Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Archif Newyddion

Archif Newyddion: Gorffennaf 2020

Athro Ysgrifennu Creadigol yn ennill Gwobr

Mae’r Athro a’r bardd, Zoë Skoulding, wedi ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn, yng nghategori Barddoniaeth Saesneg am ei chasgliad diweddaraf, Footnotes to Water.

Mae Footnotes to Water yn dilyn hynt dwy afon anghofiedig, sef Afon Adda ym Mangor ac Afon Bièvre ym Mharis, yn ogystal â dilyn defaid ar lwybrau llenyddol hyd fynyddoedd Cymru. Dyma un o’r cyfrolau a ddewiswyd gan y Poetry Book Society y llynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2020

Gwobr Llyfr y Flwyddyn i ddarlithydd o Fangor

Mae Ifan Morgan Jones wedi ennill Gwobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn 2020 am ei nofel Babel.

Mae Ifan Morgan Jones yn ddarlithydd mewn newyddiaduraeth yn yr Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau. Mae wedi ysgrifennu pedair nofel, ac fe enillodd y gyntaf ohonynt, Igam Ogam, wobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2008. Cwblhaodd ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor yn 2018 ar bwnc y wasg Gymraeg yn y 19eg ganrif a’r ymchwil hwnnw oedd sail ei nofel Babel.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2020

Cyhoeddi ymchwil canser yn Science Advances

Mae canser yn glefyd sydd wedi cyffwrdd â ni i gyd, ac er ein bod bellach yn gwybod llawer am sut mae canserau'n datblygu ac yn tyfu, mae gennym lawer i'w ddysgu o hyd.  Un o'r prif ffactorau yn natblygiad canser a’i ymwrthedd i driniaeth yw ansefydlogrwydd genomau. Yn ei hanfod, mae hyn yn cynnwys newidiadau cyson i DNA genomig celloedd, gan gynnwys newidiadau i lythrennau'r cod genynnol ynghyd â newidiadau mwy amlwg megis dileu cromosomau, neu hyd yn oed symud darnau mawr o DNA o un cromosom i'r llall. Mae gwaith Dr Chris Staples, sy’n Gymrawd Arweinydd y Dyfodol UKRI, yn labordy’r North West Cancer Research Institute (yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Bangor) yn canolbwyntio ar sut mae celloedd fel arfer yn atal ansefydlogrwydd genomau o'r fath rhag digwydd.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2020

Arbenigwr o Fangor yn cynghori ar fod yn barod ac ymateb i argyfwng iechyd cyhoeddus yn yr Unol Daleithiau

Mae'r gwersi a ddysgwyd o ymateb i argyfyngau iechyd cyhoeddus yn tueddu i fynd o'r cof, ac mae cyllid iechyd cyhoeddus a blaenoriaethau ymchwil yn newid.

Dyna pam y galwyd ar arbenigwr o Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor i ymuno ag adolygiad Academïau Gwyddorau, Peirianneg a Meddygaeth Cenedlaethol yr Unol Daleithiau o gyflwr presennol y dystiolaeth ar gyfer bod yn barod ac ymateb i argyfwng iechyd cyhoeddus (PHEPR) yn yr Unol Daleithiau. 

Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2020

Pobl ifanc o Lanelli'n cael eu canmol yn fawr am achub dyn o'r môr

Mae’r HEDDLU wedi canmol dewrder rhyfeddol Tom Williams, myfyriwr o Lanelli a rhuthrodd i'r môr i achub dyn.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Gorffennaf 2020

We discovered a new species, but war means it may now remain hidden forever

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Alec Moore o'r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Gorffennaf 2020

Athro er Anrhydedd Prifysgol Bangor i arwain y gwaith ar addysgu hanes cyfoethog Cymru a adeiladwyd ar sail gwahaniaeth ac amrywiaeth

Mae’r Athro Charlotte Williams OBE wedi’i phenodi gan Lywodraeth Cymru i arwain gweithgor newydd i roi cyngor ar addysgu themâu sy’n ymwneud â chymunedau a phrofiadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ar draws y cwricwlwm ysgol, a gwella’r broses addysgu honno.  

Mae'r Athro Williams yn Athro er Anrhydedd yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor a chyn Deon Cysylltiol ac Athro mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol RMIT, Melbourne, Awstralia. Mae’n Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Glyndŵr a Phrifysgol De Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2020

Gwobrwyo myfyrwyr am gefnogi eu cyfoedion

Mae dwy fyfyrwraig hŷn wedi eu gwobrwyo am gefnogi eu cyd-fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor.

Mae Jodie Jackman a Dinah Jennings ill dwy wedi bod yn weithgar ac yn effeithiol fel rhan o Gynllun Arweinwyr Cyfoed y Brifysgol, sydd yn galluogi myfyrwyr i gynorthwyo a chefnogi myfyrwyr sy’n newydd i’r Brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2020

Mae cyfres newydd Netflix yn dangos agwedd arall ar ferched yn y chwedl Arthuraidd, meddai academydd ym Mhrifysgol Bangor

Ddydd Gwener 17 Gorffennaf, bydd Netflix yn dechrau ffrydio ei ddrama ffantasi epig ddiweddaraf, Cursed, sy'n seiliedig ar y chwedl Arthuraidd ac yn canolbwyntio ar chwedl Merch Llyn y Fan Fach. Mae'r Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor, yn esbonio pam mae'r cymeriad hynod a phwerus hwn yn y chwedl Arthuraidd yn parhau i apelio at bobl.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2020

Uwch lensys a wneir o weoedd pryfed cop a gweithgynhyrchu uwch seiliedig ar laser yn cael eu trafod gan academyddion mewn seminar cyhoeddus

Mae uwch lensys a wneir o weoedd pryfed cop a gweithgynhyrchu uwch seiliedig ar laser yn ddau bwnc ymysg y nifer fydd cael eu trafod gan academyddion o'r radd flaenaf ym Mhrifysgol Bangor mewn seminar cyhoeddus a gynhelir cyn hir.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2020

Gall symud i ffwrdd oddi wrth gadwyni cyflenwi byd-eang ar ôl Covid roi hwb i economi Gogledd Cymru

Gall ymateb yn erbyn globaleiddio yn sgil argyfwng Covid-19 roi hwb i sector gweithgynhyrchu pwerus Gogledd Cymru gyda ffyniant mewn technolegau blaengar fel argraffu 3D yn rhoi hwb i'r adferiad, yn ôl arbenigwr.

Mae darlithydd economeg ym Mhrifysgol Bangor, Dr Edward Jones, yn rhagweld y bydd mwy o fusnesau a llywodraethau eisiau cael eu cyflenwadau yn agosach at adref wrth iddynt ddod allan o'r misoedd o gyfyngiadau symud digynsail.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2020

How animals are coping with the global ‘weirding’ of the Earth’s seasons

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Line Cordes, Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2020

Clybiau a Chymdeithasau Prifysgol Bangor yn dod yn ail yn y WhatUni.com Awards 2020

Mae Prifysgol Bangor wedi derbyn yr ail wobr yn y categori 'Cymdeithasau a Chwaraeon' yn y WhatUni Student Choice Awards 2020. Daeth y Brifysgol hefyd yn y pedwar uchaf yn y categori Rhoi yn Ôl.    

Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2020

Forest Research wins funding for collaborative research into oak tree health

 Datganiad i'r Wasg gan gorff allanol Forest Research, nid yw ar gael yn y Gymraeg

Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2020

Cyfri’r Cewri

Mae’r Athro Emeritws Gareth Ffowc Roberts yn adnabyddus am ei waith diweddar i boblogeiddio mathemateg ac mae ganddo lyfr newydd ar fin ei gyhoeddi.

Mae Cyfri’n Cewri (Caerdydd, 2020) yn cyflwyno bywyd a gwaith dwsin o fathemategwyr blaenllaw, rhai ohonynt a aned yng Nghymru, ac eraill a gyflawnodd eu gwaith yng Nghymru. Prif neges y llyfr yw bod mathemateg yn rhan annatod o’n hanes a’n diwylliant.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2020

Datrys dirgelion gyda Grantiau Ymchwil Leverhulme

Bydd tri grant i Brifysgol Bangor yn galluogi gwyddonwyr i ddatrys rhai o ddirgelion gwyddoniaeth a chofnodi un o ecosystemau mwyaf amrywiol y ddaear.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2020

Effaith newid yn yr hinsawdd ar allu marmotiaid i oroesi yn gwahaniaethu rhwng tymhorau

Mae llawer o anifeiliaid wedi esblygu cylch bywyd a strategaethau (patrymau goroesi ac atgenhedlu) yn unol ag amrywiaeth a ragwelir rhwng y tymhorau mewn amodau amgylcheddol. Mae hafau byr a mwyn yn cynhyrchu cyfnodau toreithiog o lystyfiant a bwyd, sef yr amser perffaith i roi genedigaeth i'r ifanc. Mae gaeafau hir a garw pan fo bwyd yn brin wedi gwneud anifeiliaid i ddibynnu'n helaeth ar gadw braster wrth gefn i gael egni, ac mewn achosion eithafol, i aeafgysgu neu fudo.

Fodd bynnag, mae newid yn yr hinsawdd yn newid yr amodau tymhorol hyn y mae llawer o rywogaethau wedi'u haddasu iddynt. Mae'r tymheredd yn codi, llai o eira yn y gaeaf, eira'n toddi ynghynt, hafau'n ymestyn, a digwyddiadau eithafol yn digwydd yn amlach (e.e. sychder, llifogydd)

Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2020

Cydweithio ag arlunydd i gyflwyno Cymdeithaseg ar ffurf cofiadwy

Mae dau academydd o Brifysgol Bangor wedi cydweithio â’r cartwnydd Huw Aaron er mwyn cyflwyno maes pwysig Cymdeithaseg ar ffurf hwyliog a chofiadwy yn y Gymraeg, gyda’r gobaith y bydd yn annog mwy o siaradwyr Cymraeg i ddilyn gyrfa yn y maes.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2020

Bangor a Phrifysgolion Santander yn cynnig cymorth drwy Lwfans Cynhaliaeth Mentergarwch yn ystod argyfwng COVID

Bangor University and Santander Universities are supporting student and graduates with their businesses and new ventures through the COVID-19 pandemic. 

Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2020

Gwaith ymchwilwyr Bangor yn dylanwadu ar adroddiad Tŷ’r Arglwyddi ar ddiffygion democratiaeth ddigidol

Mae cyngor dau ymchwilydd o Brifysgol Bangor wedi dylanwadu ar argymhellion adroddiad i ddemocratiaeth a thechnolegau digidol gan un o bwyllgorau Tŷ’r Arglwyddi.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2020

Y gwaith yn dechrau ar system y Deyrnas Unedig o amcangyfrif achosion COVID-19 mewn dŵr gwastraff

Bydd y gwyddonwyr yn datblygu system safonol i'r Deyrnas Unedig gyfan ar gyfer canfod coronafirws mewn dŵr gwastraff, er mwyn rhoi rhybudd cynnar o achosion yn y dyfodol a lleihau'r ddibyniaeth ar wneud profion costus ar boblogaethau mawr.

Credir bod y rhan fwyaf o bobl sydd wedi'u heintio â SARS-CoV-2 - y firws sy'n achosi'r clefyd COVID-19 - yn pasio'r firws yn eu carthion, hyd yn oed os nad oes symptomau ganddynt, ac felly credir bod craffu ar garthion yn ffordd addawol o adnabod mannau problemus yr haint at y dyfodol.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2020

Tri o Brifysgol Bangor ar restr fer Llyfr y Flwyddyn

Mae creadigrwydd yn y gwynt ym Mangor wrth i ddwy o’n darlithwyr Ysgrifennu Creadigol gyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn, yng nghategori llenyddiaeth Saesneg y gystadleuaeth. Mae Darlithydd newyddiaduraeth  hefyd wedi ei gynnwys yng Nghategori Ffuglen Llyfr y Flwyddyn. Cyhoeddir y canlyniadau ar 1 Gorffennaf.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2020