Archif Newyddion: Mai 2017

Cyfres o deithiau tywys o gasgliadau celf a serameg Prifysgol Bangor

Bydd teithiau tywys yn cael eu cynnal o gwmpas Casgliadau Celf a Serameg Prifysgol Bangor rhwng Mehefin a Medi. Y bwriad ydi codi ymwybyddiaeth o’r casgliadau pwysig yma, gyda’r uchafbwyntiau yn cynnwys murlun gan Edward Povey yn Neuadd Powis, celf a serameg yng Nghoridor Ystafell Cyngor y Brifysgol a chyfle i weld a dysgu am waith celf gan artistiaid enwog fel Kyffin Williams, Brenda Chamberlain, Peter Prendergast a Frederick William Hayes.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2017

Cyn-fyfyriwr entrepreneuraidd yn cyrraedd rownd cynderfynol rhanbarthol Santander

Mae cyn-fyfyriwr doethuriaeth ac entrepreneur o Brifysgol Bangor wedi cyrraedd rownd gynderfynol ranbarthol Gwobrau Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander 2017.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2017

Darganfod micro-organebau eithafol newydd mewn llyn soda yn Siberia

Yr Athro Peter Golyshin o'r Ysgol Gwyddorau Biolegol, ac arbenigwr mewn genomeg amgylcheddol micro-organebau yw'r unig awdur o'r DU a chyfranogwr ymchwil sydd wedi darganfod dosbarth newydd o ficro-organebau (archaea) sy'n byw mewn amgylchedd eithafol yn llyn soda alcalïaidd yn Siberia. Mae'r darganfyddiad hwn yn torri tir newydd oherwydd gall y micro-organebau hyn drawsnewid deunydd organig yn uniongyrchol i fethan o dan amodau eithafol o'r fath.

Cyhoeddir y papur heddiw (26.5.17) yn Nature Microbiology.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2017

Happy 100th birthday, Mr President: how JFK's image and legacy have endured

Dyma erthygl yn Saesneg gan Gregory Frame o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2017

Pedwar yn cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn!

Testun llawenydd mawr oedd clywed fod Hugh, Emma, Richard a Daniela, a fynychodd gyrsiau Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor, wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Môn eleni.  Mae Emma hefyd yn gweithio yn y Brifysgol yn Y Ganolfan Rheolaeth.

 

Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2017

Ymchwil newydd yn archwilio effaith gamblo ar iechyd cyhoeddus yng Nghymru

Mae gamblo problemus yn fater iechyd cyhoeddus cudd yng nghymunedau Cymru. Gall arwain at effeithiau negyddol difrifol nid yn unig ar yr unigolyn,  ond hefyd ar deuluoedd, cyfeillion a pherthnasau cymdeithasol eraill.

Bydd yr Athro Robert Rogers o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, sy’n arbenigwr ym maes gamblo problematig, yn arwain tîm  o ymchwilwyr ac yn gweithio gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru i lunio adroddiad sydd yn darparu gwybodaeth fanylach am ystod a natur y broblem yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2017

Dylunwyr blaenllaw yn cymryd rhan yng Nghynhadledd Dylunio Cynnyrch Bangor

Bydd Cynhadledd Dylunio Cynnyrch arloesol ar 7 Mehefin, yn tynnu ynghyd ym Mhrifysgol Bangor rai o'r arweinwyr a'r meddylwyr gorau ym maes Dylunio a Chynhyrchu.

Un o'r rhai a fydd yn siarad yn y Gynhadledd, sydd yn cael ei threfnu gan yr Ysgol Addysg, yw’r peiriannydd dylunio cynnyrch, Jude Pullen, sydd wedi ennill gwobrau am ei waith ac yn adnabyddus am fod yn rhan o gyfres y BBC 'The Big Life Fix'.  Siaradwr arall fydd Fred Manson o gwmni rhyngwladol Thomas Hetherwicks. Yn rhannu eu profiadau yn y gynhadledd, y drydedd i’w chynnal yn y Brifysgol, fydd Ed Beardsley a Hugh Smith, sydd wedi graddio mewn dylunio o Brifysgol Bangor ac sy'n gweithio bellach yn y diwydiant.  Daw'r gynhadledd i ben gydag agoriad swyddogol y Sioe Raddio, a fydd yn dangos gwaith myfyrwyr dylunio presennol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2017

Disgyblion yn cael eu difyrru mewn Gŵyl Cemeg ymarferol

Cemegwyr ifanc o ysgol uwchradd Bishop Heber yn swydd Gaer enillodd y wobr gyntaf yn y  Salters' Festival of Chemistry, a gynhaliwyd yn Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2017

Teaching students to survive a zombie apocalypse with psychology

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro John Parkinson a Rebecca Sharp o’r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2017

Eglwysi i sefydlu projectau dementia-gyfeillgar newydd ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru

Mae pum grŵp o eglwysi ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru wedi derbyn cyllid i ddatblygu projectau cymunedol dementia-gyfeillgar ac i weithio tuag at ddod yn "ddementia-gyfeillgar".

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mai 2017

Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn dod yn 'Ffrindiau Dementia' cyn yr Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia

Ddydd Llun 8 Mai 2017 rhoddodd Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor wahoddiad i Theresa Davies i gyflwyno sesiwn Ffrindiau Dementia i ddosbarth o nyrsys yn Wrecsam. 

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2017

Bangor i gynnal noson wobrwyo cystadleuaeth ffuglen ddigidol 'boblogaidd' gyntaf y DU

Bydd y gystadleuaeth gyntaf yn y DU i ddarganfod yr enghreifftiau gorau o ffuglen ddigidol boblogaidd newydd yn gwobrwyo ei henillwyr nos Iau, 25 Mai ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2017

Anrhydeddu cyn fyfyriwr Prifysgol Bangor gyda gwobr ddaearyddol

Mae’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol wedi dyfarnu Medal Frenhinol i gyn fyfyriwr Prifysgol Bangor am ei waith ym maes datblygu amaethyddol.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2017

Myfyrwyr Bangor yn Cyhoeddi Llyfrau Newydd

Mae'n bleser gan Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor gyhoeddi dyddiad cyhoeddi dau ddetholiad, Blue Pencils a SCSM’s Media Medley. Mae pedwar myfyriwr yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd ers pedwar mis i gynhyrchu a chyhoeddi detholiad o weithiau ffuglen byr, gwreiddiol. 

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2017

Taith wyddonol 'Urgency' i asesu marwolaeth riffiau cwrel a achoswyd gan yr hinsawdd

Mae tîm o wyddonwyr dan arweiniad athro ym Mhrifysgol Bangor newydd ddychwelyd o daith wyddonol i Chagos, yr archipelago anghysbell lle nad oes fawr neb yn byw, yn Nhiriogaeth Brydeinig Cefnfor India.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2017

BAFTA Cymru a Pontio yn cyflwyno rhagddangosiad arbennig o King Arthur: Legend of the Sword

Mae’n bleser gan BAFTA Cymru a Chanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Bangor gyhoeddi rhagddangosiad arbennig o’r ffilm hir-ddisgwyliedig KING ARTHUR: LEGEND ON THE SWORD yn Sinema Pontio Nos Sul, 14 Mai am 8pm.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2017

Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2017

Cynhaliwyd y chweched seremoni Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr blynyddol yn ddiweddar. Roedd y noson i ddathlu’r safon uchel o addysgu a chymorth a geir ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2017

Aelod Cyswllt o’r Canolfan Colclough wedi ei gwahodd i ddathlu gyrfa awdur poblogaidd

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mai 2017

'Hei Pync, Sortia dy Jync' – ymgyrch ddiwedd tymor i waredu gwastraff

Mae Prifysgol Bangor ac Undeb y Myfyrwyr yn gweithio mewn partneriaeth dros wythnosau olaf y tymor â Chyngor Gwynedd er mwyn lleihau sbwriel ar y strydoedd yn y rhannau hynny o’r ddinas ble mae myfyrwyr yn byw gyda'r ymgyrch 'Hei Pync, Sortia dy Jync'.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2017

Swydd Athro newydd yn ymgorffori’r gweithio ar y cyd sydd rhwng Prifysgol a Bwrdd Iechyd

Mae Debbie Roberts yn teimlo ei bod mewn sefyllfa dda i gael effaith ar addysg nyrsio, ac i ddylanwadu ar ofal cleifion, wedi iddi dderbyn Cadair Astudiaethau Nyrsio Sylfaenol (Foundation of Nursing Studies/ FoNS) mewn Dysgu Practis (Practice Learning), yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor.

Cefnogir apwyntiad Debbie Roberts i’r swydd unigryw, sydd yn pontio practis clinigol a dysgu, gan y Foundation of Nursing Studies (FoNS). Yn rhinwedd ei phenodiad, mae’r Athro Roberts yn gallu gweithio â myfyrwyr Prifysgol Bangor a chyda nyrsys cymwysedig a phobl broffesiynol eraill o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ei nod yw ehangu a datblygu awyrgylch ddysgu ar gyfer myfyrwyr nyrsio yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor ac i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus o fewn y GIG ar draws gogledd Cymru

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2017

Catherine yn derbyn gwobr Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn

Mae Arweinwyr Cyfoed Prifysgol Bangor wedi cael eu llongyfarch a diolchwyd iddynt am y gwaith allweddol y maent wedi ei wneud yn cefnogi eu cyd-fyfyrwyr.

Gan Brifysgol Bangor y mae un o’r Cynlluniau Arweinwyr Cyfoed hynaf a mwyaf ymysg prifysgolion Prydain. Mae'r 'Arweinwyr Cyfoed' hyfforddedig yn chwarae rhan allweddol mewn cynorthwyo myfyrwyr newydd i ddod i ddygymod â bywyd prifysgol. Maent yn eu helpu gyda materion ymarferol megis symud i mewn a chanfod eu ffordd o amgylch y brifysgol,  yn ogystal â’u cynorthwyo i ymaddasu i fywyd prifysgol a'u cyfeirio at wybodaeth a chefnogaeth bellach pan fo'r angen.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2017

Can environmental documentaries make waves?

Dyma erthygl yn Saesneg gan Michela Cortese o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Mai 2017

Mae gwledydd cyfoethog yn cyfrannu llai tuag at warchod bywyd gwyllt na gweddill y byd

Mae rhai gwledydd yn fwy ymrwymedig i gadwraeth nag eraill, yn ôl project ymchwil cydweithredol newydd gyda Phrifysgol Bangor

Mewn partneriaeth â Panthera, yr unig sefydliad sy'n ymroddedig i warchod cathod gwyllt, mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi asesu pa mor fawr neu fach yw cyfraniad gwledydd unigol at warchod bywyd gwyllt y byd. O’i gymharu â'r byd datblygedig, mwy cefnog mae bioamrywiaeth yn flaenoriaeth uwch mewn rhanbarthau tlotach megis Affrica, ac mae eu gwledydd yn cyfrannu mwy at gadwraeth nag unrhyw ranbarth arall.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Mai 2017

Anrhydeddu cyfraniadau oes

(Diweddarwyd 5/5 gweler y diwedd) Bydd unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau oes i’r celfyddydau, y gwyddorau a byd busnes, mewn meysydd mor amrywiol â barddoniaeth, llongau rhyngwladol a sŵoleg, yn ymuno â myfyrwyr sy’n graddio o Brifysgol Bangor er mwyn derbyn anrhydedd am eu gwaith.

Bydd deuddeg o bobl, a restrir isod, yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn ystod Seremonïau Graddio’r Brifysgol rhwng 17-21 Gorffennaf i gydnabod y cyfraniad nodedig yn eu meysydd gwaith penodol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mai 2017

Is talking to yourself a sign of mental illness? An expert delivers her verdict

Dyma erthygl yn Saesneg gan Paloma Mari-Beffa  o’r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2017