Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion

Athena SWAN

Derbyniodd Ysgol Gwyddorau’r Eigion wobr Efydd Athena Swan ym mis Hydref 2018. Mae hyn i gydnabod gwaith parhaus yr adran i hyrwyddo cydraddoldeb rhyw.

Dyma'r ddogfen gais as ffurf PDF

Mae Siarter Athena SWAN yn rhoi cydnabyddiaeth i ddatblygiad cydraddoldeb rhyw: cynrychiolaeth, dilyniant a llwyddiant i bawb.

Sefydlwyd Siarter Athena SWAN yr Uned Her Cydraddoldeb yn 2005 i annog a chydnabod ymrwymiad i hyrwyddo gyrfaoedd merched sy’n gweithio ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) mewn addysg uwch ac ymchwil.

Ym Mai 2015 cafodd y Siarter ei hymestyn i gydnabod gwaith a wneir yn y celfyddydau, y dyniaethau, gwyddorau cymdeithas, busnes a'r gyfraith (AHSSBL), ac mewn swyddi proffesiynol a swyddi cefnogi, ac ar gyfer staff a myfyrwyr trawsryweddol. Mae'r siarter bellach yn cydnabod gwaith a wneir i ymdrin â chydraddoldeb rhyw yn ehangach, ac nid dim ond y rhwystrau i ddilyniant y mae merched yn eu hwynebu. 

Mae siarter Athena SWAN yn cynnwys merched (a dynion lle bo'n briodol) yn y meysydd canlynol:

  • swyddi academaidd yn STEMM ac AHSSBL
  • staff proffesiynol a staff cefnogi
  • staff a myfyrwyr trawsryweddol

Mewn perthynas â'r canlynol:

  • cynrychiolaeth
  • myfyrwyr yn symud ymlaen i’r byd academaidd
  • taith trwy gerrig milltir gyrfa
  • amgylchedd gwaith yr holl staff

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?