Digwyddiadau
Mae’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn er mwyn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’n casgliadau.
Mae arddangosfeydd, darlithoedd cyhoeddus a dyddiau agored yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.
Rydym yn cynnal sesiynau cynefino i fyfyrwyr ac yn cynnig y cyfle i ddisgyblion ysgol, cyfnod allweddol 5 i weld a thrin deunydd gwreiddiol.
Byddwn yn cymeryd rhan yn yr wythnos genedlaethol “Archwiliwch eich Archif” sy’n digwydd fis Tachwedd ac yn ddiweddar rydym wedi cofrestu i fod yn rhan o ddathliadau “Drysau Agored” Cadw fis Medi.
Bydd ein digwyddiadau oll yn cael eu hysbysebu ar y dudalen hon ac ar ein tudalen hafan.