Newyddion Ymchwil: Mawrth 2015

Dathlu Astudiaethau Arthuraidd ym Mangor

Mae Prifysgol Bangor yn dathlu Astudiaethau Arthuraidd yn y Brifysgol drwy gynnal darlith gyhoeddus ac arddangosfa o lyfrau prin yn canolbwyntio ar y maes astudio hwn. Bydd y ddau ddigwyddiad yn dathlu rhodd o gasgliad sylweddol o  lyfrau Arthuraidd i Lyfrgell Prifysgol Bangor gan Gyngor Sir y Fflint.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Mawrth 2015

Cash remains king in Chile but its days could be numbered

Dyma erthygl yn Saesneg gan Bernardo Batiz-Lazo o Ysgol Busnes y Brifysgol a Juan Felipe Espinosa, Pontificia Universidad Catolica de Valparaiso sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation  ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2015

'Cyflwr natur' yn bwysig wrth benderfynu effaith newid hinsawdd

Nid yw modelau presennol ar sut y bydd llystyfiant yn ymateb i newid hinsawdd yn ystyried cyflwr y llystyfiant - p'un a yw'n aeddfed a sefydlog, neu eisoes yn ymateb i ddigwyddiadau sy'n tarfu arno.

Heddiw, yn Nature Communications (24 Mawrth 2015), cyhoeddwyd ymchwil newydd o un o'r arbrofion hiraf yn y byd ym maes newid hinsawdd. Cyllidir y gwaith hwn gan y Comisiwn Ewropeaidd ac fe'i harweinir gan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, ynghyd â phartneriaid Ewropeaidd, yn cynnwys Prifysgol Bangor.   Yn achos Prysgdiroedd mae'r ymchwil yn awgrymu bod yr amser ers y tarfu diwethaf ar yr ecosystem yn effeithio ar eu hymateb i hinsoddau yn y dyfodol, ac y dylid ystyried hynny wrth ddarogan ymatebion ecosystem i newid hinsawdd.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2015

Grŵp o Brifysgol Bangor i ymchwilio i salwch pen mynydd mewn taith i Fynyddoedd yr Himalaia

Yr wythnos hon, bydd academyddion o Brifysgol Bangor yn arwain taith i Fynyddoedd yr Himalaia fel rhan o broject ymchwil fydd yn edrych ar salwch cysylltiedig â bod ar ben mynyddoedd uchel. Bydd yr ymchwilwyr Dr Samuel Oliver a Dr Jamie Macdonald,  Gabriella Rossetti sy'n fyfyriwr PhD, a James Pollard sy'n fyfyriwr israddedig Gwyddorau Chwaraeon  - i gyd o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac YmarferPrifysgol Bangor - yn rhan o dîm o 55 o bobl a fydd yn cynnwys meddygon, gwyddonwyr ac achubwyr mynydd. Bydd y tîm yn dechrau'r daith ar 20 Mawrth ac yn dychwelyd ar 25 Ebrill.  

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2015

Astudiaeth i ddiogelu adnoddau genetig tilapia gwyllt ar gyfer dyfodol ffermio pysgod

Gyda stociau pysgod y byd yn prinhau, mae ffermio tilapia yn llwyddiant byd-eang, gyda chynhyrchu wedi treblu yn ystod y mileniwm hwn. 

Mae hwn yn awr yn ddiwydiant gwerth $7.6bn, gan gynhyrchu 4.5 miliwn tunnell o bysgod fforddiadwy o ansawdd uchel bob blwyddyn.  Yn ogystal, mae'n gynaliadwy, oherwydd yn wahanol i'r eogiaid a'r draenogiaid y môr rydym yn eu magu yn Ewrop, nid oes angen bwydo tilapia gyda llawer o bysgod eraill wedi'u dal o'r cefnforoedd, ond maent at ei gilydd yn bwyta deunydd llysieuol a gwastraff o ffermydd.  Er eu bod yn cael eu meithrin yn awr drwy'r byd, o Affrica y daw tilapia yn wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mawrth 2015

Dyfarnu Cyfrif Cynyddu Effaith - gwobr o fri a fydd yn arwain at fwy o gyfnewid ymchwil economaidd a chymdeithasol

Mae Prifysgol Bangor wedi ennill gwobr o fri a fydd yn cynyddu gallu'r Brifysgol i rannu ymchwil ym meysydd gwyddorau economaidd a chymdeithasol â’r gymdeithas ehangach.

Dyfarnwyd dros £670,000  i Brifysgol Bangor gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) - un o brif gyrff dyfarnu arian ymchwil y DU.
 
Mae'r Brifysgol ymhlith 24 o sefydliadau ymchwil o bwys i dderbyn Cyfrif Cynyddu Effaith (IAA) yr ESRC, a fydd yn rhedeg tan 2018.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mawrth 2015