Cyrsiau a Modiwlau
Mae'r cyrsiau canlynol ar gael i fyfyrwyr ail iaith:- BA Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg
- BA Cymraeg ac Astudiaethau Theatr a’r Cyfryngau
- BA Cymraeg gyda Newyddiaduriaeth
Mae nifer o gyrsiau cyd-anrhydedd hefyd ar gael.
Yn y flwyddyn gyntaf, mae pedwar modiwl wedi eu darparu’n arbennig ar gyfer myfyrwyr ail iaith. Rhyngddynt mae’r pwyslais ar gryfhau eich gafael ar Gymraeg ysgrifenedig a llafar ac ymestyn eich gwybodaeth am draddodiad llenyddol Cymru ddoe a heddiw.
Nod y modiwl hwn yw eich cael i ysgrifennu Cymraeg yn fwy cywir a hyderus. Gosodir ymarferion amrywiol ichi o wythnos i wythnos – er enghraifft, adolygiad ar raglen deledu, llythyr at gyfaill, bwletin newyddion – a bydd y gwaith hwnnw’n sail i’r drafodaeth mewn seminarau.
Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Cewch olwg ar waith rhai o feistri’r traddodiad barddol Cymraeg, beirdd fel Taliesin ac Aneirin, a hefyd un o gymeriadau mwyaf lliwgar holl lenyddiaeth Cymru, Dafydd ap Gwilym. Cewch hefyd gyfle i wybod am ddirgelion y gynghanedd a chip ar rai o chwedlau rhyddiaith ffantastig y Mabinogion.
Mae’r modiwl hwn yn datblygu sgiliau mynegiant llafar (siarad a gwrando). Rhoddir sylw i wahanol gyweiriau’r iaith, o’r tafodieithol i’r ffurfiol. Defnyddir deunydd cyfredol o’r teledu, radio a byd ffilm i gyflwyno pynciau ac i sbarduno trafodaeth. Yn ogystal â’r clyweledol, trafodir gweithiau ysgrifenedig mewn amryw ffurfiau: e.e., papurau newydd, cylchgronau, blogiau, llenyddiaeth dafodieithol.
Ar drafod llenyddiaeth a llunyddiaeth Gymraeg heddiw y mae pwyslais y modiwl hwn. Ceir golwg ar nofel gan Angharad Tomos a chyfrol o gerddi gan Gwyn Thomas. Cyfeirio at lenyddiaeth y sgrin a wna’r gair ‘llunyddiaeth’, h.y. llenyddiaeth y llun, a thrafodir enghreifftiau o ffilmiau Cymraeg a dramâu teledu.