Archif Newyddion: Chwefror 2018

Galw am setliad cyflym drwy drafodaeth i anghydfod pensiwn yr USS

Mae'r anghydfod cenedlaethol presennol yn deillio o newidiadau a gynlluniwyd i'r cynllun pensiwn cenedlaethol ar gyfer staff prifysgolion, a bydd y cynigion hynny yn effeithio ar nifer o staff Prifysgol Bangor.

Mae Prifysgol Bangor wedi datgan ei bod yn awyddus i weld setliad cyflym trwy drafodaeth i'r anghydfod hwn.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2018

Ysgol St Gerard's yn dod i’r brig!

Tîm o Ysgol St Gerard's ym Mangor a enillodd ornest gogledd Cymru yn y gystadleuaeth “Top of the Bench” eleni, a drefnwyd gan yr Ysgol Cemeg ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2018

Baner y Brifysgol

Codwyd Baner y Brifysgol er cof am Kevin Larkin, myfyriwr yn yr Ysgol Seicoleg.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2018

Hummit, ap newydd gan fyfyriwr o Prifysgol Bangor

Rydym i gyd wedi teimlo’n rhwystredig ar adegau wrth fethu â rhoi enw i gân neu alaw sy’n chwarae yn ein pennau. Wel, mae Joey Elliott, sy’n  22 oed ac yn dod o Groesoswallt, wedi datblygu ‘ap’ i ddatrys eich penbleth! Mae’r ap a ddatblygwyd ganddo yn eich galluogi i  ddarganfod enw alaw sy’n troi yn eich pen, megis enw rhyw gân fachog a glywsoch ar y radio,  a chithau wedyn yn methu’n lân a chofio beth oedd ei henw neu pwy oedd yn ei chanu. Creodd Joey’r Ap ar ôl profi hyn ei hun, ac mae’n gobeithio datrys y broblem i eraill.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2018

Bwrsariaethau cenedlaethol am dalent beirianyddol i fyfyrwyr Bangor

Mae tair myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi derbyn Bwrsari Peirianneg Gorwelion (Horizons Bursaries) gan yr Institution of Engineering and Technology (IET). Dyfernir y bwrsariaethau i fyfyrwyr sydd yn frwd dros beirianneg ac yn astudio cwrs gradd mewn peirianneg neu dechnoleg sydd wedi’i achredu gan yr IET.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Chwefror 2018

Gwylio mwy o natur, gwylio llai o'r sgrin!

A allech chi roi eich dyfeisiau o'r neilltu a mwynhau natur?

Dyma'r cwestiwn y gofynnodd Labordy Cynaliadwyedd a Gardd Fotaneg Prifysgol Bangor i fyfyrwyr, staff a'r gymuned leol yr wythnos diwethaf fel rhan o ddathliad cenedlaethol prifysgolion y DU o'r Wythnos Mynd yn Wyrdd.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Chwefror 2018

Mae gwybod sut a ble i edrych yn lleihau'r risgiau wrth yrru

Gallai hyfforddi gyrwyr ifanc a newydd i sylwi ar gyrion eu maes golwg leihau nifer y damweiniau ar y ffyrdd. Damweiniau traffig y ffordd yw un o'r prif bethau sy'n achosi marwolaethau yn fyd-eang a gyrwyr newydd, ifanc sydd fwyaf tebygol o fod mewn damweiniau o'r fath.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Chwefror 2018

Martial arts can improve your attention span and alertness long term – new study

Dyma erthygl yn Saesneg gan Ashleigh Johnstone, myfyrwraig PhD o’r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Chwefror 2018

Darganfod ffyrdd newydd o adnabod a thrin canserau mwyaf heriol yr ymennydd

Mae project ymchwil cydweithredol mawr ar draws Ewrop yn defnyddio technoleg newydd i fynd i’r afael â dau o ganserau mwyaf ymosodol yr ymennydd.

Mae’r project ymchwil yn cyfuno arbenigedd biolegwyr a pheirianwyr electronig blaenllaw er mwyn datblygu dyfeisiau microtechnoleg arloesol fydd yn y pen draw yn gallu adnabod a thrin bôn-gelloedd canser Glioblastoma multiforme a Medulloblastoma.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2018

Tesni Evans yn cyflawni camp ryfeddol drwy ennill y National Championships

Cyflawnodd Tesni Evans, deiliad un o fwrsariaethau Athletwyr Lleol Prifysgol Bangor, gamp ryfeddol ddydd Sul (18 Chwefror) pan enillodd y ferch o’r Rhyl gystadleuaeth sboncen y National Championships ym Manceinion. Tesni yw’r ferch gyntaf o Gymru i lwyddo yn y fath fodd, ffaith sy’n cadarnhau ei safle fel y Gymraes fwyaf llwyddiannus yn y gamp.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2018

Mae pobl Cymru am weld rhagor yn cael ei wneud i atal salwch a gwella eu hiechyd - hyd yn oed os yw'n golygu gwario llai ar ofal iechyd

Mae 53 y cant o bobl yng Nghymru yn cytuno y dylai mwy o arian gael ei wario ar atal salwch a llai ar ei drin. Dim ond 15 y cant a anghytunodd.

Canfu arolwg Cadw'n Iach yng Nghymrua gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor, fod gan y cyhoedd yng Nghymru yn gryf o blaid rhagor o reoleiddio ac ymyrryd iechyd cyhoeddus.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2018

Starfish can see in the dark (among other amazing abilities)

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Coleen Suckling o’r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2018

Baner y Brifysgol

Mae Baner y Brifysgol yn chwifio fel teyrnged i Mr Martin Davies, aelod o staff yn yr Adran Gwasanaethau Eiddo a Champws.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwefror 2018

Positive psychology helps brain injury survivors recover with a better outlook on life

In the UK alone, nearly 350,000 people are admitted to hospital each year with an acquired brain injury, caused by anything from road traffic accidents, falls, and assaults, to vascular disorders such as strokes. And this number is growing.

This article by was Leanne Rowlands, PhD researcher in Neuropsychology, at the School of Psychology was originally published on The Conversation. Read the original article.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwefror 2018

Bangor yn dathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd

Ar 24 Chwefror bydd Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn dod â digwyddiad blynyddol y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn ôl i Fangor, gyda gorymdaith liwgar y ddraig a Gala Tsieineaidd i ddathlu 2018, Blwyddyn y Ci.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2018

UK criminal justice is at breaking point after years of unstable leadership

Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephen Clear  o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2018

Baner y Brifysgol

Mae Baner y Brifysgol yn chwifio fel teyrnged i Dr Robert Jones, cyn aelod o staff yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol (Sŵoleg).

Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2018

Gŵyl Cymru-Tsieina i gael ei chynnal yn Pontio, Bangor

Bydd Gŵyl newydd wedi ei chynhyrchu a’i churadu gan Gwmni Theatr Invertigo a Pontio yn cael ei chynnal yn ystod penwythnos dathliadau blwyddyn newydd Tsieina (16-18 Chwefror 2018), a bydd yn archwilio’r cysylltiadau creadigol rhwng Cymru a Tsieina.

Bydd perfformiadau eclectig, digwyddiadau, ffilmiau, bwydlen arbennig Tsieinïaidd ym mwyty Gorad a gweithgareddau addas i’r teulu yn arddangos diwylliannau, ieithoedd a chelf y ddwy wlad. Y cyntaf o’i bath; bydd yr ŵyl amlieithog hon yn cynnig llwyfan i straeon newydd ac yn galluogi cydweithio rhwng cerddorion, dramodwyr ac artistiaid Cymraeg a Tsieineaidd.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2018

Hen Blant Bach ar restr fer gwobrau rhyngwladol Ffilm a Theledu

Mae rhaglen y bu cyfraniad y Brifysgol yn rhan annatod ohoni wedi derbyn clod rhyngwladol wrth gyrraedd rownd derfynol Gŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2018.

Mae Hen Blant Bach, sy’n gynhyrchiad gan gwmni Darlun, wedi’i henwebu yng nghategori Portreadau Cymunedol. Roedd y gyfres yn fformat ffeithiol newydd gan S4C a oedd yn olrhain arbrawf cymdeithasol unigryw. Yn y rhaglen, ddaeth pobl mewn oed ynghyd â phlant meithrin i rannu eu gofal dydd, gan ddangos yr effeithiau trawsnewidiol sy'n bosib o’u dod at ei gilydd.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2018

Darlithydd Ysgrifennu Creadigol ar restr hir gwobr o fri

Mae Lisa Blower, darlithydd Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol Llenyddiaeth Saesneg Prifysgol Bangor yn un o ddeg sydd wedi cyrraedd rhestr hir Gwobr stori fer y Sunday Times EFG ar gyfer 2018.

Mae’r Wobr ryngwladol yn hybu ac yn dathlu rhagoriaeth y stori fer fodern ac yn denu ceisiadau o blith ysgrifenwyr gorau’r byd. Y Wobr o £30,000 yw’r un fwyaf hael ar gyfer stori fer yn yr iaith Saesneg.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2018

Penodi Cadeirydd y Cyngor

Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi mai Marian Wyn Jones sydd wedi ei phenodi yn Gadeirydd newydd ei chorff llywodraethu, Y Cyngor.

Hi yw'r ferch gyntaf i gadeirio'r Cyngor ers sefydlu'r brifysgol yn 1884, ac mae'n olynu'r Arglwydd Elis-Thomas a roddodd y gorau i'r swydd y llynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Chwefror 2018

Adolygu adnoddau bioynni ar gyfer adeiladu a defnyddiau eraill ar wahân i ynni

Bangor University’s BioComposites Centre (BC) has been selected to lead a consortium to deliver a review on ‘The potential for using bioenergy resources for construction and other non-energy uses’ for the Committee on Climate Change (CCC), a non-governmental advisory body. This review will feed into the updated Bioenergy Review 2018, which will be published by the CCC in the autumn.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Chwefror 2018

Gwaith myfyriwr i gyfrannu at herio sepsis

Mae cyfraddau sepsis ar gynnydd. Gall y cymhlethdod prin ond difrifol hwn, a all ddigwydd o ganlyniad i haint, fygwth bywydau.

Gobaith un myfyriwr cemeg yw y bydd ei gwaith ymchwil yn cyfrannu at y frwydr yn erbyn yr haint hon.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Chwefror 2018

Dim ond awr o ryngweithio cymdeithasol bob wythnos yn gwella gofal dementia

Mae cael dim ond awr yr wythnos yn ychwanegol o ryngweithio cymdeithasol i bobl gyda dementia sy'n byw mewn cartrefi gofal yn gwella ansawdd bywyd, pan gyfunir hynny â gofal personol. 

Cyfrannodd Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor at arbrawf ar lefel eang a arweiniwyd gan Brifysgol Exeter, King’s College, Llundain a'r Oxford Health NHS Foundation Trust. Daeth i'r amlwg bod y dull gweithredu hwn hefyd yn arbed arian.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2018

Five ingenious ways snakes manipulate their bodies to hunt and survive

Dyma erthygl yn Saesneg gan Tom Major myfyriwr PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2018

Myfyrwyr sy'n wirfoddolwyr yn helpu i godi calonnau cleifion iechyd meddwl

Mae unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl cymhleth yn cael eu cefnogi yn ystod eu hadferiad diolch i ymdrechion grŵp ymroddgar o fyfyrwyr sy'n gwirfoddoli.

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae myfyrwyr caredig wedi rhoi o'u hamser i gynnal grwpiau therapiwteg amrywiol i gleifion yn Uned Iechyd Meddwl Hergest yn Ysbyty Gwynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2018

‘Coroni’r Wythnos’

Daeth llwyddiant ysgubol i ran yr opera Wythnos yng Nghymru Fydd (Gareth Glyn a Mererid Hopwood) a chynhyrchiad arbennig OPRA Cymru ohoni yn seremoni Gwobrau Theatr Cymru (2018) a gynhaliwyd yng Nghasnewydd  yn ddiweddar ( 27.1.18). Yn dilyn taith lwyddiannus led led y wlad ym mis Tachwedd y llynedd a chydnabyddiaeth ragorol drwy gyfrwng theatrau llawn ac adolygiadau clodwiw yn y wasg, dyfarnwyd gwobr ‘Y Cynhyrchiad Gorau yn yr iaith Gymraeg’ (2018) i’r cwmni fu mor ddyfal a chydwybodol yn sicrhau fod y fenter arloesol hon yn cyrraedd cynulleidfaoedd y genedl.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Chwefror 2018

DNA yn canfod anifeiliaid afon y funud hon

Mae ymchwil newydd yn profi bod DNA amgylcheddol yn goroesi am lai na deuddydd mewn afonydd bach, chwim, ac felly mae'n darparu gwybodaeth leol a chyfredol iawn ar gyfansoddiad rhywogaethau.  Mae hon yn dystiolaeth newydd hollbwysig wrth i fiolegwyr droi fwyfwy at dechnegau samplo DNA newydd i asesu iechyd ecosystem dwr.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Chwefror 2018

Prifysgol Bangor yn cefnogi ailgyflwyno’r afanc ar gyfer Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd 2018

Wrth nodi Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd (2.2.18), mae Prifysgol Bangor wedi gosod ei chefnogaeth tu cefn i’r broses o ailgyflwyno’r afanc yng Nghymru.

Mae gwyddonwyr y Brifysgol yn galw am gefnogaeth ychwanegol ar gyfer Prosiect Afancod Cymru, sy’n ceisio ailgyflwyno’r anifail eiconig yn y wlad. Ar hyn o bryd, mae’r fenter, sy’n cael ei harwain gan Ymddiriedolaethau Natur Cymru, yn edrych ar safleoedd posib ar gyfer rhyddhau’r afancod. Bydd yr anifeiliaid yn cael eu monitro er mwyn ceisio gweld a fyddai ailgyflwyno ar raddfa eang yn bosib.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Chwefror 2018

Dwylo’n dweud

Yn dilyn cynhadledd flynyddol Clust i wrando … (2017) a gynhaliwyd yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, ym mis Mehefin y llynedd ac ar sail awgrymiadau’r cynadleddwyr, sefydlwyd cynllun i gyflwyno dull arwyddo’r byddar (British Sign Language) i holl blant Cylchoedd Meithrin Cymru (Y Mudiad Meithrin). Hwn yw’r cynllun cyntaf o’i fath yn y Gymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2018