Archif Newyddion: Mehefin 2019

Baner yr Enfys yn hedfan ar Brifysgol Bangor heddiw!

Mae Prifysgol Bangor yn croesawu myfyrwyr a staff o bob cefndir, tarddiad, cred a chyfeiriadedd rhywiol. Ac rydym yn falch o hynny!

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2019

Cefnogaeth Arbenigol i Dîm Ynys Môn ar gyfer Gemau’r Ynysoedd!

Gyda bwrlwm Gemau'r Ynysoedd yn dod i ogledd Cymru pan fydd gemau Ynys Gibraltar 2019 yn dechrau ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf, mae'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor wedi ymuno â Chymdeithas Gemau'r Ynysoedd Ynys Môn i roi cefnogaeth arbenigol i athletwyr y Gemau wrth iddynt ymgeisio am lwyddiant yn y gemau.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2019

Coedwigwyr Bangor yn San Steffan

Cafodd pump o goedwigwyr o Brifysgol Bangor y fraint o gael eu gwahodd i ymuno â myfyrwyr eraill, gweithwyr coedwigaeth, Aelodau Seneddol a chynrychiolwyr ac arbenigwyr o'r diwydiant coedwigaeth i nodi  lansiad cenedlaethol Confor Cystadleuaeth #TheFutureIsForestry yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2019

Gwobrau BPS i fyfyrwyr PhD Seicoleg

Mae dwy fyfyrwraig ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg wedi ennill gwobrau a drefnwyd gan y BPS Division of Academics, Researchers and Teachers in Psychology (DART-P) ar y cyd â PsyPAG.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mehefin 2019

Prifysgol Bangor yn ymuno â sefydliadau sy’n datgan argyfwng hinsawdd

Mae Prifysgol Bangor wedi ymuno â'r nifer o sefydliadau ledled y byd sydd wedi datgan argyfwng hinsawdd, a galw am weithredu brys er mwyn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Mae'r Brifysgol, sy'n wythfed yn y byd am ei hymrwymiad i gynaliadwyedd yn ôl tabl cynghrair rhyngwladol o sefydliadau amgylcheddol-gyfeillgar (UI Green Metric), yn galw ar Lywodraethau ledled y byd i ymateb yn gyflym i'r argyfwng hinsawdd byd-eang.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2019

Cyhoeddi Cymrodyr er Anrhydedd newydd Prifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi'r Cymrodoriaethau er Anrhydedd a fydd yn cael eu dyfarnu yn ystod Seremonïau Graddio'r Brifysgol eleni. Cyflwynir y Cymrodoriaethau er Anrhydedd fel rhan o’r seremonïau yn ystod wythnos 15-19 Gorffennaf 2019.

Mae Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn galluogi'r Brifysgol i wobrwyo unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol yn eu dewis faes. Dewisir Cymrodyr er Anrhydedd o blith unigolion sy'n gweithio yng Nghymru neu sydd â chysylltiad â'r Brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2019

Golwg o’r newydd ar ryfeddodau pob dydd wrth i’r celfyddydau a gwyddoniaeth ddod at ei gilydd yn Pontio

Bydd cynllun arloesol Synthesis, sydd wedi ei arwain gan Pontio ac sy’n dod a’r celfyddydau a gwyddoniaeth ynghyd, yn cynnal diwrnod darganfod hwyliog i’r cyhoedd yn y ganolfan dydd Sadwrn nesaf 22 Mehefin rhwng 2-6pm.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2019

Prifysgol Bangor yn cynnal digwyddiad llwyddiannus i gyn-fyfyrwyr ym mhedwaredd Gyngres Coedamaeth y Byd ym Montpellier, Ffrainc

Ddydd Llun 20 Mai 2019, gyda chefnogaeth y Ganolfan Addysg Ryngwladol, cynhaliwyd digwyddiad ym mhedwaredd Gyngres Coedamaeth y Byd ym Montpellier, Ffrainc gan staff yr Ysgol Gwyddorau Naturiol. Mae gan Brifysgol Bangor nifer fawr o fyfyrwyr rhyngwladol a bydd yn gwneud pob ymdrech i gadw mewn cysylltiad â chyn-fyfyrwyr ble bynnag yn y byd y bônt. Cyfarfu staff, cyn-fyfyrwyr, myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr yng ngwesty'r Oceania i rannu hanesion, rhwydweithio a dysgu am ddatblygiadau diweddar ym Mhrifysgol Bangor a thu hwnt.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2019

Arbenigwyr Iaith Blaenllaw yn Ymweld â Bangor

Daeth arbenigwyr o bob cwr o’r byd i Fangor yr wythnos diwethaf i rannu eu profiadau ac i esbonio sut gellid dysgu ieithoedd tramor yn llwyddiannus.

Hwn oedd yr ail dro i Sefydliad Conficius o Brifysgol Bangor drefnu cynhadledd fel hon, a llwyddwyd i ddenu dros 70 o gynadleddwyr o Brydain, Ffrainc, Rwsia a Romania i Fangor.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2019

Myfyriwr o Brifysgol Bangor i gaiacio trip unwaith-mewn-oes

Mae myfyriwr dylunio cynnyrch sydd yn ei ail flwyddyn, yn athletwr antur a Christion o Brifysgol Bangor wedi cael ei ddewis i gymryd rhan yn y British Universities Kayak Expedition (BUKE).

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2019

Marciau llawn i athrawon Cymru, meddai'r Gweinidog Addysg Kirsty Williams

Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi bod yn teithio ar draws Cymru dros yr wythnosau diwethaf, gan glywed gan athrawon dan hyfforddiant beth oedd yn eu denu i yrfa o flaen y dosbarth. Yn ddiweddar, bu’n ymweld â Phrifysgol Bangor, gan gyfarfod staff a myfyrwyr yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol a chynnal sesiwn holi ac ateb ar ymgyrch recriwtio ddiweddaraf Llywodraeth Cymru, Addysgu Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2019

Pen-blwydd Ymgyrch Common Voice Cymraeg yn Un Oed

Heddiw (dydd Gwener 7 Mehefin, 2019) mae’n flwyddyn gyfan ers lansio’r ymgyrch Common Voice Cymraeg ( http://voice.mozilla.cy). Mae Common Voice yn llwyfan torfoli a ddatblygwyd gan gwmni meddalwedd rhyngwladol Mozilla, ac yn ymdrech i gasglu recordiadau llais o nifer o ieithoedd y byd ar gyfer creu technoleg lleferydd cod agored yn yr ieithoedd hyn.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2019

Newid cyflym mewn riffiau cwrel yn arwain at alwadau byd-eang am ailystyried y sefyllfa

Mae arbenigwyr ar riffiau cwrel o bedwar ban byd yn galw am ailystyried ein nodau hinsawdd rhag blaen yng ngoleuni tystiolaeth gynyddol fod yr ecosystemau bregus hyn yn newid a dirywio yn hynod gyflym.

Mae riffiau cwrel, sydd wedi gweithredu'n gymharol ddigyfnewid am oddeutu 24 miliwn o flynyddoedd, bellach yn mynd trwy newidiadau eithriadol o ran eu gwneuthuriad.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mehefin 2019

Coedwigwyr Bangor ym Mhalas Buckingham

Mynychodd dau o goedwigwyr Prifysgol Bangor, Sarah Ellis a James Walmsley, Barti Gardd Brenhinol ar dir Palas Buckingham yn ddiweddar, o ganlyniad i'w gwaith gyda'r elusen fechan, Woodland Heritage. Treuliodd y coedwigwyr lawer o'u prynhawn yn archwilio'r gerddi helaeth, sy’n safle 40-erw yng nghanol Llundain a chartref i gasgliad trawiadol o goed specimen. Cawsant hefyd gipolwg ar aelodau'r teulu Brenhinol, gan gynnwys y Frenhines a’r Tywysog Harry.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Mehefin 2019

Ymgynghoriad ar ddatblygu Strategaeth Ystadau

Mae Prifysgol Bangor yn cynnal ymgynghoriad fel rhan o gynlluniau i ddatblygu strategaeth ystadau newydd am y deng mlynedd nesaf.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Mehefin 2019

Llwyddiannau Aelwyd JMJ yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd 2019

Mae Aelwyd Urdd JMJ, sef aelwyd neuadd Gymraeg Prifysgol Bangor, wedi cael Eisteddfod yr Urdd nodedig eto eleni, gyda gwobrau yn y prif gystadlaethau corawl yn cael eu cipio gan yr aelwyd a’i haelodau.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Mehefin 2019