Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Archif Newyddion: Ionawr 2020

Arddangosfa Caffael Cyhoeddus

Cynhelir arddangosfa'n trafod Caffael Cyhoeddus a Nodau Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol yn Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor ddydd Mawrth 4 Chwefror. Yno, bydd swyddogion caffael o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Ngogledd Cymru, academyddion ac arweinwyr eraill ym maes caffael cyhoeddus, yn rhoi sylw i sut y gall cyrff cyhoeddus ddefnyddio bwyd lleol, a gynhyrchir mewn modd mwy cynaliadwy, a chwrdd â'r nodau llesiant.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2020

Cefnogaeth cymheiriaid yn helpu cynyddu effeithiau llesol gweithgareddau awyr agored

Disgrifiwyd y gogledd fel 'Prifddinas Antur Ewrop' ac mae eleni'n cael ei hyrwyddo fel #blwyddynyrawyragored #yearofoutdoors, mae anogaeth inni ddathlu'r mynyddoedd, yr arfordir a chefn gwlad ac i ymgolli yn harddwch naturiol y wlad a medi'r effeithiau llesol. 

Mae astudiaeth newydd a chyffrous o Brifysgol Bangor yn ystyried a yw'n bosib cynyddu'r manteision llesol i rai unigolion o gael eu cefnogi gan bobl sy'n wynebu heriau tebyg, neu 'gymheiriaid'.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2020

Tynnu sylw at ymchwil Canser ym Mhrifysgol Bangor

Bydd digwyddiad ym Mhrifysgol Bangor ar 4 Chwefror 2020 er mwyn nodi Diwrnod Canser y Byd.

Cynhelir y digwyddiad, sydd yn rhad ac am ddim, yn Ystafell Ddarlithio 2 yn Pontio, rhwng 6.00pm ac 8.15pm. Bydd yn tynnu sylw at yr ymchwil canser sy'n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Bangor, gan nodi 20 mlynedd ers sefydlu Diwrnod Canser y Byd. Bydd nifer o sgyrsiau byr gan oncolegwyr ac ymchwilwyr prifysgol ac yna sesiwn holi ac ateb.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2020

Dros 60 oed ac ar-lein: Adroddiad newydd ar iechyd y boblogaeth yn canfod bod pobl hŷn yng Nghymru yn cymryd rhan weithredol yn y cyfryngau cymdeithasol

Mae pobl dros 60 oed yng Nghymru ar-lein ac yn cymryd rhan weithredol yn y cyfryngau cymdeithasol, a gall hyn fod yn offeryn pwysig yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd.

Mae 77 allan o pob 100 o bobl yng Nghymru sy'n 16 oed neu'n hŷn yn defnyddio un neu fwy o gyfryngau cymdeithasol. Mae 65 o blith y 100 yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol bob dydd. Daw'r canfyddiadau hyn o adroddiad newydd: Iechyd y Boblogaeth mewn Oes Ddigidol: Patrymau yn y defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol yng Nghymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor a gyhoeddir heddiw.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2020

A&E waiting times worst on record – but using AI to unblock beds could be part of the solution

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Christian Subbe o’r Ysgol Gwyddorau Meddygol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2020

Could willow be the answer to better lamb growth?

Datganiad Saesneg gan gorff allanol, felly nid oes cyfieithiad Cymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2020

Lansio oes gyflymach yn M-SParc

Heddiw (23.1.20) bydd canolfan ymchwil 5G, a allai wneud Cymru yn arweinydd byd-eang yn y dechnoleg a newid sut mae'r rhyngrwyd yn gweithio, yn cael ei lansio'n swyddogol yn M-SParc, Parc Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor.

Mae'r Ganolfan Prosesu Arwyddion Digidol (DSP) yn cael ei rhedeg gan academyddion o Brifysgol Bangor, sy'n gweithio ar gyflymu band eang, ac yn chwarae rhan hanfodol mewn galluogi 5G. Gyda phartneriaid gan gynnwys Huawei a BT, mae hwn yn waith byd-eang a allai newid y byd.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2020

Wynebu'r dyfodol - Prifysgol Bangor yn derbyn grant sylweddol i ymchwilio i Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) Emosiynol yn ein dinasoedd

Wrth i Ddeallusrwydd Artiffisial Emosiynol (AI) ddechrau cael ei gyflwyno mewn dinasoedd clyfar, mae tîm o Brifysgol Bangor wedi ennill grant sylweddol i astudio ffyrdd y gall dinasyddion fyw'n gytûn â thechnolegau sy'n synhwyro, dysgu a rhyngweithio â'u hemosiynau, eu hwyliau a'u  bwriadau.

Mae 'Emotional AI in Cities: Cross Cultural Lessons from UK and Japan on Designing for An Ethical Life' yn broject 3 blynedd a gyllidir ar y cyd gan gynghorau ymchwil o Brydain a Japan ac fe'i harweinir gan Andrew McStay, Athro Bywyd Digidol ym Mhrifysgol Bangor.  

Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2020

Seicoleg gadarnhaol: Dull Newydd o Hyrwyddo Ymddygiad Iach

Rydym yn gwybod ers peth amser bod  anweithgarwch corfforol, diet gwael, problem wrth ddefnyddio alcohol ac ysmygu yn achosi goblygiadau iechyd hirdymor sylweddol. Ond mae gwrthdroi tueddiadau ffordd o fyw sydd yn y pen draw yn arwain at gyflyrau fel gordewdra a chlefyd y galon, yn anodd awn.

Mae'r problemau iechyd hyn yn lleihau ansawdd a hyd bywyd yn sylweddol i bobl ledled y byd. Gyda hyn mewn golwg, mae'n bwysig datblygu strategaethau newydd a all fynd i'r afael ag un o faterion iechyd cyhoeddus pwysicaf ein hoes.

Mae ffordd newydd a chyffrous o ymdrin â'r mater hwn wedi dod i ychydig o gasgliadau diddorol. Fel rhan o gydweithrediad rhwng Tîm Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, daeth  project ymchwil PhD i'r casgliad bod seicoleg gadarnhaol - astudio cryfderau a rhinweddau sy'n helpu pobl i deimlo'n dda yn feddyliol - yn gallu hyrwyddo ymddygiad iach hefyd.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2020

Gwyddonwyr Bangor yn cryfhau cysylltiadau â Rwsia i ymladd y newid yn yr hinsawdd

Bu gwyddonwyr o ogledd Cymru mewn seminar arloesol ar yr newid yn yr hinsawdd yn Siberia.

Gwahoddwyd dau wyddonydd o Brifysgol Bangor gan Gonswl Prydain yn Rwsia i draethu ynghylch eu hymchwil amgylcheddol.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2020

Mae'r garfan gyntaf o fyfyrwyr Ffisiotherapi PGDip yn cychwyn ar eu cwrs ym Mangor heddiw

Gyda phrinder ffisiotherapyddion yn aml, mae rheolwyr gwasanaeth ffisiotherapi a darpar fyfyrwyr yng Nghymru wedi croesawu datblygiad llwybr newydd i bobl gymhwyso fel ffisiotherapyddion.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Ionawr 2020

Rhwystrau i ofal iechyd i gymunedau byddar yng Nghymru

Mae pobl fyddar yng Nghymru yn wynebu heriau difrifol wrth gael y wybodaeth a’r gwasanaethau gofal iechyd sydd eu hangen arnyn nhw, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar. (Iechyd a Lles Cymunedau Byddar yng Nghymru: Cwmpasu ar gyfer Arolwg ledled Cymru).

Dyddiad cyhoeddi: 13 Ionawr 2020

Exercise: we calculated its true value for older people and society

Dyma erthygl yn Saesneg gan Carys Jones, Cymrawd Ymchwil gyda'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2020

Five years on from the Charlie Hebdo attack, ‘Je suis Charlie’ rings hollow

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Jonathan Ervine o’r Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Ionawr 2020