeithas Herpetolegol Prifysgol Bangor ei phedwerydd Diwrnod Gwenwyn blynyddol. Cynhaliwyd y digwyddiad yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol, lle rhoddodd sawl arbenigwr sgyrsiau ar nifer o bynciau yn y maes a lle cafodd y cyfranogwyr gyfle i weld arddangosiad byw o ymlusgiaid gwenwynig, yn cynnwys Cobra, Anghenfil Gila ac amrywiaeth o wiberod. Noddir y digwyddiad yn rhannol gan Gymdeithas Herpetolegol Prydain a’r Gymdeithas Herpetolegol Ryngwladol.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Rhagfyr 2014

A ydych yn cael digon o ymarfer corff i fynd yn sâl?

A ddylech ymarfer yn galetach neu am fwy o amser?

Mae rasys Marathon a rasys dygnwch yn dod yn fwyfwy poblogaidd, ac felly hefyd yr awch am ymarfer yn ddwys, megis mewn dulliau a dosbarthiadau hyfforddi dwys ‘spike’ neu ‘buzz’. Ond p’un sydd orau i chi? Neu, fel arall, p’un fydd yn achosi’r niwed lleiaf i’ch system imiwnedd?

Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Bangor yn herio’r meddylfryd cyfredol fod ymarferion hwy, llai straenus yn llai niweidiol i’r system imiwnedd.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2014

Archif y mis

Ffotograff o Stryd Fawr Bangor, tua 1910. Fe ymddengys iddo gael ei dynnu o gyfeiriad y cloc.

Daw’r llun yma o gasgliad R.T. Pritchard, Ffordd y Gogarth, Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2014

Darlithydd yn y Gyfraith o Fangor yn cael ei phenodi'n Gymrawd Academaidd yn yr Inner Temple

Mae Dr Yvonne McDermott Rees, Darlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor, wedi cael ei phenodi i swydd dair blynedd bwysig fel Cymrawd Academaidd Cymdeithas Anrhydeddus yr Inner Temple

Mae Dr McDermott Rees yn un o ddim ond pedwar o academyddion blaenllaw a ddewiswyd gan Gymdeithas Anrhydeddus yr Inner Temple, un o bedwar Ysbyty'r Brawdlys yng Nghymru a Lloegr.  Ysbytai'r Brawdlys yn unig sydd â'r hawl i alw ymgeiswyr i weithredu wrth Far Cymru a Lloegr.  Mae Cynllun Cymrodyr Academaidd yr Inner Temple yn cydnabod cyfraniad nodedig academyddion ar ddechrau neu ar ganol eu gyrfa ym maes dysgu ac ymchwil yn y gyfraith.  Ei nod hefyd yw cefnogi eu hymchwil a meithrin cysylltiad cryfach rhwng y Bar, y farnwriaeth a'r gyfraith yn y byd academaidd.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2014

Gwobr Syr Geraint Evans yn cydnabod cyfraniad darlithydd a chyfansoddwr

Cyflwynwyd Gwobr Syr Geraint Evans 2013 Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru i Dr Guto Pryderi Puw, o Brifysgol Bangor, i gydnabod ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru, fel cyfansoddwr, darlithydd a Chyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerdd Newydd Bangor yn ddiweddar (30 Tachwedd 2014) yng Nghlwb Caerdydd a’r Sir.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2014

Mae dysgu rhythmau iaith yn fodd i ddod yn siaradwyr rhugl

As Wales faces a decline in the number of Welsh speakers, it’s even more important that Welsh learners make the transition from second language learners to become fluent Welsh speakers.

One identified obstacle to ‘fluency’ is Welsh learner’s difficulty in replicating the sound of Welsh- not only the ‘ll’ ‘ch’ and other sounds unfamiliar to the English ear, but also the stress and rhythm of the language, which is different to that of English, and other languages.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Rhagfyr 2014

Straeon rhyngweithiol Food Dudes i helpu plant bach i fod yn egnïol drwy gydol eu hoes.

Mae ymchwil y diweddar Athro Fergus Lowe a’r Athro Pauline Horne ar newid ymddygiad wedi arwain at ddatblygiad Sustem Newid Ymddygiad Food Dudes  llwyddiannus iawn er mwyn gwella iechyd a lles plant, ac sydd wedi eu mabwysiadu mewn sawl gwlad. Mae’r rhaglenni hyn sydd wedi ennill gwobrau, yn defnyddio egwyddorion ymddygiad pwysig, sef efelychu, gwobrwyo a blasu sawl gwaith i helpu plant rhwng 2-11 oed i fwynhau bwyta ffrwythau a llysiau a newid y bwydydd y byddant yn eu dewis am weddill eu bywydau. Mae’r Sustem wedi eu treialu yn rhyngwladol ac yn 2012, arweiniodd eu llwyddiant at greu cwmni menter gymdeithasol; Food Dudes Health.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Rhagfyr 2014

Sut y mae prifysgolion Cymru'n datblygu'r byd o'n cwmpas?

Mae heddiw'n nodi lansiad porth newydd – www.researchwales.ac.uk – a fydd yn tynnu sylw at rai o'r enghreifftiau gwych o sut y mae prifysgolion Cymru'n datblygu'r byd o'n cwmpas. Ymhlith yr ymchwil sy'n cael ei arddangos mae enghreifftiau gwych o waith ymchwil gan academyddion Prifysgol Bangor. Mae'r rhain yn cynnwys yr enghreifftiau canlynol.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Rhagfyr 2014

Cymysgu dyfroedd yng Nghefnfor y De

Mae Cefnfor y De yn amgylchynu Antartica ac mae'n chwarae rhan allweddol mewn rheoli'r hinsawdd byd-eang.  Yma y mae ceryntau'r cefnfor yn dychwelyd i'r wyneb o'r dyfnderoedd, gan gau'r cefnfor byd-eang a gwyrdroi cylchrediad.  Mae'r cylchrediad hwn yn gyrru gwres i gyfeiriad y pegwn, sy'n allweddol i'r tywydd cymharol fwyn a gawn yma ym Mhrydain.

Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Bangor a'r National Oceanography Centre yn Lerpwl wedi nodi am y tro cyntaf broses newydd sy'n cyfrannu at y dŵr hwn sy'n codi i fyny o'r dyfnder.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Rhagfyr 2014