Cymdeithas Alumni
Mae Cymdeithas yr Ysgol Gwyddorau Eigion yn cael ei redeg gan yr Ysgol Gwyddorau Eigion er mwyn cadw mewn cysylltiad gyda chyn myfyrwyr. Mae'r Gymdeithas yn wahanol i gymdeithas Alumni arferol am ei fod yn cynnwys cyn aelodau staff, staff presennol a myfyrwyr sydd heb raddio.
Mae'r Gymdeithas yn dosbarthu newyddlen i gyn aelodau staff a chyn myfyrwyr ac yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol a gyrfaol o fewn Prifysgol Bangor, er enghraifft aduniadau, yn cynnwys Cinio Jiwbilî, yn dathlu 50 mlynedd o Wyddoniaeth Forol ym Mhrifysgol Bangor, a gynhaliwyd yn 1998. Yn 2008, fe wnaethom ni ddathlu 60 mlynedd gydag aduniad yn cynnwys darlith gyhoeddus gan Alastair Fothergill (Cynhyrchydd Cyfres Planet Earth, BBC Natural History Unit), teithiau, cinio a chyflwyniadau.
- Darllenwch newyddlen 2013 yma (pdf)
- Darllenwch newyddlen 2012 yma (pdf)
- Darllenwch newyddlen 2010 yma (pdf)
- Darllenwch newyddlen 2007 yma (pdf)
- Darllenwch newyddlen 2005 yma (pdf)
- Darllenwch newyddlen 2004 yma (pdf)
Os buoch yn fyfyriwr ym Mhorthaethwy, ond heb dderbyn y Newyddlen Alumni – Y BONT – (mae hyn yn golygu nad oes gennym gyfeiriad cyfredol i chi); anfonwch y wybodaeth ganlynol at Ysgrifennydd Aelodaeth SOSA, trwy e-bost os yn bosib at osx017@bangor.ac.uk Mae angen i ni wybod:
- Eich enw llawn:
- Eich enw fel myfyriwr (os yw’n wahanol)
- Cyfeiriad post cyfredol
- Y radd a gawsoch neu y'ch cofrestrwyd chi ar ei chyfer
- Y Flwyddyn y bu i chi raddio neu’r dyddiadau y buoch yn fyfyriwr ym CPGC/PCB (PB bellach)
Croesawn unrhyw wybodaeth neu newyddion pellach yr hoffech eu hanfon atom ac mae’n bosib y cânt eu cynnwys yn y rhifyn nesaf o’r Newyddlen.