Newyddion Ymchwil: Tachwedd 2017

Dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru: y ffordd ymlaen

Mae Dr Prysor Williams o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor yn un o awduron adroddiad ar y weledigaeth dros amaeth yng Nghymru, sydd yn cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru heddiw (27 Tachwedd 2017).

Mae’r adroddiad, Amaeth Cymru, Dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru: y ffordd ymlaen wedi ei lunio gan grŵp sy’n cwmpasu amrywiaeth o fuddiannau, yn cynnwys undebau ffermwyr, cyrff ardollau, llywodraeth, academyddion ac arbenigwyr diwydiant.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2017

Archwilio economeg technoleg arbed golwg

Mae dros ddwy filiwn o bobl yn y Deyrnas Unedig yn colli eu golwg.  Bydd hyn yn dyblu i bron bedair miliwn erbyn 2050 wrth i'r boblogaeth heneiddio ac i achosion sylfaenol megis gordewdra a diabetes gynyddu.  Mae hyn yn rhoi pwysau enfawr ar wasanaethau gofal llygad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. 

Mae dau ymchwilydd o'r  Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Moddion, Seow Tien Yeo a'r Athro Rhiannon Tudor Edwards, yn gyd-ymchwilwyr ar yr astudiaeth tomograffeg cydlynedd optegol a gyllidir gan raglen Dyfeisio ar gyfer Arloesi NIHR-i4i (£1.3 miliwn).  

Dyddiad cyhoeddi: 23 Tachwedd 2017

Different types of alcohol elicit different emotional responses

Nid yw'r datganiad i'r wasg gan BMJ OPEN ar gael yn y Gymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2017

Prifysgol Bangor yn agor y sefydliad ymchwil niwclear cyntaf yng Nghymru

Mae'r sefydliad ymchwil niwclear cyntaf yng Nghymru wedi cael ei agor ym Mhrifysgol Bangor. Sefydlwyd y Sefydliad Dyfodol Niwclear gan ddefnyddio cyllid gan y Brifysgol, tra bo cyllid gan  yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r fenter trwy raglen Sêr Cymru, sy'n helpu i ddenu ymchwilwyr o'r radd flaenaf i Gymru..

Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2017

Blue Planet II: can we really halt the coral reef catastrophe?

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro John Turner  o’r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2017

Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn rhoi’r golau gwyrdd i brosiect partneriaeth am Longau Tanfor yr Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i gyd-fynd â Blwyddyn y Môr Cymru, 2018

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cyhoeddi ei bod yn rhoi grant o £409,700 ar gyfer prosiect partneriaeth y Comisiwn Brenhinol: Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru, 1914-18. Yn ystod y ddwy flynedd nesaf, diolch i’r arian a godir drwy’r Loteri Genedlaethol, fe fyddwn ni’n defnyddio’r technegau delweddu diweddaraf i ddatgelu llongddrylliadau tanddwr o’r Rhyfel Mawr ac yn rhoi cyfle i gymunedau ar hyd arfordir Cymru adrodd storïau nas clywyd o’r blaen am y Rhyfel Mawr ar y Môr.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2017

Ymarfer ynddo’i hun ddim yn ddigon i ferched golli pwysau

Mae ymchwil newydd o Brifysgol Bangor wedi dangos nad yw ymarfer corff ynddo’i hun yn  arwain at i  ferched golli pwysau.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2017

Nofel gyntaf y darlithydd Alys Conran yn Ennill Llyfr y Flwyddyn 2017

Alys Conran oedd yr enillydd amlycaf yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn eleni, gan gipio tair gwobr yn y seremoni wobrwyo. Enillodd un o’r prif wobrau, sef gwobr Llyfr Saesneg y Flwyddyn, am ei nofel gyntaf, Pigeon, gan dderbyn tlws wedi ei gomisiynu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones, a gwobr ariannol o £4000. Enillodd y nofel honno Wobr Ffuglen Saesneg Ymddiriedolaeth Rhys Davies a Gwobr Dewis y Bobl iddi hefyd.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2017

Why Holocaust jokes can only be told by a Jewish comedian

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Nathan Abrams  o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2017

Mae'r llen iâ yn toddi ac yn cael effaith fyd-eang ar lanw'r môr

Caiff ei dderbyn yn eang fod lefel y môr yn codi oherwydd bod y llenni iâ enfawr sy'n gorchuddio'r Ynys Las ac Antarctica yn toddi, ond mae papur sydd newydd ei gyhoeddi yn The Journal of Geophysical Research: Oceans, (http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1002/2017JC013109/abstract), gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor ar y cyd â phrifysgolion Harvard ac Oregon State yn yr Unol Daleithiau, a phrifysgol McGill yng Nghanada, yn dangos y bydd hynny'n cael effaith lawer iawn mwy na dim ond achosi newid yn lefelau dŵr y môr. Gallai gael effaith bellgyrhaeddol ar hinsawdd y byd.

Mae'r canlyniadau newydd yn dangos nad yw lefel y môr yn codi i’r un graddau ym mhob man ar draws y ddaear wrth i'r llenni iâ doddi. Mewn gwirionedd, mae'r newid yn lefel y môr wrth i'r llenni iâ doddi yn amrywio yn ôl ardal, yn enwedig yn agos at y llenni iâ sy'n encilio. Mae'r canlyniadau newydd, a gafwyd yn defnyddio model rhifiadol o'r llanw yn fyd-eang, yn dangos y bydd y newidiadau i'r llanw oherwydd cwymp y llen iâ a'r newidiadau yn lefel y môr sy'n gysylltiedig â hynny yn amrywiol iawn ac yn effeithio ar nifer o wahanol brosesau pwysig. 

Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2017

Want to become self-compassionate? Run a marathon

Dyma erthygl yn Saesneg gan Rhi Willmot, myfyrwraig PhD yn ys Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2017