Cyrsiau Gradd Anrhydedd Sengl
Mae’r ddarpariaeth o fewn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn amrywiol iawn. Cliciwch ar y teitlau er mwyn cael gwybodaeth fanwl am y cwrs.
- Cymraeg BA (Anrhydedd)
- Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol BA (Anrhydedd)
- Cymraeg Proffesiynol BA (Anrhydedd)
- Cymraeg gyda Newyddiaduraeth BA (Anrhydedd)
- Cymraeg, Theatr a’r Cyfryngau BA (Anrhydedd)
- Cymraeg Creadigol gyda Cherddoriaeth Boblogaidd BA (Anrhydedd)
- Cymraeg i Ddechreuwyr (Welsh for Beginners) BA (Anrhydedd)
Yn ystod y flwyddyn gyntaf mae yna nifer o fodiwlau craidd sy’n gyffredin i’r holl gyrsiau gradd hyn, pa un bynnag a ddewiswch. Y fantais yn hyn o beth yw hon: os nad ydych yn sicr pa gwrs sy’n gweddu orau ichi, mi fydd hi’n bosib ichi newid i wneud un o’r cyrsiau gradd eraill yn yr Ysgol cyn dechrau ar eich ail flwyddyn. Ystyriwch, er enghraifft, eich bod wedi dod yma i astudio gradd mewn Cymraeg a’ch bod yn cael blas anghyffredin ar fodilwau ysgrifennu creadigol yn ystod eich blwyddyn gyntaf: cyn belled â’ch bod wedi pasio’r flwyddyn honno’n llwydiannus, ni ddylai fod anhawster trosglwyddo i ddilyn Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol ar ddechrau’r flwyddyn academaidd ddilynol