Lleoliad
Mae dinas Bangor yn sefyll rhwng Afon Menai a Pharc Cenedlaethol Eryri.
Mae’r Llyfrgell Gymraeg wedi ei lleoli ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor ond mae llyfrgelloedd eraill wedi’u lleoli ar Ffordd Deiniol ac ar Safle Normal.
Teithio i Fangor
Mae cyfarwyddiadau teithio a mapiau’r campws ayb ar gael ar ein tudalennau ar gyfer ymwelwyr ar brif wefan Prifysgol Bangor.
Hefyd, cewch wylio fidios, edrych ar luniau a chael rhithdeithiau ar ein gwefan Fideos, teithiau a lluniau er mwyn cael blas ar fywyd ym Mangor.