Llong Ymchwil Y Prince Madog

⁠Gwybodaeth am y Prince Madog

  • Rhif Adeiladu 3485
  • Tunelli Gros 390 tunnell
  • Hyd 34.9m
  • Lled wedi’i Fowldio 8.5m
  • Uchafswm y dyfnder 3.5m
  • Gallu dal 10 diwrnod rhwng porthladdoedd
  • Docfâu Gwyddonol 10
  • Criw 8
  • Adeiladwyd gan Visser, 2001
  • Cyflymder a Gynlluniwyd 10.5 not
  • Cyflymder Gwirioneddol 12 not
  • Gyriant 1080kW
  • Gwthiad Blaen 150kW

Gwelwch fwy o wybodaeth am y Prince Madog ar wefan O.S.Energy.

  • System amlbaladr SeaBat Reson 7125 deuol amledd (200 kHz a 400 kHz)
  • System Proffilio Cerrynt Doppler Acwstig 300kHz Teledyne RD Instruments (RDI)
  • System Cyfeirio Safle Hydroacwstig Simrad HPR-410P
  • Ecoseiniwr gwyddonol 120kHz Simrad EK60 a thrawsddygiaduron paladrau wedi’u hollti 38kHz
  • Pecyn meteorolegol a samplu wrth forio
  • System puro dŵr
  • Log cyflymder Walker Marine Aquaprobe
  • Derbynnydd sianel Trimble DGPS 12
  • Oergell a Rhewgell wyddonol
  • Synhwyrydd dargludedd, tymheredd a dyfnder Seabird SBE 911plus gyda samplwr dŵr SBE32
  • Cebl dargludedd, tymheredd a dyfnder
  • Winsh hydrograffig 1000m

Yn ôl y chwedl Gymreig, roedd Madog yn un o feibion Owain, Tywysog Gwynedd (Gogledd Cymru). Pan fu farw ei dad yn 1170, tybir i Madog hwylio tua’r gorllewin gyda llond llong o gymdeithion. Dywedir ei fod wedi cyrraedd America, wedi gadael rhai o'i gyd-deithwyr yno, wedi dychwelyd i Gymru i gasglu rhagor o gydwladwyr, ac yna wedi croesi Môr Iwerydd unwaith eto. O ganlyniad i’r stori hon tyfodd y gred fod llwyth o Indiaid gwyn a siaradai Gymraeg perffaith yn bodoli’n rhywle yng Ngogledd America, a ddatblygodd yn ôl pob tebyg oherwydd rhyng-briodi y morwyr gwreiddiol o Gymru â’r trigolion brodorol, fel y gwelwn ym Mhatagonia heddiw.

O ran Madog ei hun, nid oes unrhyw brawf hanesyddol o'i fodolaeth. Cyfeiria cerdd ganoloesol at Madog ab Owain Gwynedd fel morwr; ac, yn bur debyg, defnyddiodd y Tuduriaid Cymreig y stori at ddibenion propaganda i herio hawliadau Sbaen am y Byd Newydd. Yn rhamantaidd, fodd bynnag, ac yn enwedig o ystyried traddodiadau morwrol Gogledd Cymru, efallai ei bod yn briodol i'r llong ymchwil hon ddwyn enw Madog, fforiwr morol chwedlonol o oes gynharach.

Ffoniwch +44 (0)1248 382902
Lloeren: 00870 323523411

Mordeithiau

Cysylltiadau arall

Where is the Prince Madog?

Follow the Prince Madog's adventures and see where Bangor University's research vessel is located at this moment in time. 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?