Newyddion Ymchwil: Mehefin 2015

Prifysgol Bangor yn cyfrannu at Ganolfan newydd Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys (Canolfan PRIME Cymru)

Mae Prifysgol Bangor, ochr yn ochr â'i phrifysgolion partner, Caerdydd, Abertawe a De Cymru, wedi derbyn £3.6M ar gyfer 'Canolfan PRIME Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys'.

Bydd y cyllid gan Ymchwil a Gofal Iechyd Cymru yn cefnogi Canolfan PRIME Cymru i wella iechyd a lles pobl yng Nghymru a’r tu hwnt, drwy gynnal ymchwil o ansawdd uchel i bynciau sydd â blaenoriaeth polisi cenedlaethol mewn gofal sylfaenol, brys a heb ei drefnu.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Mehefin 2015

As cash becomes quaint, are ATMs on path to obsolescence?

Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Bernardo Batiz-Lazo o’r Ysgol Fusnes sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2015

Grant Loteri Cenedlaethol £1.7 m i warchod bywyd morol sydd o dan fygythiad

Datganiad gan Brifysgol Newcastle- nid yw ar gael yn Gymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mehefin 2015

Zimbabwe ditches its dollar in the end of an economic era

Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Bernardo Batiz-Lazo  o’r Ysgol Fusnes sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mehefin 2015

Grŵp o Brifysgol Bangor yn dychwelyd o Fynyddoedd Himalaia

Mae academyddion o Brifysgol Bangor wedi dychwelyd yn ddiweddar o daith i Fynyddoedd Himalaia fel rhan o broject ymchwil i salwch cysylltiedig ag uchder.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2015

Diwedd llwyddiannus i Broject Adnoddau Pysgodfeydd Cynaliadwy

Daeth project casglu data dros dair blynedd i helpu pysgotwyr Cymru i weithio'n gynaliadwy i ben gyda chyflwyniad ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Mehefin 2015

Bangor yng Nghefnfor India

Mae biolegwyr môr o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor newydd ddychwelyd o daith wyddonol a chadwraeth i Diriogaeth Brydeinig Cefnfor India. Ar hyn o bryd y diriogaeth hon, sydd 7˚ i'r de o'r cyhydedd, islaw'r Maldives, yw Gwarchodfa Fôr fwyaf y byd.  

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2015

Myfyriwr blwyddyn olaf mewn gwyddorau biofeddygol yn gwneud darganfyddiad pwysig ym maes canser

Mater sydd wedi peri penbleth ym maes bioleg canser ers cryn amser yw sut y gall y rheolydd Cdc2, sy'n rheoli twf celloedd, fod yn weithredol ac anweithredol yr un pryd. Mae celloedd dynol yn rhoi'r gorau i ymrannu pan ddigwydd difrod genetig drwy atal Cdc2 rhag gweithredu, ond mae arnynt angen Cdc2 gweithredol hefyd i gael gwared ar ddiffygion genomaidd.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2015