Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Newyddion Ymchwil

Newyddion Ymchwil: Ebrill 2020

Diwrnod Cenedlaethol DNA 2020

Mae Diwrnod Cenedlaethol DNA (25/4/20) yn codi ymwybyddiaeth ynghylch darganfod helics dwbl DNA gan James Watson a Francis Crick ym 1953 a chwblhau’r Prosiect Genom Dynol yn llwyddiannus yn 2003.

Nod Diwrnod Cenedlaethol DNA yw cynnig cyfle i fyfyrwyr, athrawon a'r cyhoedd ddysgu am y datblygiadau diweddaraf mewn ymchwil genomig a'u dathlu ac archwilio sut mae'r datblygiadau hynny'n effeithio ar eu bywydau.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2020

Monkey teeth fossils hint several extinct species crossed the Atlantic

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Isabelle Winder o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol a Vivien Shaw o'r Ysgol Gwyddorau Meddygol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2020

Prifysgol Bangor yn cyfrannu at ymchwil fyd-eang i COVID-19

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi ymuno â'r frwydr fyd-eang yn erbyn y pandemig COVID-19.  
 
Bydd grŵp o academyddion blaenllaw yn rhannu eu harbenigedd i ddatblygu ffyrdd newydd o fonitro'n dorfol lefelau SARS-Cov-2, y firws sy'n achosi'r afiechyd a elwir yn COVID-19.  

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2020