Newyddion Ymchwil: Medi 2016

Rhwydwaith gwybodaeth newydd i gefnogi datblygiad ynni adnewyddadwy o’r môr

Rydym i gyd yn ymhyfrydu yn y golygfeydd godidog a’r cyfleoedd chwaraeon awyr agored  sydd ar gael ar hyd arfordir ysblennydd Cymru. Ond  mae’r arfordir sy’n ein hamgylchynu ar dair ochr hefyd yn cynnig cyfleoedd eraill. Yn bwysig iawn gellir ei ddefnyddio i greu ynni adnewyddadwy a chyfleoedd cyflogaeth o ganlyniad i hynny.

Mae SEACAMS 2, project £17M  tair blynedd ym Mhrifysgolion Bangor ac Abertawe, a ariennir yn rhannol drwy Gronfa Datblygiad Rhanbarthol Ewropeaidd, yn fuddsoddiad ym mhotensial economi’r môr ac ynni adnewyddadwy. Trwy SEACAMS, gall cwmnïau sydd eisiau defnyddio pŵer y môr i greu diwydiant ynni cynaliadwy yng Nghymru gael gafael ar y gefnogaeth ymchwil hanfodol y byddant eu hangen i’w galluogi i symud ymlaen â’u datblygiadau a fydd yn costio rhai miliynau o bunnau.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2016

Bywyd dirgel yr abwydyn du – mae galw am 'wyddonwyr amatur' i helpu i daflu goleuni ar fywyd rhywiol y rhywogaeth arfordirol bwysig hon.

Mae cariad yn yr aer ar hyd ein harfordiroedd yr hydref hwn ac mae Prifysgol Bangor yn gofyn i bobl yng ngogledd Cymru gadw llygad allan am arwyddion o angerdd yn y boblogaeth abwyd du.

Mae'r abwydyn du - Arenicola marina - yn ffynhonnell hanfodol o fwyd i adar hirgoes a physgod, ac mae'r rhywogaeth yn chwarae rhan bwysig mewn pysgodfeydd fel ffynhonnell abwyd.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2016

Fframwaith gwyddonol newydd i gynllunio cadwraeth coedwigoedd sych yn America drofannol

Mae coedwigoedd sych yn Ne America ymysg y coedwigoedd trofannol sydd dan fygythiad fwyaf yn y byd. Mewn llawer o wledydd dim ond tua 10% o'r coedwigoedd hyn sydd ar ôl, sy'n llawer llai na llawer o goedwigoedd glaw, megis Amazonia, lle mae oddeutu 80% yn sefyll. Coedwigoedd sych oedd crud y diwylliant brodorol cyn-Ewropeaidd yn Ne America, ac maent yn ffynhonnell cnydau sydd o bwys byd-eang, megis india-corn, ffa, cnau daear a thomatos. Fodd bynnag, er gwaethaf hyn a'r dinistr enbyd a wnaed iddynt, maent wedi cael eu hanwybyddu i raddau helaeth gan wyddonwyr a chadwraethwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2016

Why the International Criminal Court is right to focus on the environment

Dyma erthygl yn Saesneg gan Tara Smith o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2016

Ail Uwchgynhadledd Marchnad Lafur Cymru 2016

Dylan Williams, Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Cyngor Sir Ynys Môn oedd un o'r siaradwyr yn ail Uwchgynhadledd Marchnad Lafur Cymru - digwyddiad cyfnewid gwybodaeth a gynhaliwyd yn rhad ac am ddim ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar. 

Cyflwynodd Mr Williams broffil y prif brosiectau trawsnewidiol sydd ar y gorwel yng ngogledd Cymru ac yn Ynys Môn, a chynnig ei sylwadau ynglŷn â sut y gall gogledd Cymru fanteisio ar y cyfleoedd y mae'r fath ddatblygiadau’n eu cynnig i'r gadwyn gyflenwi.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Medi 2016

Wrth i rew y môr gilio, a fydd gwynt yn creu gwres yn nyfroedd yr Iwerydd yn y cefnfor Arctig?

Mae rhanbarth yr Arctig yn cynhesu ddwywaith mor gyflym â gweddill y blaned, a’r arwydd mwyaf amlwg o hyn yw bod y rhew môr sy’n gorchuddio Cefnfor yr Arctig yn cilio.

Straeon perthnasol
Y llanw'n corddi'r gwres Atlantig dwfn yng Nghefnfor yr Arctig

Dyddiad cyhoeddi: 19 Medi 2016

Ydy ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi helpu datrys yr argyfwng siocled?

Mae carwyr siocled o gwmpas y byd yn ymwybodol ers ychydig o flynyddoedd bod eu hoff ddanteithfwyd melys o dan fygythiad. Mae’n bosib bod ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi dod o hyd i ateb gallai helpu ddatrys y’r argyfwng siocled drwy ddefnyddio mango gwyllt fel dewis newydd yn lle menyn coco.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2016