Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Wynebu'r dyfodol - Prifysgol Bangor yn derbyn grant sylweddol i ymchwilio i Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) Emosiynol yn ein dinasoedd

Wrth i Ddeallusrwydd Artiffisial Emosiynol (AI) ddechrau cael ei gyflwyno mewn dinasoedd clyfar, mae tîm o Brifysgol Bangor wedi ennill grant sylweddol i astudio ffyrdd y gall dinasyddion fyw'n gytûn â thechnolegau sy'n synhwyro, dysgu a rhyngweithio â'u hemosiynau, eu hwyliau a'u  bwriadau.

Mae 'Emotional AI in Cities: Cross Cultural Lessons from UK and Japan on Designing for An Ethical Life' yn broject 3 blynedd a gyllidir ar y cyd gan gynghorau ymchwil o Brydain a Japan ac fe'i harweinir gan Andrew McStay, Athro Bywyd Digidol ym Mhrifysgol Bangor.  

Mae Japan a'r Deyrnas Unedig mewn man tyngedfennol lle gellir paratoi strwythurau technolegol, cymdeithasol a llywodraethu yn briodol cyn mabwysiadu AI Emosiynol ar raddfa fawr. Yn achos dinasoedd clyfar, yn ddiweddar gwelwyd diffyg ymddiriedaeth yn yr isadeiledd dinesig diweddaraf a'r dulliau o'i reoli, a hynny mewn dadleuon cymdeithasol a chyfreithiol ynghylch defnyddio technolegau canfod ac adnabod wynebau.

Er bod Japan a'r DU yn genhedloedd datblygedig o ran datblygu a mabwysiadu AI, maent yn wahanol o ran hanes cymdeithasol, gwleidyddol, normadol a thechnegol. Ymhlith materion eraill a fydd yn rhoi cyfle sylweddol ar gyfer ymchwil y tîm ceir rhesymeg technolegau synhwyro ac i ba raddau y mae arddangos emosiwn yn gyffredinol ar draws diwylliannau; natur gwahaniaethau ethnocentrig yn y ffordd y defnyddir cyfryngau cymdeithasol a mynegi emosiwn ar-lein; a gwahaniaethau posibl rhwng cysyniadau Japaneaidd ac Ewropeaidd o'r hyn a ystyrir yn breifatrwydd a data sensitif.

Yn ogystal â chyfweld rhanddeiliaid allweddol sy'n datblygu neu'n defnyddio AI emosiynol mewn dinasoedd clyfar, bydd y tîm ymchwil rhyngwladol yn archwilio dulliau llywodraethu (deddfau, normau, gwerthoedd) ar gyfer casglu a defnyddio data personol am emosiynau mewn mannau cyhoeddus i ddeall sut mae'r rhain yn llywio datblygiadau technolegol AI Emosiynol.  Bydd yn ceisio deall agweddau dinasyddion amrywiol tuag at AI Emosiynol, a bydd yn cyd-ddylunio gweledigaethau creadigol, a arweinir gan ddinasyddion, o'r hyn y mae'n ei olygu i fyw yn foesegol ac yn dda gydag AI Emosiynol mewn dinasoedd. Yn y pen draw, ei nod yw bwydo'r holl elfennau a ganfuwyd drwy'r ymchwil, gan gynnwys barn dinasyddion, yn ôl i'r rhanddeiliaid amrywiol, yn cynnwys llywodraethau, diwydiant ac addysgwyr sy'n llunio'r modd y defnyddir AI Emosiynol mewn dinasoedd.

Wrth edrych ymlaen at yr astudiaeth, dywedodd yr Athro Andrew McStay: 'Dim ond rhyw 5 mlynedd yn ôl, roedd AI Emosiynol yn rhywbeth a oedd wedi'i gyfyngu i fusnesau newydd a oedd yn ceisio creu gwasanaethau allan o gyfrifiadura affeithiol. Heddiw, mae'r cwmnïau mwyaf yn defnyddio systemau AI emosiynol a thechnoleg empathig mewn ceir, strydoedd, ystafelloedd dosbarth, cartrefi a mwy. Mae ei bresenoldeb yn tyfu mewn sectorau amrywiol, gan ddod yn amlwg iawn mewn dinasoedd clyfar.  Yn achos Japan a'r Deyrnas Unedig, mae angen i ni wybod rhag blaen beth yw goblygiadau cymdeithasol ymddangosiad y technolegau hyn, sut y cânt eu defnyddio yn ein dinasoedd, beth sy'n dod nesaf, sut mae dinasyddion yn teimlo amdanynt, a yw polisïau'n briodol, a lle moeseg data mewn cymdeithasau sydd â hanes a demograffeg tra gwahanol i'w gilydd.'

Am fwy o wybodaeth am hyn, a phrojectau cysylltiedig, gweler y Lab AI Emosiynol .

Cyllidir y project hwn ar y cyd gan gynghorau ymchwil y DU a Japan fel rhan o'r UKRI-JST Joint Call on Artificial Intelligence and Society . Mae'n gweithredu rhwng 1 Ionawr 2020 - 31 Rhagfyr 2022. Gwerth ei Gost Economaidd Llawn yw oddeutu £710,000 (yn cynnwys £497,710 gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol UKRI a 29,645,000 Yen o gronfeydd Gwyddoniaeth a Thechnoleg Japan).

Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2020

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor