Arddangosfa yn cynnig cyfle i gymryd rhan mewn trafodaeth trethi hanesyddol

Dr Nia Powell a'r Athro Huw Pryce, Ysgol Hanes, Y Gweinidog Jane Hutt AM, Is-Ganghellor Athro John Hughes, Helen Watt, Aberystwyth, Gwilym Owen a'r Athro Dermot Cahill, Ysgol y Gyfraith. Dr Nia Powell a'r Athro Huw Pryce, Ysgol Hanes, Y Gweinidog Jane Hutt AM, Is-Ganghellor Athro John Hughes, Helen Watt, Aberystwyth, Gwilym Owen a'r Athro Dermot Cahill, Ysgol y Gyfraith. Mae arddangosfa sy’n amlinellu hanes trethi yng Nghymru ac yn annog ymwelwyr i roi eu barn ar ddeddfwriaeth drethi gyntaf y wlad yn y cyfnod modern i’w gweld yng Nghanolfan Rheolaeth Prifysgol Bangor tan 28 Tachwedd.

Bu’r Gweinidog Cyllid Jane Hutt yn lansio’r arddangosfa yn y Brifysgol cyn  ymuno â’r cyfarfod Fforwm Trethi cyntaf yn y Gogledd. Grŵp o randdeiliaid yw’r Fforwm sy’n cynghori ar gyfraith trethi, gweinyddu a’r ffordd y caiff polisi a deddfwriaeth trethi Cymru eu datblygu. Mae’r Athro Dermot Cahill, Pennaeth yr Ysgol y Gyfraith hefyd yn aelod.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar y trefniadau ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru. Dyma fydd sylfaen y gyfundrefn drethi gyntaf erioed yng Nghymru, a’r trethi datganoledig y byddwn yn eu cyflwyno o 2018 fydd y trethi Cymreig cyntaf i’w casglu ers dros 700 mlynedd.

 Gan gynnwys gwaith ymchwil gan Gwilym Owen o Ysgol y Gyfraith a Dr Nia Powell o Ysgol Hanes, Hanes Cymru c Archaeoleg, bydd arddangosfa Trethi yng Nghymru yn olrhain hanes trethi yng Nghymru.

Fel yr esbonia Gwilym Owen:

“Gan nad oedd Cymru yn wlad unedig cyn y Deddfau Uno (1536-43), mae’n anodd dangos system drethu ar wahân ar gyfer Cymru gyfan.  Fodd bynnag, roedd trethi cyn yr Undeb, a godwyd gan Arglwyddi’r Mers, yn bodoli, ac yn cael eu defnyddio ym Mers Cymru.  Gwelir esiampl o “drethi Cymreig” cyn yr Undeb mewn rhestr o gwynion a wnaethpwyd yn erbyn Llywelyn ein Llyw Olaf yn yr haf 1283, yn dilyn Concwest Cymru gan Edward I yn 1282. 

Un cwyn oedd am dreth wedi ei orfodi gan Llywelyn o dair ceiniog ar bob anifail mawr.  Gwnaethpwyd hyn heb ganiatâd y bobl.  Nid oedd yn weithredol drwy Gymru.

Esiampl arall o gyfnod cynt yw gwestfa a dalwyd gan ddeiliaid rhydd y tywysogion brodorol i gefnogi llywodraeth frenhinol mewn nifer o dywysogaethau, yn ôl Cyfraith Hywel Dda, a barhaodd tan yr Undeb.  Er iddynt gael eu talu gan y bobl i gefnogi llywodraeth, ni fyddent wedi cael unrhyw lais yn eu gweithrediad, sydd yn eu gwneud yn wahanol i drethi modern.

Yn dilyn y Goncwest, fe oedd Tywysogaeth Cymru yn gorfod talu trethi Lloegr, wedi eu gweithredu gan Goron Lloegr. 

Mae Gwilym Owen yn rhoi sylw pellach:

“Un gwahaniaeth mawr rhwng y dreth oedd yn weithredol gan Llywelyn ein Llyw Olaf a’r grymoedd newydd i godi trethi gan y Cynulliad Cenedlaethol yw’r ffaith fod treth Llywelyn wedi ei weithredu gan lywodraethwr awtocratig, ac nid oedd yn ymestyn drwy Gymru gyfan.  Yn hanfodol, mae’r grymoedd newydd i godi trethi yn gwbl ddemocrataidd, ac yn ymestyn drwy Gymru.  Nid oes cyfundrefn drethi debyg erioed wedi bodoli o’r blaen yn hanes hir Cymru.  Rhoddodd Gyllideb y Bobl Lloyd George, a’r Ddeddf Seneddol 1911 ddiwedd ar ddylanwad Tŷ’r Arglwyddi mewn perthynas â threthiant.  Mae grymoedd newydd y Cynulliad mewn perthynas â threthiant yn portreadu tyfiant pellach mewn penderfyniadau democrataidd yn ymwneud â threthiant yng Nghymru.”

Dywedodd y Gweinidog Cyllid: “Roedd deddfwriaeth drethi ddiwethaf Cymru 700 mlynedd yn ôl, felly mae cyhoeddi ein Papur Gwyn diweddar ar gasglu a rheoli trethi datganoledig yn foment hanesyddol a phwysig. Y flwyddyn nesaf, byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth drethi gyntaf Cymru yn y cyfnod modern.

“Hoffwn weld cynifer â phosibl o bobl yn gweithio gyda ni i ddatblygu cyfundrefn drethi Cymru at y dyfodol.

Crëwyd yr arddangosfa mewn partneriaeth ag Adran y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor, y Llyfrgell Genedlaethol ac Archifau Morgannwg.

Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor yr Athro John G Hughes: “Rydyn ni’n falch iawn o gael cynnal cyfarfod y Fforwm Trethi, sy’n cydnabod rôl Ysgol y Gyfraith Bangor yn y fenter hon. Mae’r cam cyntaf tuag at drethi datganoledig yng Nghymru yn bwysig dros ben ac mae’r arddangosfa hon yn gosod y Fforwm Trethi a’r ymgynghoriad yn eu cyd-destun hanesyddol. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y gymuned leol yn manteisio ar y cyfle i ymweld â’r arddangosfa ac yn cael eu hysbrydoli i ymateb i’r ymgynghoriad.”

Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2014