Diweddariad Coronafeirws (COVID-19)

Enghraifft o waith Jason Walford Davies

Tyrau

Nodyn: Yr oedd Owain Goch ap Gruffudd, brawd Llywelyn y Llyw Olaf, yn ŵr a dreuliodd gyfnodau helaeth o’i fywyd fel carcharor. Owain, y mae’n bwysig cofio, oedd y primogenitus, y mab cyntaf-anedig. Fe’i carcharwyd gyda’i dad Gruffudd yng nghastell Cricieth ac yn y Tŵr-gwyn yn Llundain. Bu farw’r tad pan syrthiodd o lawr uchaf y Tŵr-gwyn wrth geisio dianc ar Ddydd Gŵyl Ddewi 1244, wedi i’r rhaff a luniodd o lieiniau a chynfasau ddatgymalu. Rhyddhawyd Owain, ond fe’i gorchfygwyd gan ei frawd Llywelyn ym mrwydr Bryn Derwin ym 1255, a’i garcharu gan y Llyw Olaf am ddwy flynedd ar hugain, tan 1277 – yn ôl traddodiad yn nhŵr castell Dolbadarn, ar lannau llynnoedd Padarn a Pheris. Canodd bardd o’r enw Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel ddwy awdl i Owain Goch yn y carchar – un ohonynt yn beirniadu Llywelyn ap Gruffudd yn llym am gadw ei frawd ei hun dan glo. Pysgodyn cymharol brin – crair o oes rewlifol – sy’n byw yn llynnoedd Padarn a Pheris yw’r ‘torgoch’. Y mae ‘toddaid’ a ‘chyhydedd’ yn enwau ar fesurau barddol.

Fe hoffwn fedru dweud fod rhyw Flondél
wedi canu dan y muriau, fod ei lais,
gerfydd eiddew tew y tŵr,

wedi’i dynnu’i hun i’r siambr gron
y troellai’r byd am chwarter canrif bron
yn wyllt o’i chylch;

fod ateb y gwron oddi mewn
wedi eilio rhyngddynt raffau
rhyddid; ei fod, â’i ddwylo’n dynn

am eu cudynnau aur, wedi cerdded
wysg ei gefn i lawr dros feini’r tŵr
i dir y byw drachefn –

pob cam, pob cais am droedle’n damsang
ar gadernid enbyd Gwynedd;
fod dŵr dau lyn wedi dod i’r lan

i lepian yn groesawgar wrth ei draed.
Fe hoffwn fedru dweud
mai dyna fu. Ond braint brenhinoedd

eu Blondél . . . Daeth Hywel Foel
ap Griffri ap Pwyll Wyddel –
ei enw’n llond ei geg, yn grwm

dan bwn yr awdlau yn ei ben –
at erchwyn deulyn un Alban Elfed
pan oedd y dŵr yn dyllau brech

gan law, a sglentio’i gyhydeddau’n hir
o don i don, yn gerrig sarn
disylwedd, diflanedig tua’r tŵr

a’r gŵr yr oedd ei fyd yn grwn
yn sarn ynghanol aur y gwellt
ar lawr ei siambr. Ni chlywodd ef,

y gwestai maith, dan gysgod gwg Dinorwig,
fardd yn mynnu llechen lân
gan frawd; ni welodd y toddeidiau’n

crychu talcen Peris, na chynnwrf Padarn
wrth i’r dyfroedd gau
am brotestiadau’r odlau – wrth i’r geiriau

fydru’r oerfel ar eu ffordd i lawr
i’r gell y clowyd y torgoch ynddi’n grair
gan raib rhewlifoedd.

Ond clywai’r gŵr yn gyson,
uwch beddrod ei ystafell gron,
gyhyrau cynfasau yn sydyn yn tynhau,

traed yn pawennu’r meini,
a lleisiau’n ei wysio i agosáu
at groesau gweigion y ffenestri

i weld lleuadau’n boddi
yn y llynnoedd rhyn. 
A chyn i’r dyfroedd dagu’r olaf

o’r pelydrau, gwelai yn angau’r golau
gorff ei dad wrth droed y tŵr:
ei ben yn rwbel cynnes ar y maes,

a darnau o’i ymennydd wedi’u hau
hyd lawr yn berlau rhag y moch;
y carpiau y daeth eu clymau’n

rhydd yn tonni’n ewyn ar yr awel, 
ac yn glanio’n amdo ar yr un a fu
gyfuwch, am eiliad, â’r angylion

ar frig barugog y Tŵr-gwyn;
a welodd dano, ennyd, aruthredd Lloegr
ar ei hyd, yn bitw a chwerthinllyd.

Ac uwch y corff, y cigfrain –
herodion duon, cydgarcharorion –  
yn crawcio mwrdwr,

yn cleisio’r dydd â’r rhybudd:
Gochelwch rhag pob llyw olaf,
pob derwin ddôr, pob angor

yn y dyfnfor diffaith –
rhag arwyr y pebyll sidan, a’r pennau
fu’n dotemau ar y polion haearn. 

Cofiwch Dryweryn, a’r dŵr a’r gwaed
o fytholwyrddni’r clwyf yn ystlys Celyn. 
Ail natur yw dwyn y dyfroedd hyn

i gof. Ond paentiwch enwau pellach
dros groesau eich arwyddion ffyrdd,
ar wyngalch waliau eich swyddfeydd

Cymreig. Gadewch i hynt y gwynt
a’r glaw ddileu eich gair am aer
a rhwysg eich priflythrennau

oddi ar ruddiau’r holl fythynnod   
y dychwel y dynion dŵad
iddynt, fel gwenoliaid, bob mis Mai –

y tai hafaidd sy’n dân mor ysol
ar eich croen. Boed ichi graffiti newydd  
ar eich parwydydd, eich mene mene tecel

chwi eich hun: PERIS, PADARN –
deulyn eich dyfroedd duaf,
dyfnaf. Agorwch eu llifddorau

led y pen. Bydd grym
yr ymdywallt dros eich talcenni
slip yn fedydd tân, ac ôl y dŵr

fel parddu ar burdeb
eich Cofio torfol gwyn.
Treilliwch rwydi ynddynt am y rhai

a heneiddiodd yn eich henebion –
y cestyll dall cadwedig –
a dygwch eu cyrff i’r lan.

Yn nhir gofal eich dinasoedd
gwrandewch fin nos am ambell floedd
o enau eu disgynyddion –

ynghladd yn fyw hyd heddiw
yng Nghymru’r tyrau main ac ifori.