Newyddion Ymchwil: Hydref 2015

The African lion: what faster decline of apex predator means for ecosystems

Dyma erthygl yn Saesneg ganMatt Hayward o Goleg Gwyddorau Naturiol y Brifysgol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversationar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol ac erthyglau eraill ganddo.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2015

Yn ôl tîm o wyddonwyr, cafodd heidiau o anifeiliaid ffyrnig effaith ar ecosystem y cyfnod Pleistosen

Roedd Dr Matt Hayward, Uwch Ddarlithydd mewn Cadwraeth yn y Coleg Gwyddorau Naturiol, Prifysgol Bangor yn rhan o dîm sydd wedi nodi’r rôl hollbwysig a chwaraewyd gan ysglyfaethwyr mawrion wrth reoli niferoedd llysysyddion (herbivores) mewn ecosystemau.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2015

Deunydd adeiladu solar rhychiog yn dangos ei botensial

Mae ymchwil gan Dr Noel Bristow (PhD mewn peirianneg electronig) a Dr Jeff Kettle o Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor a gyhoeddwyd yn The Royal Society of Chemistry (Energy & Environmental Science, DOI:10.1039/C5EE02162F) yn awgrymu bod gosod paneli ffotofoltaig organig (OPVs) ar swbstradau tri dimensiwn (o'u cyferbynnu â swbstradau gwastad) yn fodd o'u gwneud yn llawer mwy effeithlon a defnyddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2015

Meddyliwch ddwywaith pwy ydych yn ei ddewis yn arweinydd: mae narsisiaid yn ddeniadol ar yr olwg gyntaf ond ychydig sy’n arweinwyr da yn y tymor hir

O ddigwyddiadau fel Cwpan Rygbi'r Byd i wleidyddiaeth bleidiol, mae hyfforddwyr, capteiniaid ac arweinwyr pleidiau'n cael eu pwyso a'u mesur drwy'r adeg. 

Mae arweinyddiaeth yn agwedd bwysig ar fywyd bob dydd hefyd, ac rydym i gyd yn dewis arweinwyr, neu fan leiaf yn gweithio gydag arweinwyr. Er enghraifft, rydym yn gwybod pwy ydi 'bos' yn y gwaith, pwy ydi'r 'capten' mewn gêm bêl-droed ar b'nawn Sul, a phwy 'sy'n rheoli' adref. 

Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2015

Astudiaeth yn dangos fod effaith economaidd prifysgolion Cymru yn tanio’r economi ym mhob rhan o’r wlad

Mae’r astudiaeth ddiweddaraf gan arbenigwyr addysg yn dangos fod prifysgolion yng Nghymru yn chwarae rhan allweddol yn tanio economi Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2015

Ymchwil Newydd yn Anelu at Weddnewid Dulliau o Ragweld Lefelau Paill

Mae tîm o ymchwilwyr wrthi'n datblygu cenhedlaeth newydd o ddulliau o fonitro paill ac maent yn gobeithio y byddant yn arwain at ddulliau mwy dibynadwy o ragweld lefelau paill i filoedd o boblogaeth yn y DU sy'n dioddef o alergeddau haf.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2015

Gall egwyddorion seicolegol egluro methiannau o bwys mewn gofal iechyd

Mae papur yn Journal of Medical Ethics y BMJ yn torri tir newydd drwy ddefnyddio dulliau gweithredu seicolegol i adolygu argyfyngau iechyd mawr o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Er gwaethaf nifer o ymholiadau cymhleth ac amlwg i fethiannau o bwys mewn gofal iechyd yn y GIG, mae'r un camgymeriadau'n codi eu pennau'n gyson a methiannau mewn sicrhau diogelwch cleifion yn parhau.  Tra bo ymchwiliadau'n disgrifio'r hyn a aeth o'i le ym mhob achos, mae cwestiynau ynghylch sut a pham y digwyddodd methiannau o'r fath yn aros heb eu hateb. 

Yn y papur ymchwil, mae Dr Michelle Rydon-Grange, sydd newydd gymhwyso fel Seicolegydd Clinigol yn Ysgol Seicoleg y Brifysgol, yn defnyddio theori seicolegol i ganfod dealltwriaethau newydd o'r achosion sy'n arwain at fethiannau enbydus mewn lleoliadau gofal iechyd.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2015

£1.8m ar gyfer yr adnodd ar-lein i roi sylw i Gymraeg cyfoes ar raddfa fawr

Fel awdurdod blaenllaw ar dechnolegau iaith Gymraeg, bydd Prifysgol Bangor y cymryd rhan mewn prosiect aml-sefydliad i ddatblygu'r corpws torfol cyntaf erioed i gofnodi a hysbysu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol yr iaith Gymraeg .

Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2015

Defnyddio’r Gymraeg yn y Gymuned

Fel rhan o werthusiad o Strategaeth Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru, cynhaliwyd astudiaeth ymchwil gan Dr Rhian Hodges a Dr Cynog Prys, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor i’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn chwe chymuned yng Nghymru. Canfuwyd bod sefyllfa’r Gymraeg yn parhau i fod yn fregus o fewn cymunedau’r astudiaeth sef Aberteifi, Aberystwyth, Bangor, Llanrwst, Porthmadog a Rhydaman. Er hynny, gwelwyd tystiolaeth o ddefnydd o’r Gymraeg yn y cymunedau yn ogystal ag awydd i gael mwy o gyfleoedd amrywiol i ddefnyddio’r Gymraeg o fewn bywyd bob dydd (e.e. wrth siopa neu dderbyn gwasanaethau cyhoeddus).

 

Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2015

Tri phroject o Fangor ymysg yr 20 uchaf sy’n cyfrannu at ddatblygiad

Mae dim llai na 3 phroject o Brifysgol Bangor wedi‘u dewis o blith bron i 7,000 o gyflwyniadau i’w ddefnyddio fel enghreifftiau o’r 20 project ymchwil orau sy’n cyfrannu at ddatblygiad rhyngwladol

Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2015

Cynhadledd Arddangos Ymchwil Iechyd a Meddygol

Ochr yn ochr â'r rhaglen wyddonol, cyflwynodd Sefydliad Gogledd Cymru ar gyfer Hap-dreialon Iechyd raglen yn canolbwyntio ar yr isadeiledd ymchwil sydd ar gael eisoes yn y rhanbarth. Mae hwn yn cynnig cefnogaeth sylweddol a phwysig i ymchwil iechyd a meddygol, o gefnogaeth i ddatblygu treialon i gyfleusterau ymchwil craidd yn y prifysgolion a chyfleoedd masnachol drwy gyfleusterau newydd, megis Parc Gwyddoniaeth Menai. 

Dyddiad cyhoeddi: 7 Hydref 2015