Newyddion Ymchwil: Mawrth 2017

How football’s richest clubs fail to pay staff a real living wage

Dyma erthygl yn Saesneg ganTony Dobbins o’r Ysgol Fusnes a Peter ProwseSheffield Hallam University, sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2017

Academydd o Fangor yn cefnogi rhieni ifanc

O ystyried y penawdau a welir am dadau eithriadol ifanc a daliadau cyffredinol am geisiadau am fudd-daliadau a thai, mae magu plant gan rieni ifanc iawn wedi dod i gael ei weld fel perygl i gymdeithas.  Fodd bynnag, mae astudiaeth ymchwil ddiweddar o Fangor ar y project 'Rhieni Ifanc Ni' a gynhelir gan GISDA ar draws Gogledd Orllewin Cymru, yn herio'r safbwyntiau hynny. 

Rhoddodd y project Rhieni Ifanc Ni gefnogaeth unigol i dros 100 o rieni dan 25 oed, y rhan fwyaf ohonynt yn famau.  Ei brif nod oedd datblygu gallu rhieni i ymdopi.   Roedd agweddau ar hyn yn cynnwys hyrwyddo cynhwysiad economaidd drwy gefnogi rhieni i ennill cymwysterau perthnasol, cefnogi cysylltiadau teuluol a galluogi rhieni i ffurfio rhwydweithiau â rhieni eraill. 

Cyflawnodd Prifysgol Bangor astudiaeth flwyddyn o hyd yn ymwneud â phrofiadau rhieni o 'fagu gwytnwch'.    Arweiniwyd yr astudiaeth gan Dr Myfanwy Davies ac fe'i gwnaed gan Karen Wyn Jones ac Elin Williams yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas. 

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2017

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal cynllun peilot Cymrodoriaethau Academaidd gyda Phrifysgol Bangor

Mae dau academydd o Brifysgol Bangor i rannu eu harbenigedd i alluogi Aelodau'r Cynulliad i ddatblygu polisi ac ymarfer er budd pobl Cymru. 

Bydd Dr Alexandra Plows o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor, a Dr Catrin Hedd Jones o'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, yn treulio amser yn gweithio ar brojectau penodol gyda Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad, dan Gymrodoriaethau Academaidd newydd sy'n cael eu peilotio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.  

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2017

Britons see volunteering as a hobby or a way to network rather than a chore

Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephanie Jones myfyrwraig PhD o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2017

Yr Athro Emily Cross a Dathliadau 10 Mlynedd y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd

Gwahoddwyd Yr Athro Emily Cross o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor i siarad yn Nghynhadledd Dathliadau 10 Mlynedd y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd yn ddiweddar, lle bu’n rhannu llwyfan gyda rhai o ymchwilwyr mwyaf blaenllaw Ewrop.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2017

Canfod Cregyn Gleision cynaliadwy ym Môr Iwerddon

Pan fydd llynges fwyaf Prydain o gychod pysgota cregyn gleision yn mynd allan i'r môr yn ddiweddarach y mis hwn, eu nod fydd chwilio am had gwerthfawr cregyn gleision. Byddant yn dod â'r rhain yn ôl i'r Fenai i dyfu cyn eu casglu i'w hallforio. 

Os bydd y project ymchwil newydd hwn ym Môr Iwerddon yn llwyddiannus, efallai mai hwn fydd un o'r troeon olaf y bydd angen i'r llynges fynd allan o Borth Penrhyn ym Mangor i chwilio am had cregyn gleision.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2017

A all 'gofalwyr lleyg' roi mwy o gymorth ar ddiwedd oes?

Byddai'n well gan y rhan fwyaf o bobl sy'n marw gael gofal yn y cartref. Mae gweithwyr gofal iechyd yn ceisio galluogi i hynny ddigwydd. Mae project ymchwil newydd a arweinir gan Brifysgol Bangor yn archwilio un ffordd o droi hynny'n ffaith i fwy o bobl.

Mae gofal yn y cartref fel arfer yn cael ei ddarparu gan Nyrsys Ardal, yn gweithio gyda nifer o aelodau tîm eraill yn cynnwys ymarferwyr, doctoriaid hosbis a nyrsys, a gwasanaethau Macmillan neu Marie Curie. Caiff aelodau'r teulu eu dysgu sut i ofalu am y sawl sy'n annwyl iddynt, ac fel arfer i alw am Nyrs Ardal os oes symptomau anodd. Wrth i bobl wanhau yn ystod wythnosau neu ddyddiau olaf eu bywyd, nid yw'n bosib iddynt lyncu. Bryd hynny, caiff gyrrwr chwistrell ei osod i roi meddyginiaethau o dan y croen dros 24 awr. Bydd hyn yn lliniaru'r rhan fwyaf o symptomau, ond gall rai symptomau amlygu a fydd angen meddyginiaeth bellach ('trech symptomau'). Yr adeg hynny bydd y teulu fel arfer yn galw'r nyrs ardal a all roi dosiau ychwanegol o feddyginiaeth drwy chwistrelliad. Serch hynny, gall hynny gymryd amser maith, yn aml dros awr. Gall yr aros achosi trallod i'r claf a'r gofalwyr, a fydd yn teimlo'n analluog i helpu. Fel arfer, ni fyddai gofal teuluol yn cynnwys rhoi chwistrelliadau ar gyfer y trech symptomau hyn, er bod hynny'n gyfreithlon ac yn ymarferol.

Mae Prifysgol Bangor yn gweithio gyda phartneriaid ym Mhrifysgol Caerdydd ac Ymddiriedolaeth GIG Caerloyw i ymchwilio i p'un ai y dylid mabwysiadu’n ehangach yn y Deyrnas Unedig estyniad ar swyddogaethau gofalwyr lleyg i roi'r chwistrelliadau 'yn ôl yr angen' ai peidio. 

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2017

Phosphorus is vital for life on Earth – and we're running low

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Vera Thoss  o’r Ysgol Gemeg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2017

Does a new era of bleaching beckon for Indian Ocean coral reefs?

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Ronan Roche a'r Athro JohnTurner o’r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2017

Pynciau Prifysgol Bangor ymhlith y gorau yn y byd

Mae dadansoddiad sydd newydd ei gyhoeddi o dablau cynghrair diweddaraf QS World University Rankings bellach yn darparu gwybodaeth am safleoedd gwahanol bynciau ym mhrifysgolion gorau’r byd. Mae Prifysgol Bangor wedi llamu 60 safle yn uwch i safle 411 yn fyd-eang yn y tablau dylanwadol hyn.

Mae chwe phwnc ac un maes pynciol ym Mhrifysgol Bangor i’w gweld ymhlith prifysgolion gorau’r byd yn nhabl cynghrair yn ôl pynciau QS World University Rankings. Mae Amaethyddiaeth a Choedwigaeth i’w gweld ymhlith y 100 sefydliad gorau ledled y byd sy’n dysgu’r pwnc gan godi o fod ymhlith y 200 gorau'r llynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2017

Uganda’n cael trafferth i lenwi’i phot mêl

Er bod potensial mawr i gynhyrchu mêl yn Uganda, nid yw nifer o  bobl sy’n cadw  gwenyn yno’n llwyddo i gynhyrchu a gwerthu digon o fêl i wneud bywoliaeth ohono.

Mae ymchwilwyr a fu’n cymharu economïau cartref ffermwyr ymylol yn Uganda wedi canfod bod mêl yn cyfrannu at incwm y cartref yn achos llawer sy’n cadw gwenyn, ond mae’r effaith yn gyfyngedig.  Rhoddwyd cychod gwenyn i gartrefi tlawd o fewn cymunedau, er mwyn iddynt wella eu bywoliaeth, o ystyried y diffyg gweithgareddau eraill  sydd ar gael iddynt greu incwm, ac effeithiau andwyol newid hinsawdd ar eu cynnyrch amaethu traddodiadol.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2017

From Geoffrey Chaucer to Jeff Sessions, misspeaking is when you lie about lying

Dyma erthygl yn Saesneg gan John Olsson o’r Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2017