Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Archif Newyddion

Archif Newyddion: Rhagfyr 2019

Boris Johnson is planning radical changes to the UK constitution – here are the ones you need to know about

Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephen Clear o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2019

Cyhoeddiadau gan fardd a flogiwr poblogaidd

Mae’r bardd Carol Rumens, Athro Ysgrifennu Creadigol ar Ymweliad yn yr Ysgol Ieithoedd, Ieithyddiaeth a Llenyddiaethau, yn gorffen y flwyddyn 2019 gan gyhoeddi dau lyfr.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2019

Llofruddiaeth Dydd Nadolig Caergybi - 1909

Ddydd San Steffan 1909 deffrodd trigolion Caergybi i newyddion dychrynllyd. Y noson flaenorol cafodd dynes 35 oed, Gwen Ellen Jones, ei llofruddio’n giaidd. Mewn un adroddiad papur newydd cignoeth dywedwyd bod ei phen bron iawn wedi'i hollti o'i chorff. Ildiodd ei llofrudd, William Murphy, 49 oed, ei hun i'r awdurdodau a chafodd ei draddodi i sefyll ei brawf ym Mrawdlys Biwmares ar 26 Ionawr 1910.

Mae enw William Murphy wedi ennill drwg-enwogrwydd am mai ef oedd y dyn olaf i gael ei grogi yng Ngharchar Caernarfon. Ond beth am y ddynes a laddodd? Mae ymchwil newydd a wnaed gan Ganolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr, Prifysgol Bangor yn canolbwyntio ar dystiolaeth ysgrifenedig sy'n datgelu bywyd dioddefwr y drosedd dreisgar hon.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2019

Can African smallholders farm themselves out of poverty?

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr David Harris  o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Rhagfyr 2019

Marchnad Nadolig Myfyrwyr lwyddiannus arall

Cynhaliodd y tîm Byddwch Fentrus ym Mhrifysgol Bangor y 9fed Farchnad Nadolig Myfyrwyr yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2019

Y tu ôl i Eyes Wide Shut

Bydd symposiwm, yr unig un o'i fath i'w gynnal yn y Deyrnas Unedig, yn edrych ar waddol Eyes Wide Shut, ffilm olaf y cyfarwyddwr ffilm, Stanley Kubrick.

Mae'r digwyddiad yn gydweithrediad rhwng yr UAL Archives and Special Collections Centre a Phrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2019

Llwybr arall cyffrous i Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Bangor

Gyda ffisiotherapyddion yn aml yn brin, mae rheolwyr gwasanaeth ffisiotherapi a darpar fyfyrwyr yng Nghymru wedi dangos diddordeb cryf yn natblygiad llwybr carlam 2 flynedd cyn-gofrestru wedi'i anelu at ymgeiswyr graddedig. Ystyrir y math hwn o raglen yn ddull gwahanol cyffrous o fynd i'r proffesiwn yn hytrach na'r llwybr arferol i israddedigion.  

Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2019

Trafod Gwastraff yn y Cwpwrdd Dillad

Faint o wastraff sydd gennych chi yn eich cwpwrdd dillad?

Y tymor hwn, mae cael secwinau ar ddillad yn ffasiynol iawn ond mae’r ‘ffasiwn cyflym’ hwn yn cael effaith ddifrifol iawn ar ein hamgylchedd.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Rhagfyr 2019

Why some scientists want to rewrite the history of how we learned to walk

Dyma erthygl yn Saesneg gan Vivien Shaw o Ysgol Gwyddorau Meddygol a Dr Isabelle Catherine Winder o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Rhagfyr 2019

Bangor yn y 10 uchaf yng nghynghrair gwyrdd byd-eang

Mae Prifysgol Bangor yn ymddangos yn y ddegfed safle yn y byd am ei ymrwymiad i gynaliadwyedd yn ôl tabl cynghrair rhyngwladol o sefydliadau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.

Mae’r Brifysgol yn un o bedair prifysgol ym Mhrydain sydd yn ymddangos yn neg uchaf UI Green Metric, tabl cynghrair o brifysgolion gwyrddaf y byd.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2019