Cylchgronau Cymraeg
Mae gan y Llyfrgell gasgliad o Gylchgronau Cymraeg sy’n cynnwys teitlau megis “Cyfaill o’r Hen Wlad”, Ionawr 1862 – un o gyfres o Gylchgronau Cymraeg a argraffwyd dramor. Mae “Tafod y Ddraig” yn enghraifft o gynnyrch argraffedig y Lolfa, Talybont. Hefyd yn y casgliad mae “Cylchgrawn Alawon Gwerin Cymru” o 1909 ymlaen.
Cliciwch ar y llun i weld delwedd fwy