Ein Myfyrwyr Ôl-raddedig

Enw Cwrs Gradd Teitl neu Faes Ebost
Trefor Alun
PhD
'Gwasg Gymreig America a’r Ddau Ryfel Byd' Ebost
Mary Elizabeth Davies
PhD
  Ebost
Phil Davies
PhD
‘Meddwl a llenyddiaeth genedlaetholgar yng Nghymru a rhanbarthau Sbaen 1850-1914’ Ebost
Geraint Wyn Ellis
PhD
   
Meg Elis          PhD Ysgrifennu Creadigol Ebost
Elin Gwyn
PhD
‘Portreadu a dehongli’r broydd chwarelyddol yn y cyfnod ôl-ddiwydiannol’ Ebost
Elen Ifan
PhD
'Perthynas gwaith T. Gwynn Jones â cherddoriaeth' Ebost
Diane Jones
PhD
'Kate Roberts a'r Ddrama' Ebost
Eiddwen Jones          PhD Ysgrifennu Creadigol Ebost
Ifan Morgan Jones
PhD
  Ebost
Mair Lenny
PhD
‘O’r gymuned ffuglennol i’r genedl ddychmygol: ffuglen Gymraeg a’r hunaniaeth genedlaethol c.1985 i c.2011’ Ebost
William Owen
PhD
  Ebost
Bethan Jones Parry
PhD
  Ebost
Cefin Roberts
PhD
Ysgrifennu Creadigol Ebost
Angelika Heike Rüdiger
PhD
'Motiffau'r Tylwyth Teg o'r Canol Oesoedd hyd Heddiw' Ebost
Gwenan Jane Williams
PhD
  Ebost
Helen Mary Williams
MPhil
'Catrin o Ferain' Ebost
Manon Wyn Williams
PhD
‘Tri Dramodydd Cyfoes: Meic Povey, Siôn Eirian ac Aled Jones Williams’ Ebost
Gruffudd Antur Edwards
MA
'Addysg y Cynganeddion' Ebost
Siôn Elwyn Hughes
MA
'Eisteddfodau Cenedlaethol y 70au a’r cyd-destun hanesyddol’ Ebost
Llio Mai Hughes
MA
Ysgrifennu Creadigol Ebost
Llifon Jones
MA
'Dramâu Cynan ' Ebost
James Steuart Moffat
MA
'Yr Hunangofiant ar y Ffin Ieithyddol: hunangofiannau Cymraeg a Gaeleg' Ebost
Mathew Penri Williams
MA
Ysgrifennu Creadigol Ebost
Islwyn Roberts-Parry
MA
  Ebost
Rhian Owen
MA
  Ebost

Prosiectau PhD

Dyma flas ar rai o'r prosiectau PhD ac ôlradd eraill sydd ar y gweill ar hyn o bryd:

Trefor Alun

PhD (Cymraeg): 'Gwasg Gymreig America a’r Ddau Ryfel Byd'

Dan nawdd KESS (2011-2014)

Un o Langefni ydw i’n wreiddiol ac er imi dderbyn ysgoloriaeth lawn i astudio’r Baccalaureate Ryngwladol yng Ngholeg Unedig y Byd, Lester B Pearson am ddwy flynedd, dychwelais i Gymru i barhau â’m haddysg. Cymerais flwyddyn allan i weithio yng nghwmni Acen yng Nghaerdydd fel is-deitlydd ar gyfer rhaglenni teledu ar S4/C cyn dod i Brifysgol Bangor yn 2007 i ddarllen Y Gymraeg a Newyddiaduraeth BA.

Un o’m hoff fodiwlau israddedig oedd ‘Llenyddiaeth Gymraeg America’ gan ddilyn hanes perthynas Cymry ac America o chwedl mordaith Madog hyd ddiwedd y Rhyfel Cartref Americanaidd. Deffrodd chwilfrydedd ynom am y bennod goll hon o hanes Cymru. Graddiais gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn 2010 ac yna dychwelais i Fangor ddilyn cwrs MA dan nawdd y prosiect Mynediad i Radd Meistr (ATM) gan gyflwyno fy thesis ‘O Utica i Versailles - Y Tedi Cymreig a’r Rhyfel Mawr’ yn 2011. Canolbwynt yr astudiaeth oedd ymateb Cymry America i’r Rhyfel Mawr, yn bennaf drwy bapurau newydd a chylchgronau’r oes.

Bellach rwyf wedi dewis dychwelyd unwaith yn rhagor i Brifysgol Bangor dan drugaredd y cynllun KESS i gwblhau doethuriaeth. Parhad o’r gwaith MA yw hwn, gan ddilyn hanes Cymry America drwy’r dirwasgiad mawr yn America yn yr 20au a’r 30au, ac yna’r Ail Ryfel Byd.  Drwy gydol yr MA bûm yn gweithio fel ymchwilydd i Gwmni Da) fel rhan o’r cytundeb ATM, a byddaf yn parhau yno fel rhan o’r PhD gyda KESS. ‘Dyddiadur y Rhyfel Mawr’ a ‘Lleisiau’r Ail Ryfel Byd’ yw rhai o’r rhaglenni rwyf wedi cyfrannu iddynt.

Bangor yw’r lle perffaith imi ddilyn fy noethuriaeth gan fy mod wedi ymgartrefu yn Ysgol y Gymraeg ers pedair blynedd bellach. Hefyd,  ym Mangor y mae’r arbenigedd ym myd llenyddiaeth rhyfel Cymreig, yr Athro Gerwyn Wiliams, a’r awdurdod ar lenyddiaeth Gymraeg America, yr Athro Jerry Hunter.

I'r brig

Phil Davies

PhD (Cymraeg): ‘Meddwl a llenyddiaeth genedlaetholgar yng Nghymru a’r rhanbarthau Sbaen 1850-1914’

Dan nawdd yr AHRC (2013-2016)

Rwyf yn dod o ardal Yr Wyddgrug yn wreiddiol, lle roeddwn yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Sychdyn ac Ysgol Uwchradd Alun. Yn dilyn Lefel 'A' a blwyddyn GAP yn dysgu Saesneg yng Ngwlad y Basg, es i Brifysgol Birmingham a Phrifysgol Salamanca (ERASMUS), gan raddio mewn Astudiaethau Hispanaidd yn 1996.

Yn awyddus i ad-dalu fy mencythiad myfyriwr sylweddol… ymunais â Grŵp Volkswagen yn 1996 fel rheolwr graddedig dan hyfforddiant, ac wedyn Grŵp Bancio Lloyds yn 2001, ac yn ystod gyrfa o bymtheg mlynedd cwblheais gyfres o swyddi rheoli uwch yng Nghaerdydd, Llundain a Madrid.

Wedi dysgu Cymraeg yng Nghanolfan Dysgu Cymraeg Caerdydd, gadewais fy swydd yn Lloyds yn 2012 i wneud ymchwil academaidd mewn Llenyddiaeth Gymraeg a Hanes Deallusol. Enillais ysgoloriaeth Meistr yr AHRC i gwblhau MA Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, gan ganolbwyntio ar ddylanwad meddwl Ewropeaidd ar ysgrifennu Emrys ap Iwan, ac yn 2013 enillais ysgoloriaeth bellach yr AHRC i gwblhau PhD.

Mae fy ymchwil doethuriol yn cymharu agweddau o feddwl a llenyddiaeth genedlaetholgar gynnar (c.1850-1914) yng Nghymru a rhanbarthau Sbaen (Gwlad y Basg, Catalwnia, Galisia).

I'r brig

Elin Gwyn

PhD (Cymraeg): ‘Portreadu a dehongli’r broydd chwarelyddol yn y cyfnod ôl-ddiwydiannol’

Dan nawdd KESS (2010-13)

Rwyf yn byw yn Sling, Tregarth ger Bethesda ac roeddwn yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Ogwen cyn mynd i astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn 2011 enillais y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd, Abertawe.

Fel rhan o’r cynllun KESS rwyf yn gweithio gyda’r Amgueddfa Lechi yn Llanberis, (e.e., cynorthwyais i greu cylchgrawn i gyd-fynd â'r arddangosfa ‘Dathlu’r Deugain’). Rwyf yn cyfweld cyn-weithwyr a phobl a chanddynt gysylltiadau agos â ’r Amgueddfa, ac yn ysgrifennu erthyglau amdanynt. Bydd recordiau o’r cyfweliadau yn cael eu cyflwyno i adran sain Sain Ffagan yng Nghaerdydd. Byddaf yn datblygu dulliau digidol o arddangos a chyrchu tystiolaeth yn y maes, a hynny ar gyfer y porth electronig ‘Casgliad y Bobl’.

Rwyf bellach yn astudio’r ffordd y caiff y broydd chwarelyddol eu portreadu yn y cyfnod ôl-ddiwydiannol, gan dalu sylw i nifer o ffynhonellau diwylliannol gan gynnwys llenyddiaeth, celf, y cyfryngau, cerddoriaeth ac ati.

Rwyf yn mwynhau’r profiad yn fawr ac rwy'n werthfawogol o holl waith Adran y Gymraeg a’r Amgueddfa Lechi. Er dod yn fyfyriwr yma rwy’n gweld bod y Brifysgol ac yn enwedig Ysgol y Gymraeg yn haeddu'r enw da sydd ganddynt. Mae darlithwyr Ysgol y Gymraeg wedi bod yn hynod o barod i helpu gyda fy ymchwil.

I'r brig

Elen Ifan

Phd (Cymraeg): ‘Perthynas gwaith T. Gwynn Jones â cherddoriaeth’

Ysgoloriaeth 125 Prifysgol Bangor

Rydw i’n dod yn wreiddiol o Fro Morgannwg, ond bellach rydw i’n byw yng Nghaernarfon, ac wedi ymgartrefu yn y gogledd ers 2008 pan ddechreuais fy ngradd BA yma ym Mangor. Enillais radd gyfun mewn Llenyddiaeth Cymraeg a Saesneg yn 2011, cyn parhau i astudio MA yn Ysgol y Gymraeg dan nawdd yr AHRC. Maes yr ymchwil oedd perthynas llenyddiaeth Gymraeg a cherddoriaeth, gan ganolbwyntio yn y traethawd hir ar waith y bardd Gwyn Thomas.

Penderfynais barhau yn yr un maes ar gyfer y PhD, a chael fy ariannu gan un o Ysgoloriaethau Dathlu 125 Mlwyddiant Bangor. Rydw i bellach yng nghanol yr ail flwyddyn, yn ymchwilio i berthynas gwaith T. Gwynn Jones a cherddoriaeth. Mae’r prosiect yn astudio nifer o wahanol agweddau ar waith Gwynn Jones: er enghraifft, gosodiadau cerddorol o gerddi’r bardd, a chyfieithiadau niferus Gwynn Jones o eiriau caneuon o nifer o wahanol ieithoedd. Dyma agwedd newydd ar waith T. Gwynn Jones nad yw wedi cael ei astudio eisoes. Edrychaf ymlaen i gael cyflwyno fy narganfyddiadau yn y traethawd hir maes o law.

Ar hyn o bryd (2013), rydw i’n treulio semester yn parhau â’m hymchwil yn Adran Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Harvard, diolch i gynllun cyfnewid rhwng Ysgol y Gymraeg a’r adran honno. Mae’r profiad yn anhygoel, a minnau’n cael cyfleoedd i gwrdd â rhai o brif academyddion y maes astudiaethau Celtaidd, yn ogystal â chael mantesio ar holl gyfleusterau gwych y Brifysgol, megis y llyfrgelloedd arbennig. Dyma gyfle bythgofiadwy i ymweld ag un o brifysgolion gorau’r byd, a hynny o ganlyniad i’m dewis i ddod i Ysgol y Gymraeg ym Mangor i barhau gyda fyhymchwil.

I'r brig

Diane Jones

PhD (Cymraeg): ‘Kate Roberts a’r Ddrama’

Ysgoloriaeth KESS (£13,000 y flwyddyn a £5,000 o gostau).

Mae Diane Jones o Ben-y-groes yn Nyffryn Nantlle yn gyn-fyfyrwraig ar y cwrs ‘Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg’ yn Ysgol y Gymraeg, Bangor. Wedi graddio bu’n dysgu Cymraeg a Saesneg mewn ysgol Uwchradd cyn gadael i fynd i deithio. Wedi dychwelyd i’w chynefin fe’i penodwyd yn Rheolwr cyntaf Canolfan Hanes Uwchgwyrfai  yng Nghlynnog Fawr. Fel aelod o’r Bwrdd Rheoli bellach, y mae’n parhau i wirfoddoli yn y Ganolfan sydd yn cynnig arlwy arbennig iawn o ddarlithoedd, arddangosfeydd, hen ffilmiau, cylchoedd trafod llenyddiaeth, a chylchgrawn llafar hanes ac iddo gylchrediad cenedlaethol.

Yn sgil ysgoloriaeth KESS, caiff hefyd y cyfle i weithio i Ganolfan Treftadaeth Cae’r Gors yn Rhosgadfan. Ar hyn o bryd  mae’n archifo’r holl ddeunyddiau, llawysgrifau a lluniau sydd yn y Ganolfan ac yn gweithio ar greu ffilm newydd sy’n canolbwyntio ar gyflwyno a dehongli dramâu Kate Roberts.

Meddai Diane, “Teimlaf yn ffodus iawn i gael y cyfle hwn i ddychwelyd i Fangor i astudio. Mae llawer wedi newid ers pan fûm i yma ddiwethaf , ond mae ymroddiad y staff a safon yr arlwy yn parhau i fod yn arbennig o uchel.”

I'r brig

Eiddwen Jones

PhD (Cymraeg): Ysgrifennu Creadigol

Y mae Eiddwen Jones yn llenor sy'n arbenigo ar y nofel hanes. Cyhoeddwyd ganddi ddwy gyfrol: Six Sapphires and a Diamond (2007) a Cysgod yr Aur Du (2009).

Y mae hefyd, at ddibenion ei Doethuriaeth, wedi ysgrifennu dwy nofel arall: Ddoe a Heddiw'n Un; a Cwlwm Creulon, nofelau sydd - fel Six Sapphires... yn trafod digwyddiadau yn y gogledd-ddwyrain.

I'r brig

Ifan Morgan Jones

PhD (Cymraeg a Thechnolegau Cyfathrebu)

Noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cefais fy magu yn Waunfawr, ger Caernarfon, gan fynychu Ysgol Syr Hugh Owen yn y dref honno. Rydw i bellach yn byw ym Mhenrhiwllan, ger Llandysul, gyda Llinos fy mhartner a thair o ferched.

Graddiais â BA mewn Efrydiau Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant o Brifysgol Caerdydd yn 2005, cyn cwblhau MA rhan amser mewn Ysgrifennu Creadigol Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor yn 2007. Yn 2006 cwblheais gwrs hyfforddi'r Press Association yn eu canolfan yn Newcastle upon Tyne, gan ddysgu sgiliau newyddiadurol gan gynnwys ysgrifennu llawrydd 100 gair y munud.

Wedi cwblhau’r cwrs hwnnw cefais fy mhenodi yn ohebydd i Gylchgrawn Golwg, ac yna yn Ddirprwy Olygydd yn 2007. O fis Ionawr 2009 ymlaen roeddwn i’n Brif Is-Olygydd ar wefan Golwg 360, cyn dechrau ar fy ymchwil ym mis Medi 2011. Yn 2008 enillais Wobr Goffa Daniel Owen am fy nofel gyntaf, Igam Ogam, a ysgrifennwyd yn rhan o fy nghwrs MA Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor. Cyhoeddwyd fy ail nofel, Yr Argraff Gyntaf, ym mis Awst 2010.

Mae fy mlog personol ar gael fan hyn: http://ifanmj.blogspot.com/

I'r brig

Mair LennyMair Lenny

PhD (Cymraeg): ‘O’r gymuned ffuglennol i’r genedl ddychmygol: ffuglen Gymraeg a’r hunaniaeth genedlaethol c.1985 i c. 2011.’

Noddir gan AHRC

Cefais fy ngeni a’m magu yn Aberystwyth. Enillais ddwy ysgoloriaeth i’m galluogi i ddilyn cwrs gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Symudais i Fangor yn y flwyddyn 2007 a bellach rwyf wedi ymgartrefi yn llwyr yma. Agorodd y profiad hwn nifer o ddrysau i mi yn bersonol gan lwyddo i ehangu fy ngwybodaeth a thanio fy nychymyg er mwyn parhau gyda fy astudiaethau ym Mhrifysgol Bangor.

Derbyniais nawdd oddi wrth yr AHRC er mwyn cyflawni fy ngradd meistr yn y Gymraeg. Canolbwyntiais yn benodol ar y ddelwedd o’r gymuned oddi fewn i lenyddiaeth fodern Gymraeg. Llwyddais i ddatblygu nifer o sgiliau  ymchwil yn ystod y cyfnod hwn drwy gefnogaeth ddiflino fy nhiwtor, Yr Athro Jerry Hunter. Ynghyd â hyn teimlais yr ysfa i dwrio ac i ymchwilio’n ddyfnach i mewn i’r dylanwad anorfod hwnnw y mae’r gymdeithas wedi ei chael ar lenyddiaeth Gymraeg. Derbyniais nawdd unwaith yn rhagor oddi wrth yr AHRC er mwyn parhau gyda fy ymchwil a chael y fraint o ddilyn cwrs PhD yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor.

Hyd yma, rwyf yn cael boddhad mawr yn dilyn y cwrs PhD ac rwyf wedi profi cefnogaeth academaidd ac ymarferol ragorol oddi wrth staff Ysgol y Gymraeg. Teimlaf fod yr ymchwil yn fy ngalluogi i ddatblygu fel unigolyn yn academaidd ac yn gyffredinol wrth ystyried gwahanol gysyniadau oddi fewn i’m maes ymchwil academaidd personol.

Yn ogystal â dilyn cwrs PhD rwy’n diwtor y modiwl ail iaith ‘Cymraeg Llafar’. Rhaid dweud bod y profiad hwn yn fy ngalluogi i drosglwyddo gwybodaeth mewn modd gwahanol. Mae wedi bod yn her ac yn foddhad ar yr un pryd.

I'r brig

Dr Angelika Heike Rüdiger

PhD(Cymraeg, rhan-amser)

Mae Dr Rüdiger yn arwchilio i ystyron a motiffau sy’n gysylltiedig â’r Tylwyth Teg a’u datblygiad mewn llenyddiaeth a llên gwerin Cymru o’r Oesoedd Canol hyd heddiw.

Astudiodd Angelika Gemeg ym Mhrifysgol Tübingen yn yr Almaen ar gyfer “diplom”. Wedi cael “diplom” aeth yn ymchwilydd ar spectrometreg mas yn y Gesellschaft für biotechnologische Forschung. Yn 1996, graddiodd “Dr. rer.nat.” (summa cum laude) ym Mhrifysgol Braunschweig. Gweithiodd yn Gesellschaft für biotchnologische Forschung Prifysgol Odense ac yn Ysbyty Gießen rhwng y blynyddoedd 1996-2000.

Newidiodd i  i faes Addysgeg wedi cyfnod mamolaeth, ac ers 2008 mae’n athrawes, yn addysgu  Cemeg a Ffiseg yn Ysgol  Philipp-Matthäus-Hahn yn Dürtingen.

Yn 2012 enillodd Dr Rüdiger MA o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, am ei hastudiaeth o'r modd y datblygodd cymeriad Gwyn ap Nudd mewn llenyddiaeth a llên gwerin Cymru o’r Oesoedd Canol hyd at y cyfnod presennol.

Cyhoeddiad Cysylltiedig

'Gwyn ap Nudd: Transfigurations of a character on the way from medieval literature to neo-pagan beliefs', Gramarye- The Journal of the Sussex Centre for Folklore, Fairy Tales and Fantasy, 2 (2012), pp.29-48.

Papurau Cysylltiedig

'Gwyn ap Nudd and the distortion of literary sources'. Cynhadledd “Myth, legends and Folklore”, 17-18 Mai 2011, Prifysgol Caerdydd.

'Gwyn ap Nudd- Transfigurations of a Character on the way from Medieval Literature to Neo-Pagan Beliefs', Cynhadledd “'Folklore and Fantasy', 13-15 Ebrill 2012, Prifysgol Chichester.

'Gwyn ap Nudd and Fionn Mac Cumhaill: Divergent Development of Two Related Characters'. Association of Celtic Students of Ireland and Britain Inaugural Conference, Caeredin, 16 Mawrth 2013.

'Calling  Gwyn ap Nudd and His Queen -Discussing a Medieval Welsh folk custom in the context of Welsh and European literature and custom'. Medievalism Transformed 9th Postgraduate Conference: "Magic in the Web of It: Sorcery and the Supernatural in the Middle Ages", 14 Mehefin 2013

Rhai Cyhoeddiadau eraill

Rüdiger, A-H., Rüdiger, M., Carl, U.D., Trinad, C.,  Roepstorff, P., and Wehland, J.(1999) Affinity mass spectrometry based approaches for the analysis of protein-protein interaction and complex mixtures of peptide-ligands. Anal. Biochem. 275,162-170.

Rüdiger, A-H, Rüdiger, M, Weber, K, Schomburg, D. Characterization of post-translational modifications of brain tubulin by matrix-assisted laser desorption/ionization mass spectrometry: direct one-step analysis of a limited subtilisin digest. Anal. Biochem. 1995, 224, 532-537.

Nimtz, M, Wray, V, Rüdiger, A, Conradt HS. Identification and structural characterization of a mannose-6-phosphate containing oligomannosidic N-glycan from human erythropoietin secreted by recombinant BHK-21 cells.FEBS Lett 1995, 365, 203-208.

Rüdiger, A-H. Massenspektrometrische Untersuchungen zur Charakterisierung von Proteinfaltung und posttranslationalen Modifizierungen.Dissertation, 1996, Universität Carolo-Wilhelmina, Braunschweig.

Gweler hefyd

http://www.biomedexperts.com/Profile.bme/1927653/Angelika_Heike_R%C3%BCdiger

I'r brig

Manon Wyn Williams 

PhD (Cymraeg / Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau): ‘Tri Dramodydd Cyfoes: Meic Povey, Siôn Eirian, ac Aled Jones Williams’

Noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Yn deillio o waith a ysgrifennais ar gyfer modiwlau BA ym Mangor derbyniais y Tlws Drama i Ieuenctid, Tlws yr Ifanc a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Môn 2007, yn ogystal â’r wobr gyntaf am Y Ddrama Orau yn yr Iaith Gymraeg gan Gymdeithas Drama Cymru a’r Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2007. O’r herwydd, penderfynais barhau â’m hastudiaethau a dilyn cwrs M.A. yn rhan amser mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol gan ganolbwyntio ar y ddrama fel cyfrwng.

Fel rhan o’m ffolio creadigol ar gyfer y cwrs M.A. ysgrifennais ddwy ddrama, Disgw’l a Merch o Ers Talwm. Daeth y gyntaf yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2010, a’r ail ddrama yn fuddugol yng nghystadleuaeth cyfansoddi drama, Cymdeithas Ddrama Cymru. Bellach y mae tair o’m dramâu wedi’u cyhoeddi. Yn 2007, enillais Ysgoloriaeth Bryn Terfel, pryd y perfformiais un fonolog a ysgrifennais fel rhan o fy nghwrs B.A. Ers 2008, rwy’n gweithio’n rhan amser fel actores, yn ogystal â chynnal gweithdai drama i ieuenctid mewn ysgolion ac yn Theatr Fach Llangefni.

Mae derbyn gradd yn y Gymraeg wedi bod o werth mawr i mi. Mae wedi fy ngalluogi i gyfuno nifer o’m prif ddiddordebau, megis, drama, actio ac ysgrifennu creadigol, a chreu gyrfa ohonynt.

Mae Ysgol y Gymraeg Bangor yn un arbennig gydag awyrgylch gartrefol a chyfeillgar. Mae staff yr Ysgol wedi bod yn hynod gefnogol i mi drwy gydol fy nghyfnod fel myfyrwraig. Mae eu harbenigedd mewn amrediad eang o wahanol feysydd yn creu corff addysgol hynod gryf sydd wedi rhoi carreg sylfaen gadarn i mi i greu gyrfa broffesiynol. Mae eu cydweithrediad a’u hanogaeth wedi bod yn hynod werthfawr, ac yn parhau i fod felly.

I'r brig

Gruffudd Antur Edwards

MA (Cymraeg): 'Addysg y cynganeddion'

Noddir gan gynllun ATM (yn cyd-weithio â Barddas)

Brodor o Lanuwchllyn yw Gruffudd. Graddiodd mewn Ffiseg o Brifysgol Aberystwyth yn 2013. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar y modd yr hyfforddid beirdd proffesiynol hyd at gwymp y gyfundrefn farddol, ac ar sut y parhaodd y traddodiad yn dilyn hynny.

I'r brig

Llio Mai Hughes

MA (Cymraeg): Ysgrifennu Creadigol

Dan nawdd ATM (Tŷ Newydd/Llenyddiaeth Cymru)

Un o Fryngwran, Ynys Môn, yw Llio, a ddychwelodd i Brifysgol Bangor i ddilyn y cwrs MA Ysgrifennu Creadigol ar ôl ennill gradd BA dosbarth cyntaf mewn Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol yn 2013.

I'r brig

Siôn Elwyn Hughes

MA (Cymraeg): Eisteddfodau Cenedlaethol y 70au a’r cyd-destun hanesyddol’

Dan nawdd ATM (Ensemble Cymru)>

Un o Fethel, ger Caernarfon, yw Siôn Elwyn, a mynychodd Ysgol Bethel ac Ysgol Brynrefail cyn graddio gyda Gradd Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor yn 2013.  

Mae ei ymchwil M.A. yn canolbwyntio ar Eisteddfodau Cenedlaethol y 1970au yng nghyd-destun digwyddiadau hanesyddol a chymdeithasol y cyfnod hwnnw, trwy roi darlun o gyfnod cythryblus a difyr o safbwynt digwyddiadau Eisteddfodol a hanesyddol fel ei gilydd.  

Llifon Jones

MA (Cymraeg): ‘Dramâu Cynan’

Dan nawdd ATM (Gwasg Carreg Gwalch)

Rwyf yn byw ym Melin y Coed ger Llanrwst ond ar fin symud i’r Gaerwen yn Sir Fôn. Roeddwn yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Conwy cyn mynd i Fangor i astudio Cymraeg a Hanes gan ennill BA cyd-anrhydedd.

Wedi astudio cerddi Cynan ar gyfer fy nhraethawd hir pan oeddwn yn fyfyriwr israddedig, penderfynais astudio ei ddramâu ar gyfer fy nghwrs ôl-raddedig. Byddaf yn ysgrifennu ar ei ddwy ddrama fwyaf enwog -- Hywel Harris ac Absalom fy Mab -- ynghyd a’r dramâu y bu iddo eu cyfieithu.

Rwy’n hynod ddiolchgar am imi dderbyn ysgoloriaeth ar y cynllun ATM, sy'n caniatau imi dreulio amser yn gweithio yng Ngwasg Carreg Gwalch, Llanrwst. Rwyf yn mwynhau fy mhrofiadau yn fawr – yn y brifysgol ac yn y wasg. Mae bod yn fyfyriwr ôl-radd yn eich dysgu i fod yn annibynnol (yn fwy felly na bod yn fyfyriwr israddedig) ac i fod yn hunan-ddisgybledig.

I'r brig

James Moffat

MA (Cymraeg): 'Hunangofiannau Cymraeg a Gaeleg'

Ar ôl dechrau dysgu Cymraeg fel oedolyn, roeddwn yn awyddus i fynd ymhellach, a medru defnyddio'r iaith. Gwnes radd Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg ym Mangor, ac reodd yr awyrgylch Cymraeg a Chymreig o gymorth mawr. Wrth glywed yr iaith ym mhob rhan o'r Brifysgol, a medru ei defnyddio mewn pob sefyllfa, tyfodd fy hyder. Yr oedd y rhaglen yn heriol, ond gyda chefnogaeth barod fy nhiwtoriaid, medrais ymestyn fy hun ymhellach nag y credwn oedd yn bosibl.

Bellach rwy'n ddiolchar eto i'r Brifysgol am y cyfle i wneud MA gyda thiwtoriaid gwybodus, gweithgar a chyfeillgar. Dyma gyfle gwych i ddysgwyr ddod allan o'r dosbarth nos ac i mewn i'r byd Cymraeg!

I'r brig

Mathew Penri Williams

MA (Cymraeg): Ysgrifennu Creadigol

Dan nawdd ATM (Gwasg y Bwthyn)

Brodor o Laniestyn, Llŷn, yw Mathew Penri. Mynychodd Ysgol Botwnnog a Choleg Meirion Dwyfor, Pwllheli, cyn graddio gyda gradd dosbath cyntaf yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor yn 2013.

Wedi astudio’r modd y mae’r Gymru wledig yn ceal ei phortreadu mewn llenyddiaeth Gymraeg ar gyfer ei draethawd hir, penderfynodd ar gyfer MA gymharu’r ddelwedd wledig â’r ddelwedd ddinesig a geir mewn llenyddiaeth Gymraeg fodern, cyn mynd ymlaen i ddatblygu’r grefft o ysgrifennu yn greadigol.

I'r brig