Newyddion: Ionawr 2019
Newyddlenau
Bangor yn y 10 uchaf yng nghynghrair gwyrdd byd-eang
Mae Prifysgol Bangor yn ymddangos yn yr wythfed safle yn y byd am ei ymrwymiad i gynaliadwyedd yn ôl tabl cynghrair rhyngwladol o sefydliadau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Mae’r Brifysgol yn un o bedair prifysgol ym Mhrydain sydd yn ymddangos yn neg uchaf UI Green Metric , tabl cynghrair o brifysgolion gwyrddaf y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2019