Gwybodaeth am y Llyfrgell Gymraeg
Mae yn y Llyfrgell Gymraeg gasgliad nodedig o ddeunydd printiedig yn yr iaith Gymraeg ac ieithoedd eraill sy’n ymwneud â Chymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Dim ond y Llyfrgell Genedlaethol a Phrifysgol Caerdydd a all gymharu â hi. Mae’r casgliad yn rhan o dreftadaeth Gogledd Cymru o ran ei ansawdd a’i darddiad. Cafodd llawer o’r llyfrau eu cyflwyno’n rhodd gan gymwynaswyr lleol hael dros y blynyddoedd, ac oherwydd ei bri, mae’r llyfrgell yn dal i ddenu rhoddion heddiw. Mae’n ffynhonnell ymchwil eithriadol.
Mae prif gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol wedi ei leoli yn Ystafell Ddarllen Shankland ar lawr uchaf y Prif Lyfrgell. Mae’r ystafell hynod addurnedig hon wedi ei henwi ar ôl Thomas Shankland. Fel Llyfrgellydd Cynorthwyol, cyflawnodd waith nodedig yn casglu llyfrau prin, pamffledi a phapurau.
Mae Casgliad Cyfeirio y Llyfrgell Gymraeg ar silffoedd yn Shankland, ac mae’n cynnwys cyfeiriaduron, llyfryddiaethau, geiriaduron bywgraffyddol, geiriaduron a thestunau yr ystyrir y dylent fod ar gael bob amser ar gyfer eu chwilio. Mae hefyd yn cynnwys mynegeion i deitlau cyfnodolion Cymraeg unigol. Ni ellir benthyca cyfrolau o’r Casgliad Cyfeirio Cymraeg.