Newyddion Ymchwil: Mawrth 2014

BEACON yn ennill gwobr fawreddog RegioStars y Comisiwn Ewropeaidd

Dyfarnwyd gwobr fawreddog RegioStars y Comisiwn Ewropeaidd 2014 i Ganolfan Ragoriaeth Bioburo BEACON, partneriaeth ymchwil arloesol o Gymru sy’n canolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch diwydiannol o blanhigion er mwyn lleihau dibyniaeth ar adnoddau ffosil megis glo a nwy.   

Dyddiad cyhoeddi: 31 Mawrth 2014

Project ymchwil newydd yn rhoi sylw i flaenoriaethau cenedlaethol wrth ymladd bygythiad clefydau coed

Mae clefydau newydd yn risg arwyddocaol i iechyd coed a bioddiogelwch planhigion. Mae Cynghorau Ymchwil Llywodraeth y DU, DEFRA, y Comisiwn Coedwigaeth a Llywodraeth yr Alban wrthi’n buddsoddi £7M ar y cyd i gyllido saith project newydd mewn ymgais i ymdrin â’r bygythiadau a ddaw i goedwigoedd, coedlannau a choed yn y DU.

Mae Prifysgol Bangor yn bartner yn un o’r projectau hyn, gan gydweithredu â Phrifysgolion Stirling a Chaergrawnt a’r Asiantaeth Ymchwil Coedwigaeth. Bydd y project, sy’n dwyn y teitl “Modelling economic impact and strategies to increase resilience against tree disease outbreaks”, yn rhoi sylw i “the protection and enhancement of public benefits, including biodiversity and ecosystem services (…) building resilience in woodlands, and wider landscapes”, sef y prif argymhellion sydd newydd gael eu cyflwyno’n benodol gan Bwyllgor Tŷ’r Cyffredin ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.  Bydd hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at alwad y Pwyllgor am waith ymchwil a datblygu tymor hir sy’n canolbwyntio ar baratoi ar gyfer bygythiadau yn y dyfodol i iechyd planhigion, er mwyn sicrhau ymateb effeithiol yn y DU.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2014

Ffenomen #HunlunDigolur

Mae seicolegydd ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei gyfareddu gan y ffenomen #nomakeupselfie (#hunlundigolur) a welwyd yn cael cymaint o sylw'r wythnos hon ar gyfryngau cymdeithasol.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2014

Pan fydd gwres yn iachau canser

Yn ddiweddar cyhoeddwyd un o'r adolygiadau cynhwysfawr cyntaf o'r pwnc  o drin canser gan ddyfnyddio gwres yn Open Biology, cyfnodolyn cyflym mynediad agored y Gymdeithas Frenhinol. Yr awduron yw Thomas Turner, a raddiodd yn ddiweddar mewn Bioleg Canser ym Mhrifysgol Bangor, a Dr Thomas Caspari, ymchwilydd yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol ym Mhrifysgol Bangor

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2014

Ymchwil newydd yn dangos sut y gall rheoli maetholion wella proffidioldeb ffermydd ac effeithiau amaethyddiaeth ar yr amgylchedd

Mae cynnydd mawr ym mhris gwrteithiau a phwysau ar y diwydiant amaeth i leihau ei gyfraniad i lygredd dŵr yn golygu nad yw gwneud y defnydd gorau o faetholion erioed wedi bod yn bwysicach.  Ar hyn y canolbwyntiodd ymchwil a wnaed ar ffermydd ar draws Conwy gan wyddonwyr o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor.  Mae'r darganfyddiadau newydd gael eu cyhoeddi mewn cyfnodolyn academaidd blaenllaw, "Agriculture, Ecosystems & Environment".

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2014

A allai ynysoedd Orkney arwain y ffordd ar gynhyrchu trydan carbon isel?

Mae arbenigwyr ynni adnewyddadwy morol ym Mhrifysgol Bangor wedi cyhoeddi astudiaeth newydd sy'n edrych ar y posibilrwydd o gynhyrchu trydan carbon isel trwy dyrbinau llanw ar ynysoedd Orkney, yng ngogledd yr Alban.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2014

Bardd o Fangor ar restr fer prif wobr

Mae bardd byd-enwog, y mae ei gwaith eisoes wedi ei gyfieithu i 18 o ieithoedd, ar y rhestr fer i brif wobr barddoniaeth.  Rhoddwyd  ar restr fer y Gymdeithas Farddoniaeth ar gyfer Gwobr Ted Hughes am Farddoniaeth Newydd.

 

Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2014

Ymchwil Food Dudes Prifysgol Bangor i gael mwy o blant i gymryd prydau ysgol iach

Mae rhaglen arloesol i newid ymddygiad, a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Bangor, i ddod yn rhan o gynllun mawr gan Adran Addysg y DU i gael mwy o blant ysgolion cynradd i gymryd prydau ysgol iach.  

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2014

Cydweithio ar ddeunyddiau i sgriniau hyblyg electronig yn cael dyfarniad 'Eithriadol' gan y Bwrdd Strategaeth Technoleg

Mae'n bleser gan SmartKem Ltd., datblygwr arweiniol ym maes deunyddiau lled-ddargludol organig, perfformiad uchel i sgriniau hyblyg ac electronig,  A Phrifysgol Bangor gyhoeddi y dyfarnwyd gradd 'Eithriadol' gan y Bwrdd Strategaeth Technoleg i Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth ddiweddar rhyngddynt.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2014

Ysgol Seicoleg Bangor i chwarae rhan flaenllaw mewn ymchwil £1.1.M MRC yn ymwneud â dibyniaeth a mania

Bydd Ysgol Seicoleg, Prifysgol Bangor yn gwneud ymchwil i driniaeth ffarmacolegol newydd ar gyfer afiechydon seiciatrig.  Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Rhydychen, a Phrifysgol British Columbia, wedi cael nawdd gan y Cyngor Ymchwil Feddygol i werthuso gallu cyffur newydd i leihau ymddygiadau byrbwyll a gysylltir â dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau yn ogystal â mania.

 

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2014

Partneriaeth y Brifysgol yn dwyn buddion yn y tymor hir i gwmni arloesol

Gall un o gwmnïau arloesol Cymru sy’n ymwneud â chyflenwadau meddygol briodoli cyfnod o dwf hynod o gyflym, pryd y cafwyd cynnydd o 400% yn nhrosiant y cwmni, ynghyd â chynnydd yn nifer y gweithwyr, o 5 i 65, i bartneriaeth bwysig â Phrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2014