Archif Newyddion: Ionawr 2017

DNA yn datgelu newidiadau tymhorol ym mhoblogaeth llyn eiconig yn Eryri

Mae llyn sydd wedi ymddangos ym miloedd o luniau twristiaid o’r Wyddfa hefyd wedi chwarae rhan hanfodol mewn gwella sut y gellir monitro llynnoedd ac afonydd yn y dyfodol.

Llyn Padarn, sy’n gorwedd wrth droed yr Wyddfa, oedd man profi ymchwil a all arwain at fonitro amgylcheddau afonydd a llynnoedd yn fwy effeithiol a chyflym. Mae hyn yn dilyn ymchwil gan Brifysgol Bangor ac eraill, a gyhoeddwyd yn Nature Communications (coi10.1038/ncomms14087).

Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2017

DNA yn datgelu newidiadau tymhorol ym mhoblogaeth llyn eiconig yn Eryri

Mae llyn sydd wedi ymddangos ym miloedd o luniau twristiaid o’r Wyddfa hefyd wedi chwarae rhan hanfodol mewn gwella sut y gellir monitro llynnoedd ac afonydd yn y dyfodol.

Llyn Padarn, sy’n gorwedd wrth droed yr Wyddfa, oedd man profi ymchwil a all arwain at fonitro amgylcheddau afonydd a llynnoedd yn fwy effeithiol a chyflym. Mae hyn yn dilyn ymchwil gan Brifysgol Bangor ac eraill, a gyhoeddwyd yn Nature Communications (coi10.1038/ncomms14087).

Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2017

Wedi ei ganslo: Sgwrs yn rhagflaenu creu’r mynydd iâ mwyaf erioed

Mae'r sgwrs wedi ei ganslo oherwydd amgylchiadau na ellir eu rhagweld.

Wrth i arbenigwyr ym meysydd rhewlifoedd, hinsawdd ac eigioneg ddisgwyl am y foment y rhagwelir y bydd silff iâ Antarctig yn torri ac yn creu un o'r mynyddoedd iâ mwyaf a gofnodwyd – tua chwarter maint Cymru – mae staff a myfyrwyr Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddarlith ar yr union bwnc hwn gan aelod o'r British Antarctic Survey (BAS).

Bydd yr Athro Hilmar Gudmundsson o’r BAS yn trafod “Ocean-induced thinning of Antarctic Ice Shelves and the impact on the ice flow of the Antarctic Ice Sheet” am 6.00 ar Chwefror 2 ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau. Gall y ddarlith hon, sydd wedi ei hanelu at fyfyrwyr ac academyddion y Brifysgol, fod o ddiddordeb i'r cyhoedd hefyd, o ystyried tynged bresennol y silff iâ Larsen C, sydd o fewn 20 cilomedr o dorri’n rhydd.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2017

Ysgol St Gerard's ar Ben y Fainc!

Tîm o Ysgol St Gerard's ym Mangor a enillodd ornest Gogledd Cymru yn y gystadleuaeth Pen y Fainc eleni, a gynhelir gan yr Ysgol Cemeg ym Mhrifysgol Bangor.

Caiff y Gystadleuaeth Genedlaethol i rai 14-16 oed ei rhedeg gan y Gymdeithas Frenhinol Cemeg, a chynhelir gornestau ar hyd a lled y wlad.

Curodd  tîm Ysgol St Gerrard’s naw Tîm arall  i ennill y cyfle i ymweld â'r Adran Cemeg ym Mhrifysgol Loughborough i gymryd rhan yn y rownd derfynol, a gynhelir ar 29 Ebrill 2017.  

Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2017

Arthur – Arweinydd pawb

Mae’r Arthur chwedlonol yn dal i hawlio ein sylw a’n difyrru hyd heddiw, ac mae’n ymddangos fod ei apêl wedi parhau ar hyd y canrifoedd.

Dyna ddysgodd y gynulleidfa yn ystod lansiad diweddar Canolfan Astudiaethau Arthuraidd y brifysgol. Boed yn ddyn o gig a gwaed neu’n chwedl, mae Arthur y brenin neu’r arweinydd, wedi ei defnyddio gan ddiwylliannau ledled Ewrop dros y canrifoedd a fu, ac wedi cyflawni sawl swyddogaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Ionawr 2017

SCAC yn cynorthwyo’r Undeb Ewropeaidd i weithredu y Ddeddf Busnesau Bach yn dilyn llwyddiant grant enfawr

Mae Sefydliad Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffael (SCAC) Ysgol y Gyfraith Bangor wedi cael gwybod yn ddiweddar ei bod wedi llwyddo i gael grant enfawr dan gronfa COSME yr Undeb Ewropeaidd.  Cronfa yw hon i godi’r awydd i gystadlu ymysg mentrau busnes bach a chanolig yn yr Undeb Ewropeaidd, ac i gynorthwyo’r UE i weithredu anghenion y Ddeddf Busnesau Bach (mae hwn yn fframwaith ar gyfer polisi’r UE i fusnesau bach a chanolig).

Dyddiad cyhoeddi: 27 Ionawr 2017

Canfod ffyrdd newydd o fyw gyda dementia

As the Welsh Government seeks views on its recently launched dementia strategy, Bangor University is bringing together people living with dementia, and organisations who are also working on dementia related support and research projects to share best practice in north Wales.

Living with dementia in North Wales – we’re in it together, a Conference at the University on 27 January, will hear the experiences of people living with dementia, as well as those of a number of organisations providing dementia supportive programmes and conducting dementia-related research.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Ionawr 2017

Technoleg Gymraeg yn Hwb i’r Economi

Gall technolegau arloesol Cymraeg fod yn hwb i economi gogledd Cymru – dyna oedd un o brif negeseuon Cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg. Roedd y gynhadledd, a gynhaliwyd  yn ddiweddar (20 Ionawr) yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2017

Darlith gyhoeddus yn canolbwyntio ar Gymru'r oesoedd canol cynnar

Mae hunaniaeth yn destun dadleuol yn y gymdeithas sydd ohoni ac yr un modd mae'n destun dadlau brwd rhwng archeolegwyr yr oesoedd canol cynnar. Dyna fydd pwnc darlith gyhoeddus a roddir gan yr hanesydd blaenllaw, Yr Athro Nancy Edwards, ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mawrth, 31 Ionawr am 6.30pm, yn Narlithfa Eric Sunderland ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau. Teitl y ddarlith yw 'Early medieval Wales: material evidence and identity', ac mae croeso i bawb ddod iddi. 

Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2017

ICC expands definition of war crimes to cover combatants in the same armed forces

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Yvonne McDermot  o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2017

Premiere Cymru o gampwaith corfforol, arloesol a ffraeth Barely Methodical Troupe

Yn dilyn gwerthu pob tocyn mewn perfformiadau yng ngŵyl Fringe Caeredin yn 2014 ac yn yr International Mime Festival a'r Udderbelly Festival yn y Southbank Centre yn Llundain yn 2015, mae dynion y Barely Methodical Troupe yn dod â'u sioe arobryn Bromance i Pontio, Bangor a hwn fydd eu perfformiad cyntaf yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2017

Cydweithio i ddatblygu a gweithredu Rhaglen Nyrs Gyswllt newydd i Atal Heintiau

Sefydlwyd project newydd ar y cyd rhwng Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddatblygu rhaglen newydd i hyrwyddo arfer gorau mewn atal heintiau. 

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2017

Arweiniad economeg iechyd newydd ar gyfer ymarferwyr iechyd cyhoeddus

Mae Dr Joanna Charles a'r Athro Rhiannon Tudor Edwards o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau yng Ngholeg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad y Brifysgol wedi llunio llawlyfr electronig newydd o'r enw “Arweiniad i economeg iechyd i bobl sy’n gweithio ym maes iechyd cyhoeddus: llawlyfr pen desg cryno”. Mae'r Ganolfan yn rhan o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd y brifysgol ac yn cyfrannu i Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor, sy'n dod ag ymchwil iechyd ar draws y brifysgol at ei gilydd.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Ionawr 2017

Child victim or brutal warlord? ICC weighs the fate of Dominic Ongwen

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Yvonne McDermott  o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 12 Ionawr 2017

Dyblu cynhyrchu pysgod a chadw bioamrywiaeth - a ellir ei wneud?

Gall consortiwm newydd i sefydlu Canolfan Datblygu Dyframaeth Genedlaethol yn Tanzania, syd yn cynnwyd Profysgol Bangor, helpu i ymdrin â thlodi a diffyg maeth

Mae gan Tanzania, sydd efallai yn fwyaf adnabyddus am y saffarïau ar hyd y gwastadeddau maith ac agored, gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer bywyd gwyllt dŵr croyw bach iawn sydd â photensial enfawr heb ei gyffwrdd.

 Mae'r tilapia, sef y pysgodyn a ffermir fwyaf drwy'r byd ar wahân i'r carp, yn byw mewn niferoedd mawr yn y Llynnoedd Mawr (Victoria, Tanganyika, Malawi/Nyasa) sy'n gorchuddio chwech y cant o'r wlad. Ystyrir y llynnoedd yn fannau pwysig o ran bioamrywiaeth fyd-eang, maent yn un o ddim ond 25 drwy'r byd, oherwydd y cannoedd o rywogaethau'r pysgod ciclidiaid, yn cynnwys rhywfaint o'r 30 o isrywogaethau tilapia sydd yn Tanzania.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2017

Bangor yn y 4% uchaf o Brifysgolion Gwyrddaf y Byd

Mae ymrwymiad Prifysgol Bangor i gynaliadwyedd wedi ennill safle uchel i'r brifysgol unwaith eto mewn tabl cynghrair rhyngwladol o sefydliadau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.  Yng nghynghrair diweddaraf UI Green Metric mae Prifysgol Bangor wedi symud ddeuddeg safle yn uwch i safle 16, sy’n ein gosod yn y 4% uchaf o’r prifysgolion sy’n cymryd rhan.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2017

Combining daycare for children and elders benefits all generations

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Catrin Hedd Jones  o’r Ysgol Gwyddorau Iechyd sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Ionawr 2017

Gall ymdrechion gan gwmnïau mawr i ddiogelu bioamrywiaeth helpu neu niweidio pobl leol?

Pan fydd datblygiad diwydiannol mawr, fel mwyngloddiau, yn mynd i gael effaith anochel ar fioamrywiaeth, gall y cwmni fuddsoddi mewn diogelu (neu hyd yn oed creu) cynefin yn rhywle arall i wneud iawn. Gelwir hyn yn gwrthbwyso bioamrywiaeth ac mae'n syniad sy'n ennill cefnogaeth gynyddol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Ionawr 2017

Achrediad safon aur i archifau’r Brifysgol

An accreditation accepted as the ‘gold standard’ in archive management has been awarded to Bangor University’s Archives and Special Collections. The University Archive was among 11 new applicants to achieve The National Archives Archive Accreditation, to become one of the 62 accredited archives in the UK.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ionawr 2017

Prifysgol Bangor yn dyfarnu tair ysgoloriaeth "Merched mewn Gwyddoniaeth"

Mae Prifysgol Bangor wedi dyfarnu ysgoloriaeth "Merched mewn Gwyddoniaeth" i dair myfyrwraig ragorol. Emily Louise Dunn, Emily O’Regan a Kathryn Howard. Roedd y tair yn israddedigion ym Mangor ac enillodd y tair radd anrhydedd dosbarth cyntaf ym mis Gorffennaf 2016. Mae'r ysgoloriaethau, sy'n cynnwys cost lawn y cwrs, yn galluogi'r myfyrwyr dawnus a brwdfrydig hyn i barhau â'u hastudiaethau ac maent yn awr wedi cofrestru ar gyrsiau ymchwil ôl-radd ym Mangor.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ionawr 2017