Mwy o wybodaeth..
- Gwybodaeth cefndirol
- Galeri lluniau
- Sianel Youtube (ar ei ffordd yn fuan)
- Ymunno a ni ar Trydar
#Arthurianlecture
#Arthuriancollection
Casgliad Arthuraidd, gan gynnwys Casgliad Arthuraidd Sir Fflint, Harries
Mae enw da Prifysgol Bangor yn y maes astudiaethau Arthuraidd yn cael ei gydnabod ar lefel rhyngwladol. Mae wedi datblygu dros yr hanner can mlynedd diwethaf trwy waith ysgolheigion Arthuraidd blaenllaw megis Yr Athro P.J.C. Field, a Dr Raluca Radulescu. Prifysgol Bangor yw’r unig sefydliad yn y byd sydd yn cynnig MA mewn Astudiaethau Llenyddiaeth Arthuraidd, ac felly yn denu myfyrwyr o wledydd a chyfandiroedd eang - Brazil, Siapan, UDA ac Ewrop.
Yn ddiweddar, rhoddwyd casgliad Arthuraidd Llyfrgelloedd Sir y Fflint i Lyfrgell Prifysgol Bangor. Mae’r casgliad bellach o dan ofal, cadwraeth a rheolaeth y Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau ond fe’i cyflwynwyd yn wreiddiol i Lyfrgelloedd Sir Fflint ym 1952 gan E. R. Harries, cyn Lyfrgellydd y Sir. Ychwanegwyd at y casgliad gan Wasanaethau Llyfrgell Sir y Fflint a Chlwyd. Heddiw, mae’n cynnwys dros 2,000 o eitemau o ddiddordeb i ymchwilwyr yn ogystal â darllenwyr cyffredin. Mae’r casgliad yn ehangu casgliad presennol Bangor, ac yn ychwanegu at ein casgliad o lyfrau prin. Bydd yr ysgolheigion a oedd gynt yn gorfod teithio i’r Wyddgrug yn ogystal â Bangor, nawr yn manteisio ar y cyfle o allu ymgynghori â’r holl adnoddau mewn un lleoliad.
Os hoffech weld y casgliad cysylltwch â: s.a.robinson@bangor.ac.uk Ffon: 01248 382913