Newyddion Ymchwil
- Newyddion Ymchwil diweddaraf
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Holl Newyddion Ymchwil A–Y
Newyddion Ymchwil: Mawrth 2011
Arolwg pum mlynedd o bwys i adrodd ar effeithiau cadarnhaol a negyddol heneiddio
Mae gennym boblogaeth sy’n heneiddio. Mae pobl hŷn yn byw yn hirach ac felly’n ganran uwch o’n poblogaeth nag erioed o’r blaen. Erbyn 2025, am y tro cyntaf mewn hanes, bydd 20% o’r boblogaeth dros 65 a 5.5% dros 80. Mae ystadegau’n awgrymu y bydd achosion o ddementia yn y DU yn cynyddu o 38% dros y 15 mlynedd nesaf ac o 154% dros y 45 mlynedd nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2011
Darganfod rhywogaeth gwiberod newydd
Mae grŵp o wyddonwyr o Brifysgol Bangor wedi cael sylw yn y cylchgrawn National Geographic yr wythnos hon ar ôl iddynt ddarganfod dwy rywogaeth nadredd newydd yn Ne Ddwyrain Asia.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2011
A yw’r Arctig yn dod o’i aeafgwsg?
Efallai bod y gaeafau wedi bod yn fwy garw yn y Deyrnas Unedig yn ddiweddar oherwydd bod llai o rew dros Gefnfor yr Arctig.
Mae’r rhew wedi bod yn cadw newidiadau yn nhymheredd y môr o’r atmosffer. Ond gallai’r ffaith fod y rhew yn cilio gael effaith ar ein hinsawdd.
“Mae rhai hinsoddegwyr yn credu bod absenoldeb rhew môr i’r gogledd o Siberia yn yr hydref y llynedd wedi galluogi i’r môr agored gynhesu’r atmosffer, gan newid patrymau’r gwynt a datblygu system o wasgedd atmosfferig uchel dros Siberia. Mae hyn wedyn yn arwain at aer oer yn cael ei yrru i’r de o’r Arctig, dros ogledd Ewrop”, eglurodd Dr Tom Rippeth o Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mawrth 2011
Technoleg newydd yn obaith newydd i’r economi werdd
Mae Prifysgol Bangor yn bartner mewn rhaglen gwerth £20 miliwn fydd yn rhoi hwb i’r economi werdd trwy helpu busnesau yn y Gorllewin a’r Cymoedd i ddatblygu technolegau newydd i droi cnydau lleol yn gynnyrch masnachol. Cyhoeddwyd y newyddion heddiw yn y Senedd (Dydd Mawrth, 15 Chwefror), gan y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones AC.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2011
Ymchwilwyr yn datgelu bod siarcod yn lanwaith
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi dangos am y tro cyntaf, bod siarcod yn ymweld â riffiau trofannol neu ‘forfynyddoedd’, i gael budd o wasanaethau glanhau a chael gwared ar barasitiaid llesteiriol oddi arnynt eu hunain. Fodd bynnag, mae’r strategaeth yn beryglus, oherwydd drwy fod yno, maent yn agored i ymyrraeth gan weithgarwch dynol.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2011
Rhestr Fer Gwyl Cyfryngau Celtaidd
Cafodd ffilm ddogfen gan ddarlithydd o Brifysgol Bangor ei dewis ar restr fer yr Wyl Gyfryngau Geltaidd. Darlledwyd 'Dic Jones, yn ei eiriau ei hun' ar S4C yn dilyn marwolaeth y prifardd ac Archdderwydd, Dic Jones. Cafodd ei chyfarwyddo gan Dr Llion Iwan o Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2011
Prifysgol Bangor yn cyhoeddi 70 Ysgoloriaeth Ymchwil Ôl-radd ychwanegol
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig ysgoloriaeth ymchwil newydd am y drydedd flwyddyn yn olynnol. Mae’r lleoedd yn ran o raglen bum mlynedd o ehangu ôl-radd y Brifysgol. Fe’u crëwyd hefyd fel rhan o ddathliadau 125 mlwyddiant y Brifysgol yn 2009.
"Mae cymuned ôl-radd gref yn elfen hanfodol bwysig mewn unrhyw brifysgol ryngwladol sy'n rhoi pwyslais ar ymchwil. Yn ogystal â chyfrannu at dwf pellach yn ein cymuned myfyrwyr ôl-raddedig, bydd dros hanner y myfyrwyr yn cynorthwyo busnesau sy’n gweithio ym meysydd allweddol i’r economi Gymreig. Bydd hyn yn eu galluogi i gael mynediad at yr arbenigedd sy’n bodoli o fewn y Brifysgol er mwyn datblygu’u busnes," meddai'r Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2011
Canolfan Ymchwil newydd i fod o gymorth wrth lunio gwasanaethau i blant a theuluoedd
Crëwyd Canolfan ymchwil newydd i adeiladu ar ymchwil sydd wedi dangos sut y mae rhaglenni ar gyfer plant bychain, rhieni ac athrawon ar draws Gymru yn cefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant. Bydd y Ganolfan yn rhoi gwybodaeth bellach a fydd yn cynorthwyo’r Cynulliad wrth iddynt ddatblygu gwasanaethau i blant a theuluoedd i’r dyfodol.
Bydd y Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth yn cael ei lansio gan Huw Lewis AS, Dirprwy Weinidog dros Blant, ddydd Mercher, 9 Mawrth, yng Nghynhadledd Blynyddoedd Rhyfeddol Cymru yng Nghaerdydd.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2011
ECB yn sicrhau help gwyddonwyr o Brifysgol Bangor o ran profi dawn cricedwyr
Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) wedi troi at wyddonwyr chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor i’w cynorthwyo o greu model darogan talent i helpu i adnabod cenedlaethau cricedwyr penigamp yn y dyfodol.
Amcan y project ymchwil rhwng yr ECB a’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn y Brifysgol yw dilysu model ar gyfer darogan talent ym maes criced. Defnyddir hwn i helpu dewiswyr a hyfforddwyr i asesu ac adnabod chwaraewyr ifainc addawol ac i gynyddu’r graddau y daw’r rhain yn gricedwyr rhyngwladol llwyddiannus.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2011
Mae CARIAD yn helpu ymchwilwyr o Ethiopia i wella sicrwydd cyflenwadau bwyd
Gan gydweithio â gwyddonwyr yng Nghanolfan Ymchwil Uwch Prifysgol Bangor dros Ddatblygiad Amaethyddol Rhyngwladol (CARIAD), mae ymchwilwyr o Ethiopia wedi cymryd cam mawr ymlaen o ran gwella sicrwydd cyflenwadau bwyd ffermwyr tlawd mewn ardaloedd yn Ethiopia sy’n tueddu i ddioddef sychder. Maent wedi canfod dau fath o wenith Indiaidd, wedi’u haddasu ar gyfer amodau Ethiopia, sy’n fwy cynhyrchiol pan fo glawiad yn brin.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2011
Rhoi dyddiad geni i Môn Man Cymru a phryd y ffurfiwyd y Fenai
Mae ymchwil wedi dangos pryd y daeth Ynys Môn yn ynys barhaol drwy i’r Fenai gael ei ffurfio.
Fe wnaeth Mike Roberts, myfyriwr hŷn o Amlwch, gynnal ymchwil fel rhan o’i PhD yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, wedi’i gefnogi gan Ymddiriedolaeth Cemlyn Jones a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.
Mae ei ymchwil, sydd newydd gael ei chyhoeddi mewn cyfnodolyn academaidd, yn datgelu y bu i’r Fenai ddod yn nodwedd barhaol rhwng 5,800 a 4,600 o flynyddoedd yn ôl, o gwmpas yr adeg y cymerodd y ffermwyr cyntaf le’r helwyr-gasglwyr yng ngogledd Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2011