Newyddion Ymchwil: Ebrill 2015

Astudiaeth newydd yn dangos bod llygredd golau o'r arfordir yn tarfu ar greaduriaid yn y môr

Gall golau artiffisial yn y nos newid ecosystemau morol, yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn  Biology Letters. Mae'r canlyniadau'n dangos y gallai llygredd golau o gymunedau arfordirol, llongau ac adeileddau yn y môr newid cyfansoddiad cymunedau creaduriaid di-asgwrn-cefn yn y môr.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2015

Arbenigwyr Rhyngwladol ym maes Caethiwed yn mynd i Brifysgol Bangor ar gyfer Cynhadledd

Rhwng 7 a 10 Mai, bydd arbenigwyr rhyngwladol ym maes caethiwed yn mynd i Brifysgol Bangor i gymryd rhan mewn cynhadledd Ewropeaidd ar ymddygiadau caethiwus, sydd i’w chynnal gan Ysgol Seicoleg y Brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2015

Ap defnyddiol i bobol efo dementia

Mae Prifysgol Bangor yn cyfrannu arbenigedd i gefnogi datblygiad ac effeithiolrwydd ‘Book of You’,  sef ap sy’n cael ei groesawu fel rhywbeth sydd â’r potensial i chwyldroi therapi atgofion yn achos pobol efo dementia.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Ebrill 2015

Y Brenin Arthur yn dychwelyd i Gymru- ac mae'r diolch i Guy Ritchie

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Raluca Radulescu o’r Ysgol Llenyddiaeth saesneg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2015

Ymchwilwyr i dreillio 'ddeunydd tywyll microbaidd' ar gyfer adnoddau biotechnoleg newydd

Yn y wobr gyntaf i Brifysgol Bangor gan ffynhonnell cyllido ymchwil o bwys yr Undeb Ewropeaidd, Horizon 2020 Program, bydd Yr Athro Peter Golyshin yn arwain consortiwm rhyngwladol o fwy na 20 o bartneriaid o'r byd academaidd a diwydiant o 12 o wledydd. Mae'r rhain yn cynnwys partneriaid diwydiannol rhyngwladol blaenllaw, a byddant yn gweithio ar broject cydweithredol pedair blynedd gwerth 6 miliwn Ewro. Bydd y project yn cloddio am, ac yn defnyddio, ensymau a metabolion sydd newydd eu darganfod, yn arbennig er mwyn cynhyrchu cemegau,  technolegau glanhau'r amgylchedd a chyffuriau gwrth-ganser.

 

Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2015

Pobl ddwyieithog yn cymryd mwy o risg os rhoddir adborth iddynt yn eu mamiaith

Mae ymchwil diweddar ym Mhrifysgol Bangor yn dangos bod pobl ddwyieithog Tsieinëeg-Saesneg yn cymryd mwy o risg wrth gamblo os rhoddir adborth iddynt mewn Tsieinëeg yn hytrach na Saesneg.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Ebrill 2015

Saving our scallops: Arran reserve reveals marine protection works

Dyma erthygl yn Saesneg ganLeigh Howart o’r Ysgol Gwyddorau Eigion a Bryce Stewart o Brifysgol Efrog sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

 

Dyddiad cyhoeddi: 15 Ebrill 2015