Gwybodaeth i ymwelwyr
Mae’r Llyfrgell Gymraeg wedi ei lleoli ym Mhrif Lyfrgell y Celfyddydau sydd yn Ffordd y Coleg ym Mangor Uchaf. Mae Ystafell Ddarllen Shankland, lle mae’r rhan fwyaf o Gasgliad y Llyfrgell Gymraeg wedi ei leoli, ar lawr uchaf y Brif Lyfrgell.
Mynediad i ymwelwyr
- Bydd mynediad ar gyfer cyfeirio a derbyn cymorth am gyfnod byr ar gael am ddim a heb unrhyw drefniadau ffurfiol wrth y Ddesg Ymholiadau.
- Dylai darllenwyr sydd angen cymorth mwy manwl i ddefnyddio offerynnau ymchwil a chyfeirio priodol drefnu apwyntiad gyda’r Swyddog Cefnogaeth Academaidd, Shan Robinson
- Mae’n rhaid i geisiadau i staff Llyfrgell ymgymryd â gwaith ymchwil ar ran defnyddwyr allanol gael eu cyflwyno mewn ysgrifen. Codir tâl o £12 yr awr (neu ran o awr) am y gwaith hwn, a rhaid ei dalu o flaen llaw. Cliciwch yma i dderbyn copi o Ffurflen Gais am Chwiliadau.
- Cewch ragor o wybodaeth am reoliadau benthycwyr allanol Llyfrgell Prifysgol Bangor trwy glicio yma.