Newyddion Ymchwil: Gorffennaf 2017

Estyn allan i leihau hunan-niwed a hunanladdiad

Tra bo llawer o ymchwil wedi cael ei gwneud i hunan-niwed a hunanladdiad ymhlith pobl Ewrop ac America, ac mae dealltwriaeth o'r ffactorau risg, rydym yn gwybod llawer iawn llai am yr ymddygiadau hyn yn ne Asia, lle mae'r cyfraddau'n uchel iawn.

Mae Canolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas Prifysgol Bangor wedi derbyn grant clodwiw o gronfa ymchwil heriau byd-eang Cyngor Ymchwil y Deyrnas Unedig i weithio gyda chydweithwyr yn India a Phacistan i ymdrin â'r materion hyn. Bydd y project yn rhoi'r sgiliau i ymchwilwyr lleol y mae arnynt eu hangen i ddatblygu rhaglenni hir dymor i leihau marwolaeth, anabledd a thrallod.  Mae'r Grant Galluogi yn elfen allweddol yn strategaeth cymorth y DU i dyfu'r sylfaen ymchwil yn y DU a chryfhau gallu dramor. Y nod yw mynd i'r afael â sialensiau ymchwil sy'n ymateb i anghenion a fynegwyd mewn gwledydd sy'n datblygu.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2017

Want to develop 'grit'? Take up surfing

Dyma erthygl yn Saesneg gan Rhi Willmot, myfyrwraig PhD yn yr Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2017

Meintioli cost amgylcheddol pysgota ar wely'r môr

Mae treillio yn cyfrannu 20% at y cyfanswm o bysgod a gânt eu dal yn y môr yn fyd-eang, felly mae'n ddull hanfodol o ddarparu bwyd i filiynau o bobl.

Defnyddir treillio gwely'r môr i ddal pysgod a physgod cregyn sy'n byw yng ngwely'r môr neu'n agos ato. Er gwaethaf ei bwysigrwydd, mae treillio gwely'r môr yn achosi newid ffisegol a biolegol amrywiol i gynefinoedd gwely'r môr a gall arwain at newidiadau strwythurol a gweithredol yng nghymunedau gwely'r môr. Mae deall y canlyniadau o dreillio yn bwysig er mwyn i ni allu lleihau effeithiau negyddol ar wely'r môr drwy fesurau rheoli priodol.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2017

Pobl sydd â dementia yn elwa o therapi cysylltiedig â nod

Mae naw deg o bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr o bob cwr o ogledd Cymru, wedi cyfrannu at ganfyddiadau ymchwil newydd sydd wedi dangos bod therapi adferiad gwybyddol personol yn gallu helpu pobl â dementia cynnar i wella'n sylweddol eu gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau a thasgau bob dydd pwysig.

Roedd y treial ar raddfa fawr, a gyflwynwyd yng Nghynhadledd Ryngwladol Cymdeithas Alzheimer (AAIC) 2017 ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf, wedi canfod bod adferiad gwybyddol yn arwain at bobl yn gweld cynnydd boddhaol mewn meysydd fel y gallant barhau i weithredu a chadw eu hannibyniaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2017

Prifysgol Bangor yn croesawu Llysgennad Iwerddon

Croesawodd Prifysgol Bangor Lysgennad Iwerddon i'r Deyrnas Unedig yn ddiweddar gan ddangos iddo beth o'r gwaith ymchwil y mae Bangor yn cydweithio arno gyda sefydliadau partner yn Iwerddon.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2017

Mwy o ddefnydd o wasanaethau gofal iechyd yn ystod bywyd oedolyn yn gysylltiedig â phlentyndod trawmatig

Gall profi cam-drin corfforol, rhywiol neu emosiynol fel plentyn, neu straen arall fel byw mewn cartref a effeithir gan drais yn y cartref, cam-drin sylweddau neu salwch meddwl, arwain at ddefnydd uwch o'r gwasanaethau iechyd fel oedolyn.

Mae papur ymchwil yn y Journal of Health Service Research & Policy (doi) yn cynnig, am y tro cyntaf, dystiolaeth ystadegol sy'n dangos beth bynnag fo dosbarth cymdeithasol-economaidd neu ddemograffeg arall, mae pobl sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn defnyddio mwy o wasanaethau iechyd a meddygol yn ystod eu bywyd. 

Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2017

Arbenigwyr Cymysgu Moroedd yn dod i Fangor

Mae arbenigwyr cymysgu moroedd o bob cwr o'r byd yn dod i Ganolfan Môr Cymru ym Mhrifysgol Bangor i weithdy rhyngwladol ar gymysgu moroedd (11-13 Gorffennaf).

Bydd gwyddonwyr o mor bell i ffwrdd â'r Unol Daleithiau, Tsieina a Rwsia, yn ogystal â chyfandir Ewrop a Gwledydd Prydain, yn trafod ymdrechion byd-eang i wella ein dealltwriaeth o'r prosesau sy'n ysgogi'r cefnforoedd a sut y dylid cynrychioli'r prosesau hynny mewn modelau rhagolygon tywydd a hinsawdd. 

Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2017

Artists and architects think differently to everyone else – you only have to hear them talk

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Thora Tenbrink  o’r Ysgol  Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2017

How we're using ancient DNA to solve the mystery of the missing last great auk skins

Dyma erthygl yn Saesneg gan  myfyrwraig PhD, Jessica Emma Thomas  o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2017

Dylid canfod ‘edau aur’ i gefnogi economi’r rhanbarth

Mae un o brif ganfyddiadau adroddiad cwmpasu ar economi gogledd Cymru yn awgrymu bod rhan-ddeiliaid mewn economi’r rhanbarth yn ceisio sicrhau bod ‘edau aur’ yn rhedeg drwy’r gadwyn gyflenwi er mwyn galluogi i gwmnïau bach lleol gael budd o gyfleoedd economaidd sy’n dod mewn i’r rhanbarth.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod gan Lywodraeth Cymru gyfle, drwy’r potensial i gael pwerau datganoledig ar reolau caffael, i sicrhau swyddi o ansawdd a thelerau ac amodau gwaith o ansawdd i weithwyr ar brojectau mewnfuddsoddiadau

Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2017

Brexit's impact on farming policy will take Britain back to the 1920s – but that's not necessarily a bad thing

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dave Arrnott, Myfyriwr PhD  o’r Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2017

Chefs and home cooks are rolling the dice on food safety

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Paul Cross o'r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaetho a'r Athro dan Rigby o Brifysgol Manceinion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .

Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2017