Llyfrau Prin
Sut i wneud cais am lyfr prin ?
Cam 1 : Gwnewch nodyn o’r teitl, dyddiad a rhif cyfeiriad y llyfr
Cam 2 : Llenwch ffurflen gais am lyfr prin (ar gael wrth ddesg y llyfrgell)
Cam 3 : Rhowch y ffurflen, wedi’i chwblhau, i staff y ddesg
Sut gallaf weld llyfr prin?
- Os ydych eisiau edrych ar unrhyw eitem ymhlith y llyfrau prin a’r casgliadau arbennig, rhaid i chi lenwi ffurflen gais wrth ddesg y llyfrgell. Wedyn gellir gweld yr eitem yn yr Archifdy. (Cofiwch fod yr Archifdy yn agored o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.00 tan 1.00 a 2.00 tan 5.00)
Pa mor hir mae’n ei gymryd i gasglu llyfr prin?
- Bydd eitemau’n cael eu casglu a’u cludo i’r Archifdy unwaith y dydd am 11.00 yb. Mae staff y llyfrgell, mewn argyfwng, (yn dibynnu ar amgylchiadau,) yn barod i nôl eitemau yn ôl dymuniad. Ran amlaf nid oes angen gwneud apwyntiad, ond byddai’n ymarfer da i gysylltu o flaen llaw yn enwedig os byddwch yn teithio o bell.