Benthyca
Cewch fenthyca o’r Llyfrgell Gymraeg yn ôl amodau a thelerau’r Brif Lyfrgell. Gellir benthyca deunydd ar y silffoedd agored yn yr un modd ac ar yr un telerau â deunyddiau eraill Prifysgol Bangor. Am ragor o wybodaeth, ewch i’r dudalen Benthyca o’r Llyfrgell
Llyfrau Prin
Ni ellir benthyca llyfrau prin, ond gellir ymgynghori yn Ystafell Ddarllen yr Archifdy. Rhaid i ddarllenwyr sy’n dymuno ymgynghori â Llyfrau Prin lenwi ffurflen gais wrth Ddesg y Brif Lyfrgell. Bydd eitemau’n cael eu casglu a’u rhoi yn Ystafell Ddarllen yr Archifdy ddwywaith y dydd. Bydd eitemau y gwneir cais amdanynt yn y bore, cyn 12.00 pm ar gael yn y prynhawn ar ôl 2.00 pm; a bydd eitemau y gwneir cais amdanynt yn y prynhawn, ar ôl 12.00 pm ar gael y bore canlynol ar ôl 9.30 am