Staff a myfyrwyr ôl-radd
Yn yr adran hon fe gewch wybodaeth am aelodau tîm dysgu dwyieithog yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer.
Dr Eleri Siân Jones 
Darlithydd Seicoleg Chwaraeon a Chydlynydd Arweinwyr Cyfoed
Darlithydd ym maes seicoleg chwaraeon yw Eleri ac mae'n cyflwyno nifer o fodiwlau sy'n canolbwyntio ar seicoleg ac agweddau cymhwysol ar chwaraeon. Mae hefyd yn gydlynydd arweinwyr cyfoed i'r adran, yn diwtor personol ac yn rhan o'r grŵp marchnata.
Dr Julian Owen
Darlithydd Ffisioleg Chwaraeon
Darlithydd mewn Ffisioleg Chwaraeon yn yr Ysgol ydi Julian ac mae'n dysgu modiwlau sy'n canolbwyntio ar ffisioleg a gwyddor chwaraeon gymhwysol. Mae hefyd yn diwtor personol i fyfyrwyr Cymraeg ac yn cydlynu profiad gwyddor chwaraeon gymhwysol y myfyrwyr ôl-radd. Julian hefyd sy'n arwain ar faterion cyflogadwyedd yn yr ysgol.
Kevin Williams
Prif Dechnegydd
Mae Kevin yn cydlynu rhedeg labordy ffisioleg yr ysgol, i ddibenion ymchwil a dysgu. Mae hefyd yn dysgu nifer o sesiynau labordy i'r modiwlau ffisioleg ac mae'n diwtor personol i fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg.
Gethin Thomas
Darlithydd rhan-amser
Mae Gethin yn arbenigwyr ym maes llythrennedd corfforol ar ôl bod yn gweithio fel athro addysg gorfforol mewn ysgol uwchradd am nifer o flynyddoedd. Mae'n cydlynu ac arwain nifer o'r modiwlau addysg gorfforol a gynigir yn yr ysgol.
Myfyrwyr PhD
Robin Owen
Aeth Robin gwblhau ei radd israddedig o fewn yr ysgol yn 2016. Cwblhaodd ran o'i radd yn ddwyieithog ac mae bellach yn astudio ar gyfer PhD mewn rheolaeth modur.
Ben Jones
Ar ôl cwblhau ei radd gyntaf yn yr ysgol, mae Ben yn awr yn gwneud gradd PhD gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.
Claire Griffiths-McGeever
Fe wnaeth Claire ei gradd gyntaf yn yr ysgol ac mae wedi derbyn cyllid gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i wneud PhD ym maes ffisioleg glinigol.
Jessica Whitehead
Ar ôl cwblhau ei gradd Meistri yn yr ysgol, dyfarnwyd PhD a ariennir gan Coleg Cymraeg Cenedlethol. Mae hi yn gweithio o fewn maes Seicoleg Chwaraeon dan oruchwyliaeth Dr Eleri Jones.