Archif Newyddion: Mehefin 2015

Prifysgol Bangor yn cyfrannu at Ganolfan newydd Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys (Canolfan PRIME Cymru)

Mae Prifysgol Bangor, ochr yn ochr â'i phrifysgolion partner, Caerdydd, Abertawe a De Cymru, wedi derbyn £3.6M ar gyfer 'Canolfan PRIME Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys'.

Bydd y cyllid gan Ymchwil a Gofal Iechyd Cymru yn cefnogi Canolfan PRIME Cymru i wella iechyd a lles pobl yng Nghymru a’r tu hwnt, drwy gynnal ymchwil o ansawdd uchel i bynciau sydd â blaenoriaeth polisi cenedlaethol mewn gofal sylfaenol, brys a heb ei drefnu.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Mehefin 2015

Why haven’t Madagascar’s famed lemurs been saved yet?

Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Julia P G Jones o’r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2015

Cynhadledd ym Mhrifysgol Bangor ar gyfrol ymfflamychol Caradoc Evans

Cynhelir cynhadledd ym Mhrifysgol Bangor ym mis Gorffennaf ar achlysur canmlwyddiant cyhoeddi cyfrol a roes i’w awdur teitl y “best-hated man in Wales”.  Casgliad o straeon byrion yw My People gan Caradoc Evans; storiau am gymuned ddychmygol yng ngorllewin Cymru wedi eu selio ar bentref genedigol yr awdur yn Rhydlewis, Sir Geredigion.

Yn y gyfrol finiog, ddychanol hon, portreir y gymuned wledig Gymraeg yn un drachwantus, ragrithiol a chreulon; mae ufudd-dod y bobl i gredoau anhbylyg y Capel yn pwysleisio’r gorthrwm emosiynol maent yn dioddef.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2015

Prifysgol Bangor yn cynorthwyo llywodraeth Ynys Manaw i ddeall pysgodfeydd sy'n hanfodol i’r economi

Bydd gwaith syn arwain at well dealltwriaeth o bysgodfeydd pwysig oddi ar Ynys Manaw yn parhau wedi i Lywodraeth yr ynys ail-benodi Prifysgol Bangor i ddarparu cyngor gwyddonol arbenigol i Adran Llywodraeth Amgylchedd, Bwyd ac Amaeth Ynys Manaw (DEFA).

Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2015

Rhannu gwersi project Celf Dementia

Mae gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd ar draws gogledd Cymru yn mynd i ddysgu o brofiadau’r rhai a fydd yn cymryd rhan mewn project mawr ar Ddementia a’r Dychymyg a arweinir gan Brifysgol Bangor, wrth i’r gweithdy cyntaf o’i fath ddigwydd yn y rhanbarth. 

Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2015

Mwy na 300 o fyfyrwyr ôl-raddedig yn gweithio gyda busnesau a mudiadau lleol

Mae mwy na 300 o fyfyrwyr ôl-raddedig wedi cwblhau rhaglen gradd Meistr lwyddiannus, sydd yn cynnwys elfen wedi ei lleoli yn y gweithle, ac yn cwmpasu’r holl bynciau a ddysgir ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r holl raddau ATM: Mynediad i Radd Meistr  hefyd yn gysylltiedig â sectorau blaenoriaeth Llywodraeth Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2015

O Mumbai i Barc Gwyddoniaeth Menai

Mae myfyrwyr rhyngwladol o Brifysgol Bangor, Nebu George, wedi cael ei benodi'n intern archaeoleg Parc Gwyddoniaeth Menai Cyf. Derbyniwyd caniatâd cynllunio amlinellol yn ddiweddar ar gyfer M-SPARC, parc gwyddoniaeth yng Ngaerwen ar Ynys Môn, ac mae'r arolwg archeolegol yn rhan o'r amodau ar gyfer caniatâd cynllunio llawn. 

 

Dyddiad cyhoeddi: 17 Mehefin 2015

As cash becomes quaint, are ATMs on path to obsolescence?

Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Bernardo Batiz-Lazo o’r Ysgol Fusnes sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2015

Grant Loteri Cenedlaethol £1.7 m i warchod bywyd morol sydd o dan fygythiad

Datganiad gan Brifysgol Newcastle- nid yw ar gael yn Gymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mehefin 2015

Zimbabwe ditches its dollar in the end of an economic era

Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Bernardo Batiz-Lazo  o’r Ysgol Fusnes sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mehefin 2015

hAPus i Learn Cymraeg!

Yr wythnos hon bydd ap 'Learn Cymraeg Mynediad' a 'Learn Cymraeg Sylfaen' ar gael i'w lawrlwytho am ddim o'r App Store neu Google Play.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2015

Diwrnod Hwyl y Brenin Arthur

Rydym i gyd yn mwynhau clywed straeon a chwedlau am y Brenin Arthur, boed hynny mewn llyfr neu ar ffilm. Mae Prifysgol Bangor yn cynnig cyfle arbennig i gael llu o brofiadau Arthuraidd trwy gynnal Diwrnod Hwyl y Brenin Arthur. Bydd y Diwrnod yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys adrodd straeon,  ail-greu rhannau o’r chwedlau a gemau.

Cynhelir Diwrnod Hwyl y Brenin Arthur ar ddydd Sadwrn 27 Mehefin ym Mhrif Lyfrgell Prifysgol Bangor ar Ffordd y Coleg rhwng 1pm a 4pm ac mae mynediad am ddim.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2015

MSc newydd ym Mangor yn cynhyrchu trydan a swyddi ym maes ynni môr adnewyddadwy

Mae Ysgol Gwyddorau’r Eigion Prifysgol Bangor wedi datblygu MSc 1 flwyddyn mewn Ynni Môr Adnewyddadwy.

Mae ynni môr adnewyddadwy yn defnyddio grym naturiol y tonau a'r llanw i gynhyrchu trydan.  Mae'n ddiwydiant uwch-dechnoleg gyffrous sy'n tyfu'n gyflym ac sydd â'r potensial o fod yn un o'r diwydiannau uwch-dechnoleg fwyaf y gellir ei hallforio yn economi'r DU. Amcangyfrifir y bydd datblygu morlyn Bae Abertawe'n creu 70,000 o swyddi yn y cyfnod adeiladu'n unig, ac mae yna nifer o fentrau eraill yn y maes yng Nghymru fel parthau arddangos Ystâd y Goron ym Môr Iwerddon, a phroject Deep Green Minesto i'r gorllewin o Ynys Môn, lleoliad Ysgol Gwyddorau'r Eigion.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2015

Teithiau Tywys Casgliadau Celf a Serameg Prifysgol Bangor

Bydd teithiau tywys yn cael eu cynnal gan dywyswr arbenigol o gwmpas Casgliadau Celf a Serameg y Brifysgol rhwng mis Mehefin a Medi. Bwriedir cynnal dwy daith y mis er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r casgliadau pwysig yma. Mae’r uchafbwyntiau yn cynnwys murlun gan Edward Povey yn Neuadd Powis, celf a serameg yng Nghoridor Ystafell y Cyngor a chyfle i weld a dysgu am waith celf gan artistiaid enwog fel Kyffin Williams, Brenda Chamberlain, Peter Prendergast a Frederick William Hayes.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2015

Archif y mis

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2015

Cystadleuaeth Meistri Codi Pwysau Ewrop yn dod i Fangor

Cynhelir cystadleuaeth Codi Pwysau Meistri Ewrop yng Nghanolfan Chwaraeon Prifysgol Bangor, Canolfan Brailsford rhwng 13 - 20 Mehefin, 2015.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2015

Rondo Media yn cyflogi myfyriwr yn dilyn lleoliad â Phrifysgol Bangor

Mae Rondo Media, sydd wedi’i leoli ar Ystâd Ddiwydiannol Cibyn, ar gyrion Caernarfon, wedi cyflogi cyn fyfyriwr o Brifysgol Bangor, Rhys Gwynfor o’r Bala yn dilyn lleoliad â’r cwmni o dan y Rhaglen Mynediad at Radd Meistr (ATM).

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2015

Croesawu “Brenhines” y Wladfa

Derbyniodd Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau Prifysgol Bangor ymwelydd arbennig iawn yn ddiweddar, sef Luned Gonzales, disgynnydd uniongyrchol o'r Cymry ag ymsefydlodd ym Mhatagonia 150 mlynedd yn ôl.  

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2015

Grŵp o Brifysgol Bangor yn dychwelyd o Fynyddoedd Himalaia

Mae academyddion o Brifysgol Bangor wedi dychwelyd yn ddiweddar o daith i Fynyddoedd Himalaia fel rhan o broject ymchwil i salwch cysylltiedig ag uchder.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2015

Y Gweinidog Cymreig dros Addysg a Sgiliau yn ymweld â Phrifysgol Bangor

Heddiw ymwelodd Huw Lewis AC, Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, â Phrifysgol Bangor. Ymwelodd Mr Lewis â Chanolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru, sydd â'i chartref yn yr Ysgol Addysg, a'r Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar yn yr Ysgol Seicoleg.  

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2015

Diwedd llwyddiannus i Broject Adnoddau Pysgodfeydd Cynaliadwy

Daeth project casglu data dros dair blynedd i helpu pysgotwyr Cymru i weithio'n gynaliadwy i ben gyda chyflwyniad ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Mehefin 2015

Bangor yng Nghefnfor India

Mae biolegwyr môr o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor newydd ddychwelyd o daith wyddonol a chadwraeth i Diriogaeth Brydeinig Cefnfor India. Ar hyn o bryd y diriogaeth hon, sydd 7˚ i'r de o'r cyhydedd, islaw'r Maldives, yw Gwarchodfa Fôr fwyaf y byd.  

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2015

Cyn-fyfyriwr Bangor yn dychwelyd i ogledd Cymru fel arbenigwr Antiques Roadshow

Bydd cyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor yn dychwelyd i ogledd Cymru fel arbenigwr ar gyfer y rhaglen boblogaidd BBC Antiques Roadshow yr wythnos hon. Ar ddydd Iau 4 Mehefin, bydd yr Antiques Roadshow yn ymweld â Phlas Newydd, Ynys Môn.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2015

Myfyriwr blwyddyn olaf mewn gwyddorau biofeddygol yn gwneud darganfyddiad pwysig ym maes canser

Mater sydd wedi peri penbleth ym maes bioleg canser ers cryn amser yw sut y gall y rheolydd Cdc2, sy'n rheoli twf celloedd, fod yn weithredol ac anweithredol yr un pryd. Mae celloedd dynol yn rhoi'r gorau i ymrannu pan ddigwydd difrod genetig drwy atal Cdc2 rhag gweithredu, ond mae arnynt angen Cdc2 gweithredol hefyd i gael gwared ar ddiffygion genomaidd.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2015

Lack of female players in football video games is an own goal

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Jonathan Ervine, Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.  

Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2015