Myfyrwyr yn gweithio mewn labordy Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer

Cyfleusterau Gwyddorau Chwaraeon

Mae’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer wedi’i rhannu ar draws tri adeilad mewn lleoliad hynod hardd ar lannau’r Fenai, ac mae ganddi gyfleusterau addysgu ac ymchwil rhagorol gyda labordai helaeth.

Canolfan Gweithgarwch Corfforol ar gyfer Iechyd a Lles (Canolfan PAWB)

Yng Nghanolfan PAWB ceir labordy addysgu ffisioleg mawr o’r radd flaenaf (a gostiodd mwy na £1 miliwn) a gynlluniwyd i ganiatáu i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau ymarferol yn effeithiol, a dau labordy ymchwil ar gyfer profion ffisioleg ymarfer ac adsefydlu. 

Mae gan y rhain ergomedrau beicio, peiriannau rhwyfo, melinau traed, a phwysau rhydd fel y gellir asesu ymatebion ffisiolegol, biocemegol a seicolegol i ymarfer corff, gan gynnwys ffitrwydd aerobig a chynhwysedd anaerobig, a chryfder. Mae'r labordai hyn hefyd yn cynnwys offer i asesu pwysedd gwaed, egni a ddefnyddir, a chyfansoddiad y corff.

 

Labordai Ymchwil Padarn

Mae Padarn yn gartref i labordy Biocemeg ac offer i ddadansoddi samplau biolegol amrywiol gan gynnwys meinwe, gwaed, poer ac wrin. Ceir hefyd ystafelloedd arbrofol seicoechddygol a labordy dadansoddi symudiad 3D, gyda system dadansoddi symudiad 12 camera Vicon 3D i ddadansoddi symudiadau’r corff cyfan, a system marcwyr gweithredol er mwyn ffilmio a dadansoddi symudiadau llai rhannau o’r corff. Mae yna hefyd dracwyr llygaid symudol i fesur symudiadau llygaid wrth gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff, a sbectolau achludiad i drin maes gwelededd yn uniongyrchol mewn amser real pan fo rhywun yn symud.

Mae gan y labordy ymchwil cardiofasgwlar beiriant uwchsain a systemau electrocardiogram 12 gwifren i fesur gweithgaredd yn y pibellau gwaed a'r galon. Mae Padarn hefyd yn gartref i'r labordy seicoffisioleg gyda chaledwedd a meddalwedd bioadborth a ddefnyddir ar gyfer ymchwil sy'n archwilio buddion posibl hyfforddiant bioadborth (e.e. dysgu rheoli tonnau'r ymennydd, tensiwn yn y cyhyrau, cyfradd curiad y galon) ar gyfer adsefydlu symudiadau a pherfformiad chwaraeon.

Cyfleusterau Chwaraeon Treborth

Treborth

Wedi'i leoli ar gyrion Bangor, mae gan Treborth gyfleusterau awyr agored, gan gynnwys trac athletau.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?