Beiblau Cymraeg
Mae gan y Llyfrgell gasgliad o Feiblau sy’n cynnwys copïau o’r holl Feiblau a ysgrifennwyd yn Gymraeg. Mae’r deunyddiau nodedig canlynol yn y casgliad:
Y Beibl Cyssegr-lan, sef Yr Hen Destament, a’r Newydd. Copi o’r cyfieithiad llawn cyntaf o’r Beibl i’r Gymraeg gan yr Esgob William Morgan. Y cyfieithiad hwn a osododd y safon i Gymraeg ysgrifenedig.
Testament Newydd ein arglwydd Jesu Christ. Yn 1563, cyfarwyddwyd y pedwar Esgob Cymreig ynghyd ag Esgob Henffordd i gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg erbyn 1566 – gorchwyl amhosibl. Serch hynny, erbyn 1567 roedd William Salesbury, gydag Esgob Richard Davies o Dyddewi, a Thomas Huet, codwr canu Tyddewi, wedi cyhoeddi cyfieithiad o’r Testament Newydd.
Llyfr y Psalmau Edmund Prys 1544-1623. Roedd Edmund Prys wedi ei drwytho yn y traddodiad barddol Cymraeg, a phan oedd yn Archddiacon Meirionnydd, cyfieithodd y Salmau i Gymraeg syml a rhythmig. O ganlyniad gallai eglwyswyr fod yn rhan o’r gwasanaeth unwaith eto. Hyd yn oed heddiw, mae salm o’i waith yn llyfr salmau pob enwad.
Cliciwch ar y llun i weld delwedd fwy