Ble mae’r Llyfrgell Gymraeg?
Mae ystafell ddarllen y Llyfrgell Gymraeg yn cael ei hadnabod fel Ystafell Ddarllen Shankland. Mae hi ar ail lawr y Brif Lyfrgell.
Sut mae’r ystafell ddarllen wedi cael ei threfnu?
Mae’r adran gyfeirio wedi ei gosod yn yr alcofau cyntaf ar y naill ochr a’r llall i Shankland. Yna, mae’r Llyfrgell Gymraeg tu draw i’r giatiau. Mae’r cyfeirlyfrau Cymraeg a’r llyfrau maint mawr yn cael ei chadw yn yr alcof ddiwethaf pen draw’r ystafell.
Sut gallaf weld llyfr prin?
Os ydych eisiau edrych yn unrhyw eitem ymhlith y llyfrau prin a’r casgliadau arbennig, rhaid i chi lenwi ffurflen gais wrth ddesg y llyfrgell. Wedyn gellir gweld yr eitem yn yr Archifdy. (Cofiwch fod yr Archifdy yn agored o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.00 tan 1.00 a 2.00 tan 5.00).
Pa mor hir mae’n ei gymryd i gasglu llyfr prin?
Bydd eitemau’n cael eu casglu a’u cludo i’r Archifdy unwaith y dydd am 11.00 yb. Mae staff y llyfrgell, mewn argyfwng, (yn dibynnu ar amgylchiadau,) yn barod i nôl eitemau yn ôl dymuniad. Ran amlaf nid oes angen gwneud apwyntiad, ond byddai’n ymarfer da i gysylltu o flaen llaw yn enwedig os byddwch yn teithio o bell.
A allaf wneud llungopïau?
Gall y staff wneud llungopïau ar eich rhan yn unol â thelerau hawlfraint. Serch hynny, mae’r gwasanaeth yn dibynnu ar faint a chyflwr y deunydd.
Pris llungopïo yw 40c y dudalen i fyfyrwyr, a 45c y dudalen i rai sydd ddim yn fyfyrwyr.