Papurau Newydd Cymraeg
Mae papurau newydd yn ffynhonnell amhrisiadwy, ac fe’i defnyddir yn helaeth gyda phob math o ymchwil, boed academaidd neu arall, i bynciau megis hanes lleol a theuluol, hanes cymdeithasol, hysbysebu a chwaraeon. Y casgliad sydd yn y Llyfrgell Gymraeg ym Mangor yw’r un mwyaf cynhwysfawr yng Nghymru.
Mae’r manylion llawn am yr holl bapurau a gyhoeddwyd yng Nghymru neu sydd â chysylltiadau Cymreig yn 'Adroddiad ar gynllun NEWSPLAN yng Nghymru'. Mae’r rhestr hon, sydd yn nhrefn yr wyddor, o ddaliadau Bangor yn cynnwys:
- Teitl llawn gan gynnwys amrywiadau
- Dyddiad cyhoeddi
- Man cyhoeddi
- Nodiadau cefndirol
- Cysylltiadau i’r cofnodion catalog o ddaliadau ym Mangor
A B C D DD E F FF G NG H I J L LL M N O P PH R RH S T TH U W Y