Archif Newyddion: Medi 2019

Pob Can yn Cyfri ym Mhrifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor am wella cyfleusterau ailgylchu ar gyfer yr 11,000 o fyfyrwyr a 2,000 o aelodau staff drwy ymuno â “Pob Can yn Cyfri”.

Cyflwynodd y Brifysgol finiau ailgylchu ‘Pob Can yn Cyfri’ mewn wyth lleoliad, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr a staff ailgylchu caniau diod tra eu bod ‘ar fynd’. 

Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2019

Penrhos: darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor ar deulu Stanley o Gaergybi

Bydd teulu Stanley o Benrhos, Caergybi yn ganolbwynt darlith gyhoeddus ddiddorol ym Mhrifysgol Bangor gan yr hanesydd lleol amlwg, Dr Gareth Huws.  Yn dwyn y teitl 'Penrhos: powerful women and the curious tale of a knight, a lord and an “honourable"’, cynhelir y ddarlith ddydd Mercher, 9 Hydref am 5.30pm, yn Narlithfa Eric Sunderland ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau.  Mae mynediad am ddim, ac nid oes angen tocynnau.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2019

Prifysgol Bangor Bahrain yn Dathlu Graddio

Llongyfarchiadau i'r 87 o fyfyrwyr a raddiodd yn ddiweddar o'r Bahrain Institute of Banking and Finance (BIBF).

Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2019

Gŵyl Hanes yn dod i Fangor

Bydd yr haneswyr blaenllaw David Starkey, Lucy Worsley, David Olusoga a Trevor Fishlock a welir yn rheolaidd ar y teledu yn ymuno ag arbenigwyr o Brifysgol Bangor ac o ledled y DU i gymryd rhan yn yr Ŵyl Hanes gyntaf a gynhelir ym Mangor ar 25 a 26  Hydref 2019.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2019

Bangor yn ennill Cymrodoriaeth Arweinydd y Dyfodol

Mae academydd yn Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor wedi ennill Cymrodoriaeth bwysig Arweinydd y Dyfodol gan Ymchwil ac Arloesi'r DU (UKRI), un o brif gyrff cyllido'r Deyrnas Unedig.

Mae Dr Chris Staples yn ymuno â phrif ymchwilwyr ac arloeswyr  o bob rhan o'r wlad i dderbyn cyfran o'r £78 miliwn a ddyfernir fel Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol. Bwriad y buddsoddiad yw rhoi hwb i'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwyddonol, i gynnal eu gwaith ymchwil arloesol ac i ddatblygu annibyniaeth eu hymchwil.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Medi 2019

Drysau Amgueddfa Hanes Natur Brambell ar agor

There will be an opportunity for the public to visit Brambell Natural History Museum as part of the Open Doors events on Saturday 28 September 2019.

The Open Doors events gives the public the opportunity to have a look at some of Gwynedd and Conwy’s historical buildings, gardens and interesting and unusual locations all for free throughout September.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Medi 2019

Are the Amazon fires a crime against humanity?

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Tara Smith o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2019

A yw rhaglenni natur yn ein twyllo i feddwl bod cyflwr ein planed yn iawn?

Mae ymchwil i raglenni byd natur diweddar y BBC a Netflix yn awgrymu, er bod y rhaglenni yn sôn fwyfwy am fygythiadau sy'n wynebu byd natur, nid ydynt yn aml yn dangos maint llawn y dinistr amgylcheddol a achosir gan bobl

Mae consensws gwyddonol cryf bod natur yn cael ei heffeithio'n ddifrifol gan bobl, bod cyfradd difodiant rhywogaethau yn cyflymu, a bod hyn yn cael effeithiau difrifol. Mae rhaglenni byd natur wedi cael eu beirniadu o bryd i’w gilydd am beidio â dangos i ba raddau y mae'r amgylchedd yn dioddef. Mae astudiaeth newydd wedi canfod, er bod rhaglenni byd natur poblogaidd diweddar yn trafod mwy o'r bygythiadau sy'n wynebu'r rhyfeddodau natur a bortreadir, mae byd natur yn dal i gael ei ddangos yn bennaf fel rhywbeth dilychwyn heb ei gyffwrdd, a gall hyn arwain at ddifaterwch ymysg gwylwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2019

Cyfarwyddwr Newydd i Ganolfan Gelfyddydau Pontio Bangor

Mae Osian Gwynn wedi ei gyhoeddi'n Gyfarwyddwr newydd ar Celfyddydau Pontio, canolfan celfyddydau ac arloesi Prifysgol Bangor, agorwyd yn 2015.

Yn frodor o Lanelli, cafodd Osian Gwynn ei addysgu yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant ac Ysgol Gyfun y Strade, cyn astudio gradd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Astudiaethau Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu’n gweithio i gwmni Cyfathrebu Cambrensis yng Nghaerdydd, cyn astudio gradd Feistr mewn Perfformio Lleisiol yng ngholeg y Guildhall School of Music and Drama, yn Llundain. Gweithiodd fel canwr opera yn unigol ac fel rhan o’r corws i gwmnïau megis Opera Holland Park a Grange Park Opera a theithio ledled Prydain ac Ewrop fel rhan o gynyrchiadau teithiol. 

Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2019

Prifysgol Bangor yn arwain datblygiad i ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg

Bydd Prifysgol Bangor yn arwain datblygiad i ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr ledled Cymru, diolch i gais llwyddiannus am arian gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Daeth tîm o aelodau staff o amrywiol adrannau yn y brifysgol ynghyd â chydweithwyr o sefydliadau partner i ddatblygu portffolio cyffrous o ddarpariaeth, a gaiff ei ddatblygu a'i lansio dros y 10 mis nesaf.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Medi 2019

Gwella Iechyd Meddwl efo Ymarfer Corff

Mae myfyrwraig doethuriaeth o Brifysgol Bangor wedi bod yn edrych ar y berthynas rhwng iechyd meddwl ac ymarfer corff. Yn wreiddiol o Whitstable yng Nghaint, mae Rhi Willmot newydd gwblhau ymchwil i sut y mae ymarfer corff yn lleihau straen ac yn gwella ein lles.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2019

Efo secwinau cynaliadwy ar gael, does dim rhaid i chwyldro gwyrdd fod yn ddi-liw!

Gyda secwinau'n dal yn hynod boblogaidd ym myd 'ffasiwn cyflym', mae un cwmni bychan yn gobeithio ychwanegu tipyn o liw a chynaliadwyedd yr un pryd drwy ddatblygu secwin bioddiraddadwy.

Mae ffasiwn cyflym yn aml yn cael ei feirniadu am gynyddu maint y defnyddiau sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi. Ac mae'r bri mawr ar secwinau ond yn ychwanegu haen o blastig na ellir ei ailgylchu i'r gymysgedd honno.

Mae un cwmni'n gobeithio newid hynny i gyd fodd bynnag. Sefydlodd Rachel Clowes The Sustainable Sequin Company flwyddyn yn ôl i ddarparu secwinau cynaliadwy i'r diwydiant ffasiwn.

Ar hyn o bryd mae Rachel yn defnyddio plastig wedi'i ailgylchu i ddarparu secwinau parod a rhai wedi'u gwneud yn arbennig o wahanol siapiau a meintiau. Secwinau Rachel wedi'u gwneud o blastig wedi'i ailgylchu yw'r cam cyntaf tuag at ei nod o ddatblygu secwin y gellir ei gompostio. Wrth ddefnyddio'r rhain ar ddefnydd bioddiraddadwy, gallai'r dilledyn cyfan bydru'n naturiol ar ôl ei anfon i safle tirlenwi.

Mae Rachel wedi troi at arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor ac wedi gofyn iddynt ddefnyddio eu profiad sylweddol i wireddu ei nod.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2019

Drysau’n agored i Brif Adeilad Prifysgol Bangor

Bydd cyfle i’r cyhoedd gael trosolwg ar hanes Prif Adeilad Prifysgol Bangor fel rhan o ddigwyddiad Drysau Agored ar Ddydd Sadwrn 14 Medi 2019.

Mae digwyddiad Drysau Agored, yn rhoi cyfle i’r cyhoedd gael golwg ar adeiladau hanesyddol, gerddi a lleoliadau diddorol ac anarferol ledled Gwynedd a Chonwy yn rhad ac am ddim yn ystod mis Medi.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2019

Beth sydd yn y gwaed?

Mae arbenigydd o’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn cymryd rhan mewn cyfres newydd ar S4C, Yn y Gwaed.

Yn y gyfres, sy’n dechrau nos Iau, 12 Medi am 8.00, ac sy’n helpu llond llaw o bobl ifanc sydd ar goll yn eu gyrfa i geisio dod o hyd i’w galwedigaeth, mae'r Athro Tim Woodman yn un o’r arbenigwyr ar y rhaglen. Mae’n llunio proffil seicolegol o’r unigolion er mwyn asesu  eu cryfderau seicolegol. Gyda’i phrofiad eang o ddilyn achau Cymreig ar draws y byd, yr hanesydd Eilir Ann Daniels fydd yn taflu golau newydd ar hanes teuluol yr unigolion draw yn Aberystwyth. Byddant yna’n awgrymu meysydd gwaith delfrydol i’r unigolyn hwnnw.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Medi 2019

Preventable trauma in childhood costs North America and Europe $1.3 trillion a year

Datganiad rhyngwladol uniaith Saesneg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Nid oes cyfieithiad ar gael.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Medi 2019

‘Cyfle am sgwrs’ i bobl sydd newydd gael diagnosis o ddementia

Mae “Cyfle am Sgwrs” yn rhoi cynnig i siarad ar y ffôn neu gwrdd â rhywun arall sy'n byw gyda diagnosis yng Ngogledd Cymru. Byddwn yn ei lansio ym Mhrifysgol Bangor fel rhan o ‘World Alzheimer’s Month’ ym mis Medi (23/09/2019).

Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2019

WISERD i dderbyn cyllid sylweddol gan ESRC er mwyn parhau ag ymchwil cymdeithas sifil

Mae WISERD yn un o bedair canolfan ymchwil y gwyddorau cymdeithasol yn y DU sydd wedi llwyddo yng nghystadleuaeth hynod gystadleuol Canolfannau’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Bydd WISERD yn cael £6.3 miliwn fel ail-fuddsoddiad i barhad ei hymchwil ar gymdeithas sifil – y trydydd tro i gyllid sylweddol gael ei ddyfarnu yn hanes deng mlynedd WISERD.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2019

Sut mae dysgu peirianyddol yn gwella cricedwyr Lloegr

Mae'n debyg na fyddai unrhyw un yn meddwl am gysylltu dysgu peirianyddol arloesol gyda chriced o'r safon uchaf. Fodd bynnag, datblygiad dysgu peirianyddol a alluogodd arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor i ddatgelu i Fwrdd Criced Lloegr a Chymru (ECB) y ffactorau hynny a all arwain at ddatblygu cricedwyr o'r radd flaenaf i chwarae ar lefel siroedd neu'n rhyngwladol.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2019